Cyfleu gwybodaeth mewn amgylchedd busnes
URN: PPL1FOH3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu ar lafar ac yn ddieiriau mewn amgylchedd busnes. Mae ar gyfer pobl sy’n gorfod cyfathrebu yn ysgrifenedig yn rheolaidd ac sy’n gorfod cyflwyno gwybodaeth ar lafar i gwsmeriaid neu gydweithwyr. Mae’n cynnwys dewis y dull cyfathrebu mwyaf effeithiol a’i ddilyn drwodd i’r pen o ran gwerthuso effeithiolrwydd beth gwnaethoch chi ei gyfleu a sut gwnaethoch chi gyfleu’r wybodaeth.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfleu gwybodaeth mewn amgylchedd busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi pwrpas y cyfathrebu
- Penderfynu pa ddull cyfathrebu i’w ddefnyddio
- Fformatio gwybodaeth ysgrifenedig yn glir ac yn gywir
- Defnyddio iaith sy’n addas i bwrpas y cyfathrebu
- Defnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu yn gywir i wneud yn siŵr bod yr ystyr yn glir
- Gwirio gwaith a gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol
- Cynhyrchu’r cyfathrebu i fodloni terfynau amser, gan adnabod y gwahaniaeth rhwng beth sy’n bwysig a beth sydd ar frys
- Cadw copi ffeil o bob cyfathrebu ysgrifenedig
- Cyflwyno gwybodaeth ar lafar yn glir i bobl eraill
- Cyfrannu at drafodaethau
- Gwrando ar wybodaeth sy’n cael ei chyfathrebu gan bobl eraill
- Gofyn cwestiynau perthnasol i gael eglurhad o unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall
- Ceisio adborth ar p’un a wnaeth y cyfathrebu gyflawni ei bwrpas
- Myfyrio ar ganlyniadau’r cyfathrebu a nodi ffyrdd o ddatblygu sgiliau cyfathrebu ymhellach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros nodi pwrpas cyfathrebu
- Dulliau cyfathrebu a phryd i’w defnyddio
- Sut i ddefnyddio iaith ysgrifenedig sy’n addas i bwrpas y cyfathrebu
- Sut i fformatio gwybodaeth ysgrifenedig yn glir ac yn gywir
- Sut i ddefnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu yn gywir
- Egwyddorion Cymraeg Clir / Plain English
- Y rhesymau dros wirio gwaith
- Sut i adnabod pan fydd gwaith ar frys neu yn bwysig
- Gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer ffeilio cyfathrebiadau ysgrifenedig
- Sut i gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn glir ar lafar
- Sut i gyfrannu at drafodaethau
- Dulliau gwrando gweithredol
- Sut i geisio adborth ar b’un a yw’r cyfathrebu wedi cyflawni ei bwrpas
- Gwerth myfyrio ar ganlyniadau’r cyfathrebu a nodi ffyrdd o ddatblygu sgiliau cyfathrebu ymhellach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1FOH3
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
4216
Geiriau Allweddol
cyfathrebu, busnes, amgylchedd