Cyd-drafod a chynnal cytundebau gwasanaeth
URN: LSIAG26
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyd-drafod a chynnal cytundebau gwasanaeth gyda phartïon eraill perthnasol. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Mae'r safon yn cwmpasu'r hyn y mae angen ei ystyried wrth gyd-drafod cytundebau gwasanaeth, a sut mae monitro a gwerthuso cytundebau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi partïon a sefydliadau priodol ar sail polisi gwasanaeth
2. cadarnhau bod y ddau barti yn darparu gwybodaeth gywir, gyflawn, yn unol â gofynion sefydliadol
3. cadarnhau bod y ddau barti yn derbyn gwybodaeth gywir, gyflawn, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cynnal cyd-drafodaethau yn unol â gofynion sefydliadol a gofynion y sefydliad sy'n derbyn
5. archwilio'r opsiynau gwasanaeth sydd ar gael i ddiwallu anghenion cleientiaid
6. trafod gofynion gyda chleientiaid mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion
7. dewis yr opsiynau gwasanaeth a ffafrir i ddiwallu anghenion cleientiaid
8. llunio cytundebau gwasanaeth yn unol â gofynion sefydliadol
9. sicrhau unrhyw gymeradwyaeth angenrheidiol yn unol â gofynion sefydliadol
10. gwerthuso cytundebau gwasanaeth i sicrhau eu heffeithiolrwydd
11. rhoi adborth ar effeithiolrwydd cytundebau gwasanaeth i bartïon eraill
12. ceisio adborth ar effeithiolrwydd cytundebau gwasanaeth gan bartïon eraill
13. nodi problemau sy'n ymwneud â chytundebau gwasanaeth yn unol â gofynion sefydliadol
14. cymryd camau i ddatrys problemau a nodwyd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac yn unol â thelerau cytundebau gwasanaeth
15. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol, yng nghyswllt cyd-drafod a chynnal cytundebau gwasanaeth
16. cofnodi unrhyw gymeradwyaeth angenrheidiol yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau'r cleientiaid
4. partïon eraill priodol y mae'n rhaid dod i gytundeb â nhw
5. eich rôl a'ch cyfrifoldebau chi ac eraill
6. sut mae cyflwyno, hyrwyddo a chyd-drafod cytundebau gwasanaeth gyda phartïon eraill
7. dulliau o gadw mewn cysylltiad â phartïon eraill wrth gyd-drafod cytundebau gwasanaeth
8. natur y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddiwr terfynol
9. dulliau o fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd cytundebau gwasanaeth
10. dulliau o ddadansoddi gwybodaeth
11. diben, cwmpas, dulliau a mathau o adborth
12. camau i'w cymryd i ddatrys problemau
13. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Chwef 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau
URN gwreiddiol
AG26
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwasanaeth; cytundeb; cyd-drafod; darparu gwasanaeth; cyngor; arweiniad