Casglu a danfon eitemau ar gyfer cwsmeriaid a staff
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu a danfon eitemau fel parseli, dogfennau, eiddo cwsmeriaid a negeseuon. Mae ar gyfer derbynyddion neu borthorion. Mae’r dasg o gasglu neu ddanfon eiddo cwsmeriaid yn effeithlon yn hynod bwysig. Gall yr eiddo fod yn werthfawr iawn i’r cwsmer a gall y danfon neu’r casglu fod yn gysylltiedig â thrafodion busnes y cwsmer neu gall fod am resymau personol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gasglu a danfon eitemau ar gyfer cwsmeriaid a staff
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dilyn cyfarwyddiadau’n gywir wrth gasglu a danfon eitemau
- Casglu a danfon yr eitemau cywir o / i y lle cywir ar yr adeg gywir
- Amddiffyn pob eitem rhag cael ei difrodi neu ei cholli
- Cofnodi’r casglu / danfon yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- Delio â chwsmeriaid a staff yn gwrtais ac yn effeithlon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddilyn cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
- Y mathau o eitemau y gellid gofyn i chi eu casglu a’u danfon
- Y mathau o leoedd y gellir gofyn i chi gasglu eitemau ohonynt a danfon eitemau iddynt a sut i ddod o hyd i’r lleoedd hyn
- Sut i ddelio ag eitemau heb anafu eich hun na difrodi’r eitemau
- Pam mae’n bwysig casglu a danfon ar amser
- Pa gofnodion casglu a danfon y gall fod yn rhaid i chi eu cadw’n gyfredol
- Sut i ddelio â chwsmeriaid a staff eraill pan fyddwch chi’n casglu a danfon
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n casglu ac yn danfon eitemau a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cyfarwyddiadau
1.1 ysgrifenedig
1.2 llafar
2. Eitemau
2.1 eiddo cwsmeriaid
2.2 llythyron a pharseli
2.3 dogfennau
2.4 negeseuon digidol a negeseuon eraill
3. Lleoedd
3.1 y tu mewn i’ch sefydliad
3.2 y tu allan i’ch sefydliad