Ymateb i argyfyngau ar fwrdd llong
URN: MSAA12
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Maritime Skills Alliance
Cymeradwy ar:
31 Ion 2012
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cwmpasu’r cymhwysedd sy’n ofynnol i adnabod argyfyngau ar fwrdd llong, gwneud asesiad o’r digwyddiad a gweithredu, fel y bo gofyn, mewn gweithdrefnau argyfwng a chynlluniau gwrth gefn.
Grŵp targed
Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion ar y lefel weithredol sydd â chyfrifoldeb am ymateb i argyfyngau ar fwrdd llong o unrhyw faint sy’n gweithio mewn unrhyw faes gweithredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod natur yr argyfwng a chymryd camau cychwynnol i gydymffurfio â gweithdrefnau argyfwng y llong
- seinio’r rhybudd yn brydlon trwy’r dull mwyaf priodol sydd ar gael a chyfleu gwybodaeth berthnasol i sefydliadau perthnasol yn brydlon ac yn gywir
- gweithredu’r gweithdrefnau angenrheidiol o ran gwacáu, cau mewn argyfwng, ynysu ac ymgynnull
- cymryd camau perthnasol ar sail asesiad llawn a chywir o’r digwyddiad, gan gydymffurfio â gweithdrefnau argyfwng a chynlluniau wrth gefn
- asesu unrhyw ofynion cymorth cyntaf a rhoi triniaeth effeithiol a phriodol ar gyfer anafiadau, yn unol ag egwyddorion, arferion a chanllawiau cydnabyddedig
- pennu unrhyw ofynion ymladd tân, trefnu a llunio cynnwys partïon tân, fel y bo gofyn, er mwyn sicrhau bod cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng yn cael eu gweithredu’n brydlon ac yn effeithiol
- achub a chludo unrhyw bobl sydd wedi’u hanafu gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol i’w cyflwr
- sicrhau bod cychod goroesi yn cael eu paratoi a’u lansio’n gywir a defnyddio technegau goroesi sy’n gwneud y mwyaf o’ch diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill yn unol â gweithdrefnau argymelledig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o sefyllfaoedd argyfwng a all ddigwydd – e.e. gwrthdrawiad, tân, ymddryllio, cymryd dŵr i mewn
- sut i gydymffurfio â gweithdrefnau argyfwng
- defnyddio systemau cyfathrebu mewnol a mathau effeithiol o gyfathrebu
- y mathau o declynnau achub bywyd sy’n cael eu cludo fel arfer ar longau
- y cyfarpar mewn cychod goroesi a’r defnydd ohono
- egwyddorion goroesi
- sut i reoli gweithrediadau ymladd tân ar fwrdd llong
- sut i drefnu a hyfforddi partïon tân
- sut i archwilio a gwasanaethu systemau a chyfarpar canfod a diffodd tân
- y rhagofalon er mwyn atal llygru amgylchedd y môr
- sut i ymchwilio i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â thân, a llunio adroddiadau arnynt
- sut i roi cymorth cyntaf ar unwaith os bydd damwain neu salwch ar fwrdd y llong
- cymhwyso rheoliadau a chanllawiau statudol, cyfarwyddiadau a chanllawiau sefydliadol a chynlluniau wrth gefn y llong
- sut i weithredu i ymateb i weithgarwch terfysgwyr/môr-ladron
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
MSA
URN gwreiddiol
MSAA12
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
3550
Geiriau Allweddol
Adnabod; argyfyngau; ar ffwrdd llong; asesu; digwyddiad; gweithredu; gweithdrefnau argyfwng; cynlluniau wrth gefn