Gweithredu oddi mewn i rwydweithiau
URN: LSIAG18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu oddi mewn i rwydweithiau cyngor. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Mae'r safon yn edrych ar gynnal aelodaeth oddi mewn i rwydweithiau a beth dylid ei ystyried wrth gyfnewid gwybodaeth gydag eraill oddi mewn i rwydweithiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi rhwydweithiau y gellid eu defnyddio er budd gwasanaethau
2. cadarnhau bod rhwydweithiau'n bodloni eich meini prawf eich hun a rhai'r gwasanaeth ar gyfer cyfranogiad
3. cynnal cysylltiadau personol oddi mewn i rwydweithiau er mwyn mwyafu cydweithredu effeithiol
4. gweithredu i ymdrin ag unrhyw broblemau a nodwyd gyda rhwydweithiau, yn unol â gofynion sefydliadol
5. nodi pobl briodol y gallwch gyfnewid gwybodaeth gyda hwy, yn unol â ffiniau sefydliadol
6. gwirio bod gwybodaeth sy'n cael ei chyfnewid yn gywir ac yn addas at y diben sy'n ofynnol
7. cadarnhau bod pobl wedi cael eu briffio'n eglur ynghylch cyfnewid gwybodaeth, yn unol â ffiniau sefydliadol
8. cytuno ar derfynau amser realistig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
9. darparu adborth addas ar gyfraniad rhwydweithiau i waith gwasanaethau
10. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol mewn perthynas â gweithredu oddi mewn i rwydweithiau
11. cofnodi gwybodaeth sydd wedi'i chyfnewid, yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. cyfathrebu a sut mae addasu arddulliau cyfathrebu fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion eraill
4. pa fathau o rwydweithiau sy'n bodoli, sydd wedi cael eu defnyddio o'r blaen, a'r meini prawf sefydliadol ar gyfer cyfranogi mewn rhwydweithiau
5. sut mae casglu gwybodaeth am ofynion
6. sut mae gwirio bod eich cyfraniadau i rwydweithiau yn adeiladol ac yn effeithiol
7. faint o amser ddylai gael ei neilltuo i rwydweithiau, a sut mae sicrhau defnydd da o amser
8. sut mae bod yn adeiladol wrth gyfathrebu ag eraill
9. lefelau ymwneud wrth weithredu oddi mewn i rwydweithiau
10. gwrthdaro budd a allai godi, a beth i'w wneud os digwydd hynny
11. sut mae sicrhau perthynas gilyddol ag eraill
12. problemau a allai godi, a chamau i'w cymryd i ymdrin â hwy
13. pam mae'n bwysig ymdrin â phroblemau a goblygiadau peidio â gwneud hynny
14. pwy sy'n gallu darparu gwybodaeth oddi mewn i rwydweithiau, a pha wybodaeth sy'n ofynnol
15. pa wybodaeth sy'n cael ei defnyddio ar gyfer asesu cywirdeb gwybodaeth, a sut mae gwneud hynny
16. pwy ddylai gael gwybod am gyfnewid gwybodaeth a'r terfynau amser sefydliadol ar gyfer gwneud hynny
17. sut mae adborth wedi gwella'r defnydd o rwydweithiau
18. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau
URN gwreiddiol
AG018
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cyfathrebu; rhwydwaith