Cynllunio gweithrediadau chwilio ac achub mewn amgylchedd morol, a’u cyflawni

URN: MSAA42
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Maritime Skills Alliance
Cymeradwy ar: 31 Ion 2012

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cwmpasu’r cymhwysedd sy’n ofynnol wrth gynllunio a chydlynu gweithred chwilio ac achub morol. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, briffio’r bobl sy’n cymryd rhan a chyfeirio gweithrediadau chwilio ac achub.

Grŵp Targed
Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion ar lefel weithredol sy’n gyfrifol am gyflawni gweithrediadau chwilio ac achub mewn argyfwng mewn amgylchedd morol, sy’n cynnwys gweithrediadau ar ddyfroedd mewndirol ac arfordirol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael yr holl wybodaeth sydd ar gael am y digwyddiad a natur unrhyw anafiadau
  2. sefydlu amodau’r tywydd, y cerrynt a’r llanw presennol sy’n effeithio ar leoliad y digwyddiad
  3. sefydlu’r pwynt datwm ar gyfer dechrau’r chwilio
  4. cydweithio â phob parti perthnasol yn brydlon ac yn gywir, gan roi’r manylion angenrheidiol iddynt am y digwyddiad ac unrhyw anafiadau
  5. nodi a chadarnhau’r llinellau awdurdod priodol wrth gyfeirio’r chwilio ac achub
  6. asesu gwybodaeth a sefydlu’r math mwyaf priodol o gynllun chwilio ac achub i’w ddefnyddio
  7. pennu’n gywir a oes peryglon yn gysylltiedig â’r digwyddiad sy’n effeithio ar y weithred neu ar longau eraill yn yr ardal a, lle bo angen, hysbysu pob parti perthnasol am y perygl yn brydlon ac yn gywir
  8. briffio’r bobl sy’n cymryd rhan yn y weithred chwilio ac achub yn gywir ac yn gryno, gan ddefnyddio iaith glir a diamwys
  9. cynnal y weithred chwilio ac achub yn unol â’r cynllun
  10. cynnal cofnodion cyfredol a chywir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o ddigwyddiad a all fod, sy’n gofyn am weithred chwilio ac achub
  2. pwysigrwydd cynllunio effeithiol mewn gweithrediadau chwilio ac achub, sut i wneud hyn o fewn eich awdurdod a’ch cyfrifoldeb, a pha broblemau/pwyntiau/ardaloedd y mae angen i gynlluniau fynd i’r afael â nhw
  3. pwysigrwydd sefydlu pwynt datwm cywir, sut i wneud hyn a’r ffactorau i’w hystyried wrth ei gyfrifo
  4. ffynonellau a gweithdrefnau i sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ar gael yn cael ei sicrhau ynghylch digwyddiadau ac anafiadau, gan gynnwys dulliau ar gyfer eu lleoli
  5. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer rhagolygon tywydd cyfredol a gwybodaeth gyfredol am gerhyntau a’r llanw, a sut i gael atynt
  6. y prif fathau o beryglon posibl y gellir dod ar eu traws wrth ymgymryd â gweithrediadau chwilio ac achub, ac y gallai’r digwyddiad fod wedi’u hachosi, a’r camau gweithredu sy’n briodol ar gyfer mynd i’r afael â pheryglon o’r fath, gan gynnwys pwy i’w hysbysu
  7. dulliau ar gyfer plotio gwybodaeth am leoliad digwyddiad ar siart
  8. amrywiol fathau o batrymau chwilio, a’r sefyllfaoedd pan y gallai’r rhain gael eu defnyddio, a pham
  9. pwysigrwydd sicrhau bod cyfarwyddiadau yn glir a diamwys
  10. y trydydd partïon hynny a allai gymryd rhan mewn gweithrediadau chwilio ac achub, a’u rolau a’u cyfrifoldebau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

MSA

URN gwreiddiol

MSAA42

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

chwilio, achub, morol