Rheoli amrywiaeth o wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS9
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â rheoli amrywiaeth o wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth o sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu, gan gynnwys y rhai technegol neu arbenigol, a sut maen nhw’n gweithio ar y cyd. Mae hefyd yn ymwneud â datblygu’r gwasanaethau angenrheidiol a gwneud penderfyniadau ar ran y sefydliad ac ar draws sectorau, lle bo angen. Mae hefyd yn cynnwys rheoli arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” yn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. nodi ac asesu’r ystod o wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sydd eu hangen ar y sefydliad a blaenoriaethu’r rhain yn ôl anghenion ac amcanion y sefydliad
3. datblygu cynllun ar gyfer rheoli’r gwasanaethau, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac anghenion y sefydliad
4. rheoli amrywiaeth o wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r cynllun
5. nodi gofynion rheoli ynni o fewn polisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad fel rhan o'r gwaith o ddarparu’r holl wasanaethau
6. dirprwyo tasgau a blaenoriaethau i’r rhai sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
7. rhoi gwybod i’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, ac sy’n cael eu heffeithio ganddynt, ynglŷn â sut maen nhw'n rhan o’r sefydliad, ac ategu hyn gyda’r wybodaeth berthnasol
8. cadarnhau bod y rhai sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn deall y cynllun, a chyfyngiadau eu cyfrifoldebau
9. lle bo angen, cyflogi a goruchwylio gwasanaethau arbenigol neu dechnegol ac arbenigedd i helpu i ddarparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
10. lle bo angen, monitro contractau a chadarnhau eu bod yn cael eu cyflawni o fewn y telerau y cytunwyd arnynt
11. gofyn am adborth gan y rhai sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau i reoli problemau, risgiau a chyfleoedd
12. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
13. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
14. nodi meysydd i’w gwella o ran rheoli a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
15. delio â phroblemau a mynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd o ran rheoli a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
16. argymell a gweithredu camau ar gyfer gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau i barhau i ddiwallu anghenion y sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. anghenion ac amcanion y sefydliad
3. yr ystod o wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau a ddarperir a sut maen nhw’n cael eu darparu
4. sut mae canfod y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i gyflwyno systemau rheoli ynni fel rhan o’r gwaith o ddarparu’r holl wasanaethau ac yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
5. sut mae datblygu cynllun ar gyfer rheoli’r gwasanaethau a’r hyn y dylid ei ystyried
6. yr adnoddau sy'n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau i fodloni’r sefydliad
7. costau, risgiau a manteision y cam arfaethedig
8. sut mae rheoli gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau ar gyfer y gwahanol sectorau sy’n gysylltiedig â’ch gwaith
9. y sgiliau a’r arbenigedd sydd ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut i wneud y defnydd gorau o’r rhain wrth ddirprwyo tasgau ac amcanion i’r rheini sy’n gysylltiedig
10. sut mae cyfathrebu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
11. cynllun cyflawni a chyfrifoldebau i’r rhai sy’n gysylltiedig
12. pwysigrwydd gofyn am adborth gan y rhai sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
13. y mathau o wybodaeth y gallai defnyddwyr y cyfleuster eu darparu a sut y gall hyn gyfrannu at fonitro’r gwasanaeth a ddarperir
14. eich cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
15. sut mae gwasanaethau gwahanol yn gweithio ar y cyd a’r gwrthdaro a’r problemau a all godi
16. sut mae mynd i’r afael â phroblemau a risgiau wrth reoli a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
17. y technegau a’r prosesau ar gyfer monitro ac adolygu’r gwasanaeth a ddarperir
18. sut mae canfod cyfleoedd ar gyfer gwella o ran darparu
gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
19. pwy i roi gwybod iddo am argymhellion ar gyfer gwelliannau o ran darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau, a'r camau sy'n ofynnol i’w rhoi ar waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni, ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG)
Mae cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) yn ymrwymiad rhwng darparwr gwasanaeth a chleient. Mae agweddau penodol ar y gwasanaeth – ansawdd, argaeledd, cyfrifoldebau – yn cael eu cytuno rhwng y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr gwasanaeth. Elfen fwyaf cyffredin CLG yw y dylid darparu’r gwasanaethau i’r cwsmer fel y cytunwyd yn y contract.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy
dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr
adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo. Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM403

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy