Cysylltu â gwasanaethau eraill

URN: LSIAG12
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chysylltu â gwasanaethau eraill. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill. 
 
Mae'r safon yn edrych ar sefydlu gweithdrefnau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gyda gwasanaethau, darparu gwybodaeth iddyn nhw, a sut mae casglu gwybodaeth gan wasanaethau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. nodi'r gwasanaethau sydd ar gael y gallech gyfnewid gwybodaeth â hwy yn unol â gofynion sefydliadol
2. ymgynghori â gwasanaethau ar eu gofynion gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol 
3. cytuno ar ddiben, cwmpas a gweithdrefnau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gyda gwasanaethau 
4. nodi rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth 
5. nodi blaenoriaethau gwahanol wasanaethau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth 
6. lledaenu gweithdrefnau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gyda gwasanaethau 
7. adolygu gweithdrefnau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth 
8. cadarnhau'r wybodaeth sy'n ofynnol gan wasanaethau 
9. nodi gwybodaeth briodol, yn unol â gofynion sefydliadol
10. cynorthwyo gwasanaethau i gyrchu a dehongli gwybodaeth maent yn ei derbyn, yn unol â gofynion sefydliadol 
11. cadarnhau gyda gwasanaethau bod gwybodaeth a ddarperir yn ddigonol ac yn briodol ar gyfer eu hanghenion 
12. darparu gwybodaeth ychwanegol i wasanaethau, yn unol â gofynion sefydliadol 
13. pennu'r dulliau sydd i'w defnyddio i gasglu gwybodaeth gan wasanaethau
14. cyrchu ffynonellau gwybodaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â gofynion sefydliadol
15. casglu gwybodaeth o wasanaethau gan ddefnyddio dulliau penodedig 
16. cadarnhau dilysrwydd gwybodaeth a ddarparwyd gan wasanaethau 
17. diogelu ffynonellau gwybodaeth, gan ddilyn gweithdrefnau cytunedig 
18. nodi problemau wrth gasglu gwybodaeth 
19. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol mewn perthynas â chysylltu â gwasanaethau eraill
20. cofnodi gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. gwasanaethau lle gallai fod angen gwybodaeth a'r meini prawf i'w defnyddio 
4. diwylliant ac ethos gwasanaethau 
5. yr ystod o wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael 
6. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau'r lleill
7. pwy ddylai gael gwybod am weithdrefnau
8. pwysigrwydd deall amcanion gwasanaethau 
9. gwybodaeth sy'n ofynnol gan wahanol wasanaethau
10. pwysigrwydd dod i gytundeb ar y mathau o wybodaeth sy'n cael eu cyfnewid a phwy sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth 
11. blaenoriaethau gwasanaethau eraill  
12. sut mae lledaenu gwahanol weithdrefnau gwasanaethau 
13. gweithdrefnau sydd i'w hadolygu a phryd mae eu hadolygu
14. sut mae casglu gwybodaeth am ofynion a therfynau amser darparu a chyfnewid gwybodaeth  
15. sut mae paru gwybodaeth â gofynion gwasanaethau 
16. ble cedwir gwybodaeth 
17.ffactorau sy'n effeithio ar sut caiff deunydd ei ddehongli 
18. pam mae'n bwysig gwirio bod gwasanaethau wedi derbyn yr wybodaeth ofynnol 
19. pa ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut gall gwasanaethau ei chyrchu
20 mathau o wybodaeth sy'n ofynnol gan wasanaethau 
21. dulliau y gellir eu defnyddio i gasglu gwybodaeth a'r anawsterau a all godi wrth wneud hynny
22. sut mae penderfynu a yw gwybodaeth yn ddilys 
23. pam mae'n bwysig diogelu ffynonellau gwybodaeth 
24. mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gyfnewid gwybodaeth, a'r camau i'w cymryd i ymdrin â phroblemau
25. pam mae'n bwysig ymdrin â phroblemau a goblygiadau peidio â gwneud hynny
26. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG012

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyswllt; cysylltu; cyfathrebu; gweithdrefnau; cyfnewid gwybodaeth; atgyfeirio