Gwneud a derbyn galwadau ffôn
URN: PPL1FOH4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio’r ffôn. Mae ar gyfer unrhyw un yn y sefydliad sy’n defnyddio’r ffôn yn rheolaidd, fel derbynnydd neu deleffonydd. Efallai mai dyma fydd cysylltiad cyntaf cwsmer â’r sefydliad, felly mae’n bwysig bod galwadau’n cael eu derbyn, eu gwneud neu eu trosglwyddo yn broffesiynol ac yn effeithlon. Bydd gan bob sefydliad eu set eu hunain o safonau ar gyfer cyflawni’r dasg hon, ond mae’r safon hon yn edrych ar y gofynion sy’n angenrheidiol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Wneud a derbyn galwadau ffôn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi pwrpas yr alwad cyn ei gwneud
- Cael enw a rhif y person y byddwch chi’n cysylltu â nhw
- Cysylltu â’r person gofynnol
- Cyfleu gwybodaeth i gyflawni pwrpas yr alwad
- Crynhoi canlyniadau’r sgwrs cyn gorffen yr alwad
- Rhoi gwybod i’r cydweithiwr priodol am namau ar system y ffôn
- Cyfleu delwedd gadarnhaol ohonoch eich hun ac o’r sefydliad pan fyddwch ar y ffôn, bob amser
- Ateb y ffôn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi pwy yw’r galwr, o ble maen nhw’n ffonio a beth sydd ei angen arnynt
- Darparu gwybodaeth gywir a chyfredol i alwyr, gan amddiffyn cyfrinachedd a diogelwch
- Derbyn a throsglwyddo negeseuon yn unol ag anghenion y galwr
- Delio ag unrhyw broblemau wrth ddelio â galwadau, gan eu cyfeirio at y person priodol, lle bo angen
- Trosglwyddo galwadau yn brydlon, lle bo hynny’n briodol
- Esbonio pan nad yw galwad yn gallu cael ei throsglwyddo, y rheswm pam a chytuno ar gamau gweithredu priodol gyda’r galwr
- Gwirio’n rheolaidd i weld a yw’r galwr eisiau parhau i aros os nad ydych chi’n gallu’u cysylltu â’r estyniad gofynnol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol nodweddion systemau ffôn a sut i’w defnyddio
- Strwythurau sefydliad a sianeli cyfathrebu o fewn sefydliad
- Sut i ddilyn gweithdrefnau sefydliad wrth wneud a derbyn galwadau
- Pwrpas cyfleu delwedd cadarnhaol ohonoch eich hun ac o’r sefydliad
- Pwrpas a gwerth cyfrinachedd a diogelwch wrth ddelio â galwyr
- Y mathau o wybodaeth a allai effeithio ar gyfrinachedd a diogelwch, a sut i ddelio â’r rhain
- Pwrpas crynhoi canlyniadau sgwrs ffôn cyn gorffen yr alwad
- Sut i nodi problemau ac at bwy i’w cyfeirio
- Sut i roi gwybod am namau ar system y ffôn
- Y rhesymau dros nodi pwrpas galwad cyn gwneud yr alwad
- Y gwahanol ddulliau y gelir eu defnyddio i gael enw a rhif y bobl y mae angen cysylltu â nhw
- Sut i ddefnyddio systemau ffôn i gysylltu â phobl y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad
- Sut i nodi pwy yw’r galwr a’i anghenion
- Pwrpas rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol i alwyr
- Y wybodaeth i’w rhoi wrth drosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon neu adael negeseuon
- Sut i nodi’r person priodol i drosglwyddo galwad iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1FOH4
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
4216
Geiriau Allweddol
gwneud, derbyn, galwadau ffôn