Cyfeirio’r ymateb i argyfyngau ar fwrdd llong

URN: MSAA14
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Maritime Skills Alliance
Cymeradwy ar: 31 Ion 2012

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cwmpasu’r cymhwysedd sy’n ofynnol ar gyfer cyfeirio unrhyw ymateb mewn argyfwng ar fwrdd llong, gan gynnwys tân, cyfyngder, taro’r gwaelod a gwrthdrawiadau, tywydd garw, colli gyriant neu’r llyw, tynnu, llygredd a bygythiad terfysgol. Mae’n cwmpasu diffinio a chynllunio strategaethau i ddelio ag argyfyngau a chyfeirio gweithrediadau brys i sicrhau’r diogelwch mwyaf.
 
Grŵp targed
Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion ar lefel reoli sydd â chyfrifoldeb am gynllunio strategaethau ar ffwrdd llong yn gysylltiedig â sefyllfaoedd argyfwng ar long o unrhyw faint sy’n gweithio mewn unrhyw faes gweithredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’n gywir natur argyfyngau posibl, asesu gwybodaeth berthnasol yn gysylltiedig â phob math o argyfwng a chynllunio ymatebion priodol
  2. llunio strategaethau a chynlluniau wrth gefn i sicrhau’r diogelwch mwyaf a lleihau colledion, sy’n defnyddio personél a chyfarpar i’r eithaf ar gyfer tasgau a gweithgareddau brys
  3. sicrhau bod driliau ac ymarferion yn cael eu cyflawni yn unol â’r strategaethau a’r cynlluniau
  4. rheoli gweithrediadau brys a gweithredu er mwyn sicrhau diogelwch personél a’r llong i’r eithaf yn ystod argyfwng, yn unol â strategaethau a chynlluniau wrth gefn a nodwyd
  5. gweithredu unrhyw newid neu amrywiad gofynnol i’r strategaeth argyfwng mewn modd effeithiol ac amserol
  6. cyfathrebu’n effeithiol i fodloni gofynion statudol a sefydliadol
  7. cadw cofnodion a llunio adroddiadau sy’n gyflawn, yn gywir ac yn bodloni gofynion statudol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i fonitro a rheoli cydymffurfiad â gofynion deddfwriaethol a mesurau i sicrhau diogelwch bywyd ar y môr ac amddiffyn amgylchedd y môr
  2. sut i gynnal diogelwch a diogeledd pawb sydd ar fwrdd y llong a chyflwr gweithredol systemau achub bywyd, ymladd tân a systemau diogelwch eraill
  3. sut i ddatblygu cynlluniau rheoli argyfwng a difrod a’r strategaethau i ymdrin â sefyllfaoedd argyfwng
  4. defnyddio systemau cyfathrebu mewnol a mathau effeithiol o gyfathrebu
  5. dulliau a chymhorthion atal, canfod a diffodd tân
  6. swyddogaethau Teclynnau Achub Bywyd a’r defnydd ohonynt
  7. sut i reoli gweithrediadau ymladd tân ar fwrdd llong
  8. sut i drefnu a hyfforddi partïon tân
  9. sut i archwilio a gwasanaethu systemau a chyfarpar canfod a diffodd tân
  10. sut i ymchwilio i ddigwyddiadau a llunio adroddiadau arnynt
  11. sut i gymryd cyfrifoldeb am gwch goroesi neu gwch achub yn ystod ac ar ôl lansio
  12. sut i reoli goroeswyr a chychod goroesi ar ôl gadael y llong
  13. sut i ddefnyddio dyfeisiau lleoli, gan gynnwys cyfarpar cyfathrebu a signalu a thân gwyllt
  14. sut i roi cymorth cyntaf i oroeswyr
  15. trefnu a rheoli’r criw ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng
  16. sut i werthuso a chymhwyso rheoliadau a chanllawiau statudol, cyfarwyddiadau a chanllawiau sefydliadol a chynlluniau wrth gefn y llong
  17. peryglon mannau amgaeedig a sut i achub ohonynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

MSA

URN gwreiddiol

MSAA14

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

Cyfeirio; ymateb brys; ar fwrdd llong; tân; cyfyngder; taro’r gwaelod; gwrthdrawiadau; tywydd garw; colli gyriant; y llyw; tynnu; llygredd; bygythiad terfysgol; diffinio a chynllunio strategaethau