Darparu gwasanaeth bwyd a diod

URN: PPL1FBS2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Gwasanaeth Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu profiad gwasanaeth bwyd a diod rhagorol i gwsmeriaid. Mae’n cwmpasu cyfarch cwsmeriaid a’u rhoi i eistedd, darparu gwybodaeth i gwsmeriaid i ychwanegu at eu hymweliad, gweini bwyd a diod a’u harddangos yn ddeniadol, a chynnal ardal wasanaeth groesawgar.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i ddarparu gwasanaeth bwyd a diod; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu gwasanaeth bwyd a diod


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cydnabod eich cwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd a helpu gyda’u gofynion, yn unol ag arddull gwasanaeth eich gweithle
  2. Sicrhau bod gan eich cwsmeriaid y fwydlen gywir i ddewis ohoni
  3. Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
  4. Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir a’u prosesu’n effeithlon
  5. Gweini eitemau o’r ansawdd cywir i’ch cwsmeriaid, ar y tymheredd cywir ac yn unol ag arddull a safonau gwasanaeth eich gweithle
  6. Darparu eitemau gwasanaeth, halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd priodol, glân a heb ddifrod i'ch cwsmeriaid
  7. Clirio eitemau gwasanaeth budr, wedi’u defnyddio neu beidio, o ardal y cwsmeriaid ar adegau priodol yn unol ag arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
  8. Sicrhau bod ardal y cwsmeriaid yn cael ei gadw’n ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  9. Ailgyflenwi, ail-lenwi, storio ac arddangos eitemau bwyd a diod pan fydd angen yn ystod y gwasanaeth
  10. Cadw ardal y cwsmeriaid yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer gofal cwsmeriaid ac arddull gwasanaeth a pham dylech chi ddilyn y rhain
  2. Y gweithdrefnau cywir wrth gyfarch a phennu gofynion cwsmeriaid a pham mae’r rhain yn bwysig
  3. Pam mae cywirdeb y wybodaeth a roddir i gwsmeriaid yn bwysig
  4. Pam mae’n bwysig cymryd archebion cwsmeriaid yn gywir a sut i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud hynny
  5. Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid a fydd yn ychwanegu at eu hymweliad ac yn hyrwyddo’ch gweithle
  6. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gyfarch cwsmeriaid a chymryd archebion, a sut i ddelio â’r rhain
  7. Arferion gweithio diogel a hylan wrth weini cwsmeriaid a pham mae’r rhain yn bwysig
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio cyfarpar gwasanaeth priodol, glân a heb ddifrod wrth weini eitemau bwyd a diod i gwsmeriaid
  9. Pam mae’n rhaid rheoli dognau wrth weini cwsmeriaid
  10. Pam mae’n rhaid i fwyd sydd wedi’i baratoi gyntaf gael ei weini’n gyntaf
  11. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini eitemau bwyd a diod a sut i ddelio â’r rhain
  12. Arferion diogel a hylan ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd gwasanaeth cwsmeriaid a pham mae’r rhain yn bwysig
  13. Pam mae’n rhaid cadw ardaloedd gwasanaeth cwsmeriaid yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
  14. Pam mae’n rhaid cynnal stoc gyson o eitemau gwasanaeth a’r halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd priodol

Cwmpas/ystod

1. Cwsmeriaid
14.1 ag anghenion cyffredin
14.2 ag anghenion anghyffredin

2. Arddulliau gwasanaeth
2.1 wrth y bwrdd
2.2 ar hambwrdd
2.3 wrth y cownter / tecawe
2.4 ar droli
2.5 bwffe / cerfdy

3. Gwybodaeth
3.1 eitemau sydd ar gael
3.2 cyfansoddiad seigiau
3.3 prisiau, cynigion arbennig, hyrwyddiadau

4. Eitemau gwasanaeth
4.1 llestri
4.2 cytleri
4.3 napcynnau
4.4 hambyrddau
4.5 cytleri gweini

5. Halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd
5.1 sesnin
5.2 siwgrau / melysyddion
5.3 sawsiau / dresins wedi’u paratoi
5.4 eitemau bara wedi’u paratoi

6. Eitemau bwyd a diod
6.1 eitemau bwyd poeth
6.2 eitemau bwyd oer
6.3 diodydd poeth
6.4 diodydd oer


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1FBS2

Galwedigaethau Perthnasol

Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar

Cod SOC

9264

Geiriau Allweddol

darparu; gwasanaeth bwyd a diod