Hwyluso dysgu mewn grwpiau
URN: LSIAG27
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso dysgu mewn grwpiau. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gydag eraill mewn amgylchedd dysgu/grŵp.
Mae'r safon yn edrych ar sut mae rheoli deinameg grŵp a beth mae angen ei ystyried wrth hwyluso dysgu cydweithredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynllunio sesiynau grŵp sy'n cynnwys gweithgareddau sy'n cwmpasu amrywiaeth o arddulliau dysgu, gan bennu nodau ac amcanion
2. cynnal y dysgu oddi mewn i grwpiau drwy ddefnyddio eich sgiliau hwyluso, rheoli ac ymyrryd
3. creu cydbwysedd rhwng y tasgau sydd i'w cyflawni a phroses y grŵp
4. annog aelodau'r grŵp i gyfranogi, ochr yn ochr â sicrhau eu bod yn teimlo'n gyfforddus, ac yn unol â'u hanghenion
5. cynnal dull, lefel a chyflymdra cyfathrebu priodol gydag aelodau'r grŵp, yn unol â'u hanghenion
6. herio unrhyw ymddygiad annerbyniol mewn grwpiau, yn unol â gofynion sefydliadol
7. cytuno ar ddiben, proses a chanlyniad arfaethedig gweithgareddau gyda grwpiau
8. addasu gweithgareddau grŵp yn ôl maint a chyfansoddiad grwpiau
9. rheoli amseriad a chyflymdra gweithgareddau grŵp
10. defnyddio addasiadau ac ymyriadau'n effeithiol i wella'r broses ddysgu
11. archwilio gyda grwpiau unrhyw ffactorau sy'n cyfrannu at y gallu i ddysgu
12. annog aelodau'r grŵp i fyfyrio ar sut maen nhw wedi bod yn dysgu ac yn cyfranogi mewn grwpiau
13. monitro cynnydd aelodau'r grŵp yn unol â'u hanghenion
14. rhoi adborth adeiladol i unigolion ar y cynnydd a wnaed yn unol â'u hanghenion
15. rheoli deinameg grŵp yn effeithiol, yn unol ag anghenion grwpiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. cyfathrebu a sut mae addasu arddulliau cyfathrebu fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion dysgwyr
4. gwahanol arddulliau dysgu grwpiau
5. sut mae adnabod sgiliau hwyluso ac ymyrryd a phryd mae eu defnyddio
6. sut mae cydbwyso anghenion tasgau a phrosesau grŵp a sut maen nhw'n effeithio ei gilydd
7. sut mae gwneud i ddysgwyr deimlo'n gyfforddus
8. sut mae dehongli cyfathrebu di-eiriau
9. sut mae ymdrin ag anghenion unigol mewn lleoliadau grŵp
10. ffactorau sy'n debygol o effeithio ar ddysgu ac ymddygiad mewn grwpiau
11. modelau damcaniaethol allweddol gwaith grŵp
12. sut mae ffurfio a chynnal grwpiau
13. sut mae adnabod a delio gyda materion pŵer ac awdurdod mewn grwpiau
14. y gwahanol weithgareddau dysgu sydd ar gael
15. sut mae dilyniannu a threfnu cyflymdra gwybodaeth, a mesur priodoldeb iaith ar gyfer dysgwyr unigol
16. yr ystod o wahanol arddulliau dysgu
17. y dulliau o gasglu safbwyntiau personol a sut mae eu defnyddio
18. sut mae monitro cynnydd y dysgwr mewn lleoliad grŵp
19. yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr
20. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Chwef 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau
URN gwreiddiol
AG27
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dysgu; grwpiau; addysgu; hyfforddiant; rhoi addysg; cyngor; arweiniad