Gwasanaethu ardaloedd cyhoeddus blaen tŷ
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau a chynnal a chadw ardaloedd fel cynteddau, lifftiau, mynedfeydd a thoiledau cyhoeddus, gan ddefnyddio cyfarpar addas. Mae ar gyfer derbynyddion a staff glanhau. Ardaloedd cyhoeddus ar gyfer cwsmeriaid a gwesteion all roi’r argraff gyntaf o unrhyw sefydliad lletygarwch. Gyda disgwyliadau’n cael eu gwthio’n uwch yn gyson a defnydd mwyfwy o blatfformau cyfryngau cymdeithasol i fynegi beth mae gwesteion yn ei hoffi ai peidio, mae’n rhaid bod yr ardal hon yn lân ac wedi’i chynnal a chadw’n dda.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Wasanaethu ardaloedd cyhoeddus blaen tŷ
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y cyfarpar a’r deunyddiau glanhau cywir ar gyfer yr ardal rydych chi’n ei glanhau
- Codi arwyddion rhybudd perygl os bydd angen yn yr ardal weithio
- Gwisgo cyfarpar diogelu personol sy’n briodol i’r ardal a’r deunyddiau glanhau sy’n cael eu defnyddio
- Glanhau llwch, baw, malurion a marciau sy’n gallu cael eu tynnu o’r arwynebau rydych chi’n eu glanhau
- Storio eich cyfarpar glanhau yn gywir ac yn ddiogel ar ôl eu defnyddio
- Gwaredu deunyddiau glanhau wedi’u defnyddio yn ddiogel, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyfarch cwsmeriaid neu westeion yn briodol ac yn gwrtais, fel y bo’n briodol
- Gwacau cynwysyddion gwastraff / ailgylchu a gwaredu gwastraff / ailgylchu yn gywir
- Trefnu dodrefn yn dwt yn unol â safonau sefydliadol
- Cadw arddangosfeydd yn dwt, yn daclus ac yn gyfredol
- Sylwi ar unrhyw namau yn yr ardal a rhoi gwybod amdanynt i’r aelod priodol o staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Safonau eich sefydliad ar gyfer glanhau a thacluso a pham dylech chi weithio yn unol â’r rhain
- Sut i gydnabod cwsmeriaid yn gywir pan fyddwch chi’n gweithio blaen tŷ
- Sut i ddewis y cyfarpar a’r deunyddiau glanhau cywir ar gyfer yr ardaloedd a’r arwynebau rydych chi’n eu glanhau
- Pryd a sut dylech chi ddefnyddio arwyddion rhybudd perygl pan fyddwch chi’n glanhau
- Pryd dylech chi wisgo cyfarpar diogelu personol a pha fath o gyfarpar diogelu personol i’w wisgo
- Sut i waredu deunyddiau glanhau wedi’u defnyddio yn gywir, a pham
- Y gwahanol arwyddion rhybudd cemegol y dowch ar eu traws a beth yw eu hystyr
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n glanhau a sut i ddelio â’r rhain eich hun neu roi gwybod amdanynt
- Pam mae angen i ardaloedd blaen tŷ fod yn lân, yn daclus ac wedi’u cynnal a chadw’n dda
- Mathau o wastraff / ailgylchu rydych chi’n delio â nhw a sut i’w gwaredu’n gywir ac yn ddiogel
- Sut dylech chi drefnu’r dodrefn mewn ardaloedd blaen tŷ
- Y mathau o arddangosfeydd rydych chi’n gyfrifol amdanynt
- Pam mae’n bwysig cadw arddangosfeydd yn dwt ac yn daclus, ac wedi’u cyflenwi’n dda
- Sut i gadw arddangosfeydd yn dwt, yn daclus ac yn gyfredol
- Y mathau o bethau y gall fod angen eu trwsio mewn ardaloedd blaen tŷ; sut i’w hadnabod a rhoi gwybod amdanynt
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n gweithio blaen tŷ a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Ardaloedd cyhoeddus
16.1 cyntedd
16.2 lifftiau teithwyr
16.3 coridorau a grisiau
16.4 mynedfa
16.5 ardaloedd bwyta ac yfed
2. Cyfarpar glanhau
2.1 mop a bwced
2.2 ysgub a brwsh
2.3 sugnwr llwch
2.4 clytiau glanhau
3. Deunyddiau glanhau
3.1 dŵr
3.2 glanedydd
3.3 llathrydd
3.4 cemegion
4. Arwynebau
4.1 grisiau/rampiau
4.2 lloriau/gorchuddion llawr
4.3 arwynebau gwydr
4.4 dodrefn
4.5 clustogau/llenni a ffabrigau
4.6 metel
4.7 plastig
5. Cynwysyddion gwastraff
5.1 biniau gwastraff / ailgylchu
6. Dodrefn
6.1 cadeiriau
6.2 byrddau
6.3 darnau gosod a gosodiadau golau
7. Arddangosfeydd
7.1 hysbysiadau cyhoeddus
7.2 rheseli cylchgronau/llyfrynnau
7.3 planhigion/addurniadau blodeuol
7.4 lluniau
7.5 arddangosfeydd digidol
7.6 peiriannau gwerthu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arwyddion rhybudd cemegol
Arwyddion ar boteli sy’n dweud wrthych pa fath o gemegion rydych chi’n eu defnyddio
Namau
Er enghraifft, nid yw goleuadau’n gweithio, difrod i ddodrefn a gosodiadau ac ati.
Arwyddion rhybudd perygl
Arwyddion sy’n rhybuddio pobl eraill eich bod yn glanhau ac y gall lloriau fod yn wlyb ac yn llithrig
Dillad amddiffynnol
Er enghraifft, oferôls a menig