Adolygu eich cyfraniad i wasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adfyfyrio ar eich cyfraniad i wasanaethau a'i adolygu. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Mae'r safon yn edrych ar asesu eich cyfraniad i waith gwasanaethau a sut mae eich datblygu eich hun i gyflawni gofynion gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu eich gwaith yn erbyn amcanion gwaith penodedig
2. adolygu adborth perthnasol ar eich gwaith yn erbyn amcanion gwaith penodedig
3. nodi eich rôl a'ch cyfraniad at gyflawni amcanion gwaith
4. adolygu effeithiau gwirioneddol neu bosibl eich gwerthoedd, eich credoau, eich diwylliant, eich ethos, eich agweddau a'ch ymddygiad wrth weithio yn unol â gofynion sefydliadol
5. adolygu'r blaenoriaethau a roddwyd i amcanion gwaith, yn unol â gofynion sefydliadol
6. adolygu sut rydych wedi cyflawni eich gwaith yn unol â gofynion sefydliadol
7. nodi anghenion datblygu yn unol â gofynion sefydliadol
8. cadarnhau bod amcanion datblygu yn nodi galluoedd priodol i'ch rôl yn y sefydliad
9. llunio cynlluniau datblygu personol yn unol â gofynion sefydliadol
10. cytuno ar gynlluniau datblygu personol gydag unigolion priodol, yn unol â gofynion sefydliadol
11. asesu effaith newidiadau mewn gwasanaethau ar eich rôl waith, yn unol â gofynion sefydliadol
12. cael hyd i gyfleoedd datblygu addas, yn unol â gofynion sefydliadol
13. defnyddio cyfleoedd datblygu addas, yn unol â gofynion sefydliadol
14. diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd, i roi sylw i waith newidiol, yn unol â gofynion sefydliadol
15. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol wrth adolygu eich cyfraniad i wasanaethau
16. cofnodi cynlluniau datblygu yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. mathau o amcanion gwaith y dylid eu pennu
4. pwysigrwydd adborth i'ch gwaith a phwy sy'n gallu ei ddarparu
5. rôl eich gwaith mewn gwasanaethau
6. ffactorau a allai effeithio ar gyflawni amcanion
7. sut gallai eich gwerthoedd, eich credoau, eich agweddau a'ch ymddygiad effeithio ar waith
8. sut mae asesu blaenoriaethau a roddwyd i'ch gwaith
9. sut mae casglu gwybodaeth am ofynion
10. pwysigrwydd meddu ar ddealltwriaeth glir o'ch gwaith
11. sut mae nodi amcanion datblygu a beth yw amcanion datblygu penodol
12. galluoedd sy'n ofynnol ar gyfer eich gwaith
13. sut mae llunio cynlluniau datblygu personol, beth dylai cynlluniau ei gynnwys, a sut gellir eu defnyddio
14. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â gwybodaeth a ffynonellau datblygiad personol/dysgu a datblygu sy'n ofynnol i wasanaethau a sefydliadau
15. sut mae myfyrio ar eich ymarfer eich hun a phwysigrwydd gwneud hynny
16. sut mae asesu perthnasedd gwybodaeth
17. sut mae gwasanaethau wedi datblygu yn ystod cyfnod eich ymwneud â hwy
18. sut mae cael hyd i gyfleoedd datblygu addas