Rheoli’r ymateb i argyfyngau ar ffwrdd llong
URN: MSAA13
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Maritime Skills Alliance
Cymeradwy ar:
31 Ion 2012
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cwmpasu’r cymhwysedd sy’n ofynnol i gynllunio a gweithredu’r gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw argyfwng a all ddigwydd ar fwrdd llong. Mae’n cynnwys tân, cyfyngder, meddygol, taro’r gwaelod a gwrthdrawiadau, tywydd garw, colli gyriant neu’r llyw, tynnu, llygredd a bygythiad terfysgol.
Grŵp Targed
Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion ar lefel reoli sydd â chyfrifoldeb am gynllunio a threfnu gweithdrefnau a chamau gweithredu i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng ar long o unrhyw faint sy’n gweithio mewn unrhyw faes gweithredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio a pharatoi gweithdrefnau priodol i ddelio â sefyllfaoedd argyfwng yn unol â gofynion rheoliadol
- nodi a chymhwyso strategaethau a chynlluniau priodol i wneud y mwyaf o ddiogelwch a lleihau colled, ar sail profiad a gweithdrefnau argyfwng a chynlluniau wrth gefn y llong, fel y bo’n briodol
- pennu achos a natur yr argyfwng a chyfleu gwybodaeth yn brydlon ac yn gywir, fel y bo angen, gan ddefnyddio protocolau argyfwng cywir
- dosbarthu adnoddau i ddelio â’r argyfwng gyda’r effaith fwyaf oll i wneud y mwyaf o ddiogelwch personél a’r llong yn ystod yr argyfwng
- gwneud y mwyaf o’ch diogelwch eich hun a diogelwch personél, o fewn ardal beryglus, o ran dillad, cyfarpar a symud
- monitro gweithrediadau brys a gweithredu er mwyn gwneud y mwyaf o ddiogelwch
- gweithredu unrhyw newid neu amrywiad gofynnol i’r strategaeth argyfwng, mewn modd effeithiol ac amserol
- dod â gweithdrefnau brys i gasgliad ar ôl delio’n llwyddiannus â’r digwyddiad
- cadw cofnodion a llunio adroddiadau sy’n gyflawn, yn gywir ac yn bodloni gofynion statudol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i fonitro a rheoli cydymffurfiad â gofynion deddfwriaethol, a mesurau i sicrhau diogelwch bywyd ar y môr ac amddiffyn amgylchedd y môr
- sut i gynnal diogelwch a diogeledd pawb sydd ar fwrdd y llong a chyflwr gweithredol systemau achub bywyd, ymladd tân a systemau diogelwch eraill
- cynlluniau rheoli argyfwng a difrod y llong a sut i ymdrin â sefyllfaoedd argyfwng
- defnyddio systemau cyfathrebu mewnol a mathau effeithiol o gyfathrebu
- dulliau a chymhorthion atal, canfod a diffodd tân
- sut i reoli gweithrediadau ymladd tân ar fwrdd llong
- sut i drefnu a hyfforddi partïon tân
- sut i archwilio a gwasanaethu systemau a chyfarpar canfod a diffodd tân
- sut i ymchwilio i ddigwyddiadau a llunio adroddiadau arnynt
- swyddogaethau Teclynnau Achub Bywyd a’r defnydd ohonynt
- sut i gymryd cyfrifoldeb am gwch goroesi neu gwch achub yn ystod ac ar ôl lansio
- sut i reoli goroeswyr a chychod goroesi ar ôl gadael y llong
- sut i ddefnyddio dyfeisiau lleoli, gan gynnwys cyfarpar cyfathrebu a thân gwyllt
- sut i roi cymorth cyntaf i oroeswyr
- trefnu a rheoli’r criw ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng
- sut i werthuso a chymhwyso rheoliadau a chanllawiau statudol, cyfarwyddiadau a chanllawiau sefydliadol a chynlluniau wrth gefn y llong
- peryglon mannau amgaeedig a sut i achub ohonynt
18.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
MSA
URN gwreiddiol
MSAA13
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
3550
Geiriau Allweddol
Cynllunio; gweithredu; gweithdrefnau; argyfwng ar fwrdd llong; tân; cyfyngder; meddygol; taro’r gwaelod; gwrthdrawiadau; tywydd garw; colli gyriant neu’r llyw; tynnu; llygredd; bygythiad terfysgol