Cefnogi cleientiaid i adolygu cynlluniau gweithredu
URN: LSIAG419
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad,Gwasanaethau Cynnal Datblygiad Dysgu (adolygwyd yn 2009)
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cleientiaid trwy roi cyngor ac arweiniad i adolygu eu cynlluniau gweithredu cyflawniad. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. darparu cyfleoedd i gleientiaid adolygu cynnydd a chyflawniadau'r camau gweithredu sydd ar waith
2. cadarnhau'r camau gweithredu a gymerwyd, mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion cleientiaid
3. adolygu amcanion allweddol a chyfnodau'r camau gweithredu gyda'r cleient
4. cytuno gyda chleientiaid ar yr amcanion a gyflawnwyd, a'r rhai na chyflawnwyd
5. adolygu addasrwydd y dulliau a ddefnyddir gan gleientiaid i roi'r camau gweithredu ar waith, yn unol ag arfer da cydnabyddedignodi materion a wynebwyd wrth roi'r camau gweithredu ar waith
6. darparu cyfleoedd addas i gleientiaid gasglu adborth am gynnydd
7. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol yng nghyswllt cynorthwyo cleientiaid i adolygu cyflawniad cynlluniau gweithredu
8. cofnodi rhyngweithiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau'r cleientiaid
4. modelau perthnasol o arfer da ar gyfer cynorthwyo cleientiaid i adolygu eu cyflawniadau
5. gweithdrefnau ar gyfer adolygu cynnydd, gan gynnwys;pa mor aml dylid adolygu cynnydd a chyflawniadau
6. sut mae canfod y camau gweithredu a gymerwyd
7. sut mae adolygu'r amcanion a'r cyfnodau allweddol
8. sut mae nodi'r cyflawniadau
9. beth yw'r arwyddion nad yw'r amcanion wedi cael eu cyflawni
10. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer rhoi gwahanol gamau gweithredu ar waith
11. pam gallai dulliau gwahanol fod yn addas ar gyfer cleientiaid a pha fathau o broblemau y gall cleientiaid ddod ar eu traws wrth ddefnyddio gwahanol ddulliau
12. sut mae asesu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau
13. y mathau o faterion a allai godi, y camau i'w cymryd i ymdrin â hwy, a goblygiadau peidio â gwneud hynny
14. sut mae casglu gwybodaeth am y gofynion ar gyfer adolygu cynlluniau gweithredu
15. pa fathau o adborth y dylid eu darparu
16. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Chwef 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygiad
URN gwreiddiol
SFD419
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Addysgu, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cyngor; cymorth; cyflawniad