Ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch, iechyd ac amgylcheddol, a’u hadolygu
URN: MPQSHE06
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: MPQC
Cymeradwy ar:
22 Awst 2019
Trosolwg
Beth mae’r safon hon yn ymwneud ag ef?*
Mae cyflawni’r safon hon yn dangos eich cymhwysedd i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch, iechyd ac amgylcheddol, a’u hadolygu. Byddwch yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol a’i pharatoi, ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch, iechyd ac amgylcheddol, ac adolygu a chyfleu eich canlyniadau.
I bwy mae’r safon hon?*
Mae’r safon hon yn berthnasol i unrhyw un ar lefel oruchwylio neu reoli sydd wedi’i gymeradwyo i gyflawni’r swyddogaeth hon ac sy’n gweithio yn y sector echdynnu mwynau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyflawni eich gwaith yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau’r diwydiant
- Paratoi dogfennau a deunyddiau ategol ar gyfer ymchwiliad
- Dewis, gwirio a gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol ar gyfer yr ymchwiliad
- Ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch, iechyd ac amgylcheddol
- Adolygu canlyniadau ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch, iechyd ac amgylcheddol
- Sefydlu a chynnal cofnodion ac adroddiadau cywir yn unol â rheoliadau, deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau’r cwmni, ac arfer gorau’r diwydiant
- Cyfleu eich canfyddiadau ar draws hierarchaeth eich cwmni, o fewn terfynau amser y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol, polisïau a gweithdrefnau’r cwmni, ac arfer gorau’r diwydiant
- Sut i ddewis, gwirio a gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol ar gyfer y dasg
- Technegau a methodolegau ymchwiliadau i ddigwyddiadau
- Dulliau ar gyfer dadansoddi data meintiol ac ansoddol yn feirniadol, a dehongli’r data hwnnw
- Pwy y mae’n rhaid eu hysbysu am eich gweithgareddau ymchwilio
- Yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer yr ymchwiliad
- Dulliau ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth ddibynadwy i gefnogi ymchwiliad
- Ffyrdd o asesu methiannau ac adnabod eu gwir achos
- Dulliau o ganfod effaith unrhyw anafiadau a/neu ddifrod o ganlyniad
- Costau uniongyrchol ac anuniongyrchol digwyddiad, a sut mae’r rhain yn cael eu cyfrifo
- Beth yw argyfwng
- Pam mae’n rhaid i chi gynnal, monitro ac adolygu driliau diogelwch
- Datblygiad cynlluniau gweithredu CAMPUS ar gyfer gweithredu unrhyw argymhellion o ganlyniad
Cwmpas/ystod
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) fel:
- Amddiffyniad i’r pen
- Dillad adlewyrchol
- Amddiffyniad i’r llygaid
- Amddiffyniad i'r clustiau
- Amddiffyniad y dwylo
- Esgidiau diogelwch
- Amddiffyniad resbiradol
- Amddiffyniad i‘r croen
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
22 Awst 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
MPQC
URN gwreiddiol
MPQSHE06
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr Iechyd a Diogelwch, Rheolwr Amgylcheddol
Cod SOC
3550
Geiriau Allweddol
SHE; Iechyd; Diogelwch; Amgylcheddol; chwarel, chwarela; MPQC