Gwella eich sgiliau busnes
Trosolwg
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich sgiliau yn bodloni anghenion eich busnes ac yn cadw i fyny â’ch busnes wrth iddo dyfu neu newid. Bydd gwella eich sgiliau yn helpu i gadw eich busnes yn llwyddiannus.
Gallech wneud hyn os ydych chi:
- wrthi’n dechrau busnes neu fenter gymdeithasol
- yn adolygu eich busnes neu fenter gymdeithasol
- wedi adolygu eich sgiliau a dod o hyd i feysydd lle y mae lle i wella
- eisiau datblygu neu newid eich busnes neu’ch menter gymdeithasol
Mae gwella eich sgiliau yn cynnwys:
- gweithio allan pa sgiliau mae angen i chi eu gwella
- dysgu sut i ddatblygu eich sgiliau
- gwneud cynlluniau
- rhoi eich cynlluniau ar waith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 penderfynu pa sgiliau mae angen i chi eu datblygu a beth allai eich atal chi rhag gwneud hyn
P2 gosod targedau clir i ddatblygu eich sgiliau
P3 cysylltu eich targedau sgiliau eich hun â’ch targedau busnes
P4 ystyried sut bydd datblygu eich sgiliau eich hun yn effeithio ar lwyddiant eich busnes
P5 dysgu am gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a nodi’r costau a’r buddion sydd ynghlwm
P6 penderfynu sut y byddwch yn datblygu eich sgiliau cyn i chi droi at gysylltiadau am gyngor a chymorth
P7 gwneud yn siŵr eich bod yn cytuno ar gost unrhyw ddatblygiad ymlaen llaw, ynghyd â’r dulliau y byddwch yn eu defnyddio i farnu effeithiolrwydd y datblygiad
P8 gwneud unrhyw newidiadau a fydd yn helpu i wella beth rydych chi’n ei wneud a beth mae eich busnes yn ei wneud
P9 gosod targedau newydd i chi eich hun pan fyddwch wedi cyflawni targedau blaenorol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Eich sgiliau
K1 beth mae angen i chi allu ei wneud yn y tymor byr, canolig a hir i redeg eich busnes yn llwyddiannus (er enghraifft gwaith papur, gwerthiannau, marchnata, cyllid, cynhyrchu, prynu, cyfraith busnes, cael cyflenwadau, cynnal a chadw cyfarpar, monitro ansawdd, cael cyhoeddusrwydd, ysgrifennu deunydd hyrwyddo, meddwl strategol, cyfathrebu, delio â rhanddeiliaid, arweinyddiaeth, trafod, gwneud penderfyniadau, datrys problemau a dirprwyo)
K2 sut i benderfynu pa sgiliau a gwybodaeth y mae angen i chi eu datblygu a phwy allai eich helpu i benderfynu
K3 pwy allai eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth
K4 beth allai ei gwneud hi’n anodd i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth
K5 pa wahanol ffyrdd sydd o ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth a ble i ddysgu amdanynt (er enghraifft llyfrau, y rhyngrwyd, cyngor busnes, mentora busnes, busnesau a chysylltiadau eraill, gweithdai, cynadleddau rhaglenni hyfforddiant a chyrsiau)
K6 sut i gyfrifo buddion a chostau datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth (er enghraifft y ffioedd, colli amser, cyflogau ychwanegol i staff dirprwyol)
K7 sut i wneud yn siŵr y bydd datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn helpu eich busnes
K8 pa bethau sy’n effeithio ar eich gallu eich hun i nodi eich anghenion ac i gynllunio eich rhaglen hunanddatblygu
K9 beth sydd ynghlwm â’r cynllun hunanddatblygu a pha mor rheolaidd y dylai gael ei ddiweddaru
Gwybodaeth a chyngor
K10 pa fathau o gymorth am ddim a chymorth â thâl sydd ar gael i fusnesau (er enghraifft gan gymdeithion busnes, cyfarwyddwyr anweithredol, canolfannau cyngor busnes, cynghorwyr busnes, cynghorwyr neu fentoriaid, cyfrifwyr, cyfreithwyr, banciau, cynghorwyr ariannol, cymdeithasau masnach ac ymgynghorwyr arbenigol)
K11 pa bynciau y gall cyngor proffesiynol helpu gyda nhw (er enghraifft cynllunio busnes hirdymor, gweithgareddau busnes o ddydd i ddydd, cyllid, marchnata a gwerthiannau, staffio, technoleg gwybodaeth a’r gyfraith)
K12 o ble y gallwch chi gael cyngor proffesiynol a pha ffynonellau cyllid sydd ar gael i’ch helpu i dalu amdano, os bydd ei angen arnoch
K13 sut i gyfrifo costau a buddion, a chymharu ffioedd
K14 pa gwestiynau y gall fod angen i chi eu gofyn i gael y cyngor sydd ei angen arnoch
K15 beth gall y gwasanaeth cyngor ei wneud ai peidio wrth helpu
K16 pam mae’n bwysig cadw cofnod o’r wybodaeth a’r cyngor gewch chi