Paratoi, gwasanaethu a chlirio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod ystafelloedd cyfarfod a chynadledda yn cael eu paratoi, eu gwasanaethu a’u clirio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol. Mae ar gyfer porthorion cynadleddau, derbynyddion ac efallai porthorion nos. Mae’n ymwneud â gwirio cyfarpar gwresogi a goleuo, gosod dodrefn a chyfarpar, a threfnu ac ailgyflenwi eitemau fel nwyddau ysgrifennu, diodydd a gwydrau mewn ystafelloedd digwyddiadau. Mae’n ymwneud â chlirio a chloi’r ystafell ar ôl ei defnyddio, hefyd.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, gwasanaethu a chlirio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a gwasanaethu ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
- Casglu unrhyw wybodaeth sy’n cael ei darparu am ofynion y cwsmer, oddi wrth yr adran neu’r person perthnasol
- Cydweithio â threfnydd y cyfarfod/cynhadledd, fel y bo angen
- Gwirio bod y systemau gwresogi a goleuo yn gweithio
- Dilyn cyfarwyddiau ar gyfer trefnu dodrefn a chyfarpar
- Gwirio bod eitemau bwrdd yn lân, heb eu difrodi ac wedi’u gosod yn unol â chais y cwsmer
- Gwirio bod cyfarpar yn barod i’r cwsmer ei ddefnyddio
- Cadw’r ystafell yn lân, yn daclus ac wedi’i chyflenwi
- Ailgyflenwi unrhyw eitemau yn ôl yr angen yn ystod egwyliau
- Diogelu’r ystafell yn ôl y gofyn yn ystod egwyliau
Clirio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
10. Trefnu’r dodrefn ac eitemau bwrdd a ddylai aros yn yr ystafell
11. Storio dodrefn, cyfarpar ac eitemau bwrdd eraill yn y lle cywir
12. Casglu unrhyw lestri a gwydrau budr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
13. Diffodd unrhyw gyfarpar trydanol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
14. Gadael yr ystafell yn barod i’w glanhau
15. Ailosod systemau gwresogi a goleuo
16. Cloi’r ystafell os oes gofyn i chi gwneud hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Safonau eich sefydliad ar gyfer gofal cwsmeriaid a sut i gydweithio â chwsmeriaid yn ystod cynadleddau a chyfarfodydd
- Gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
- O ble dylech chi gael cyfarwyddiadau ar sut i drefnu’r ystafell ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd
- Pam mae’n rhaid gwirio bod yr holl ddodrefn ac eitemau dodrefn yn lân a heb ddifrod
- Pam mae’n rhaid i chi ddefnyddio technegau codi a thrin cywir wrth symud dodrefn ac eitemau trwm eraill
- Sut i reoli systemau gwresogi a goleuo
- Sut i wirio cyfarpar fel sgriniau, taflunyddion, siartiau troi a chyfarpar clyweled arall
- Ble i ddod o hyd i eitemau y gall fod angen eu hailgyflenwi, fel papur siartiau troi, beiros, papur a lluniaeth
- Pam mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod ystafelloedd cyfarfod a chynadledda wedi’u diogelu pan na fyddant yn cael eu defnyddio
- Y mathau o broblemau a allai ddigwydd pan fyddwch chi’n paratoi ac yn gwasanaethu ystafelloedd cyfarfod a chynadledda a sut i ddelio â’r rhain
- Sut i drefnu’r ystafell pan fydd cyfarfod neu gynhadledd wedi dod i ben
- Ble ddylech chi storio dodrefn, cyfarpar ac eitemau eraill nad ydynt yn cael eu gadael yn yr ystafell
- Sut i wneud yn siŵr bod yr ystafell yn barod i’w glanhau
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n clirio ystafelloedd sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Gwybodaeth
14.1 lafar
14.2 ysgrifenedig
2. Cyfarpar
2.1 sgriniau
2.2 taflunyddion
2.3 mathau eraill o gyfarpar clyweled
2.4 rheolyddion o bell
2.5 lid estyn
2.6 siartiau troi
3. Eitemau bwrdd
3.1 gorchudd bwrdd
3.2 gwydrau
3.3 beiros a phapur
3.4 lluniaeth
3.5 addurniadau
Cwmpas Perfformiad
Cyfarpar clyweled arall
Er enghraifft, systemau sain
Gweithdrefnau diogelwch
Gweithdrefnau ar gyfer cloi a datgloi ystafelloedd a chadw llygad am bobl amheus