Paratoi a threfnu cyfryngu

URN: LSIAG28
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwasanaethau cyfryngu. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n paratoi gwasanaethau cyfryngu ac yn eu trefnu ar gyfer eraill. 
 
Mae'r safon yn edrych ar sut mae sicrhau priodoldeb y broses gyfryngu gyda chleientiaid, a sut mae cytuno ar amodau a ffiniau'r broses gyfryngu. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. esbonio eich rôl yn y prosesau cyfryngu yn unol â gofynion sefydliadol
2. esbonio sut bydd agwedd ddiduedd yn cael ei chynnal wrth gyfryngu yn unol â gofynion sefydliadol
3. cynnal asesiadau risg ar gyfer cyfryngu sy'n diwallu anghenion cleientiaid a gofynion sefydliadol
4. gwirio bod lleoliadau ac amgylcheddau cyfryngu yn briodol ar gyfer anghenion cleientiaid ac asesiadau risg
5. esbonio diben ac egwyddorion prosesau cyfryngu ar gyflymdra a chan ddefnyddio iaith sy'n briodol ar gyfer y cleientiaid 
6. esbonio cyfyngiadau posibl cyfryngu yn unol ag anghenion cleientiaid 
7. gwirio dealltwriaeth cleientiaid o'r broses gyfryngu, gan egluro'r wybodaeth yn ôl y galw, yn unol â gofynion sefydliadol
8. annog cleientiaid i ofyn cwestiynau i'w helpu i benderfynu ar briodoldeb cyfryngu ar gyfer eu sefyllfa 
9. annog cleientiaid i fynegi eu pryderon ynghylch prosesau cyfryngu
10. sefydlu ymrwymiad cleientiaid i brosesau cyfryngu, yn unol â'u hanghenion 
11. trin cleientiaid mewn ffyrdd sy'n hybu cydweithredu a defnydd cadarnhaol o gyfryngu, yn unol ag arfer da cydnabyddedig  
12. esbonio opsiynau amgen mewn sefyllfaoedd lle mae cyfryngu neu ddefnyddio cyfryngwyr penodol yn amhriodol 
13. cymhwyso egwyddorion cyfryngu mewn ffyrdd cyson ar hyd y broses 
14. dyfeisio strategaethau perthnasol er mwyn dod â chleientiaid sy'n anghydweld i brosesau cyfryngu 
15. sicrhau caniatâd cleientiaid ar gyfer modelau ac amodau cyfryngu arfaethedig 
16. cytuno ar egwyddorion cyfranogiad cytbwys y ddau gleient yn unol â'u hanghenion
17. canfod natur a phriodoldeb materion ar gyfer cyfryngu, yn unol ag anghenion cleientiaid 
18. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol wrth baratoi ar gyfer cyfryngu a'i drefnu 
19. cofnodi gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol 2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd 3. egwyddorion cyfryngu 4. sut mae gwirio dealltwriaeth cleientiaid a sut mae eu helpu i ddeall gwybodaeth a roddir iddynt 5. sut mae trin cleientiaid mewn ffyrdd sy'n hybu cydweithrediad a defnydd cadarnhaol o gyfryngu 6. arddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion cleientiaid 7. sut mae sicrhau ymrwymiad cleientiaid a beth mae hyn yn debygol o olygu, gan gynnwys;  7.1  annog penderfyniadau gwybodus gan bartïon  7.2  ymreolaeth ac adolygu opsiynau eraill 8. opsiynau amgen, gan gynnwys cyfeirio at asiantaethau neu gyfryngwyr eraill 9. modelau ac elfennau'r broses​ gyfryngu 10. yr amgylcheddau a allai fod yn fwyaf hwylus ar gyfer cyfathrebu effeithiol 11. sut mae cyfryngu'n ymwneud â'r sefyllfa gyfreithiol i gleientiaid 12. rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r broses gyfryngu 13. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG28

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus

Cod SOC


Geiriau Allweddol

darpariaeth gyfryngu; cyngor; canllawiau; cyfryngu