Asesu a chynnal rôl gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin ag asesu a chynnal beth yw gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau a’u rôl yn y sefydliad. Mae’n ymwneud â deall y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio ac ymgorffori hyn yng ngwaith gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau. Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â systemau, polisïau a gweithdrefnau perthnasol bob amser mae angen y gallu i ddeall y materion hyn, gan gynnwys rheoli arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae hefyd yn golygu deall cyfyngiadau o ran adnoddau’r sefydliad a’ch cyfrifoldeb i werthuso a chadarnhau bod eraill, yr ydych yn goruchwylio ac yn gyfrifol am eu gwaith, yn deall yr egwyddorion hyn.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol
ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. gwneud eich gwaith ac ymddwyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu diwylliant y sefydliad a swyddogaeth gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
3. ymgorffori amcanion, systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau’r sefydliad yn eich gwaith
4. asesu rôl gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, beth maen nhw’n ei olygu i’r sefydliad a sut maen nhw’n cyd-fynd â strategaeth gyffredinol y sefydliad
5. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
6. rhoi gwybod i’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, ac sy’n cael eu heffeithio ganddynt, ynglŷn â sut maen nhw'n rhan o’r sefydliad, ac ategu hyn gyda’r wybodaeth ofynnol
7. sicrhau cysondeb gwybodaeth a chyngor gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau a roddwch gyda systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau’r sefydliad
8. gwerthuso a chadarnhau dealltwriaeth y derbynwyr o wybodaeth a chyngor gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau rydych chi wedi’u rhoi
9. cadarnhau bod gweithgareddau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn cydymffurfio â systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau perthnasol y sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
10. mabwysiadu strategaethau rheoli ynni sy’n gydnaws ag amcanion, systemau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
11. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. pwysigrwydd cydymffurfio â systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau’r sefydliad wrth ymgymryd â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
3. amcanion busnes y sefydliad
4. diwylliant y sefydliad a sut y gallwch chi ddefnyddio hwn yn eich gwaith
5. sut mae asesu’r farchnad y mae’r sefydliad yn gweithredu ynddi, ynghyd â’i thueddiadau ac ysgogwyr busnes
6. strategaeth gyffredinol y sefydliad a sut mae hyn yn effeithio ar eich rôl a’ch cyfrifoldebau
7. pwysigrwydd bod y rhai sy’n gysylltiedig yn deall rôl gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut maen nhw'n gweithredu o fewn amcanion, polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad gan gynnwys arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes
8. sut i asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
9. yr hyn mae gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn ei olygu i’r sefydliad a sut maen nhw’n cyd-fynd â strategaeth gyffredinol y sefydliad
10. pa dechnegau cynnal a chadw sydd ar gael i wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut mae defnyddio’r rhain gyda’r sefydliadau a’r sectorau yr effeithir arnynt
11. busnes craidd y sefydliad a’i gydberthynas â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
12. yr ystod o wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau a gynigir ac sydd ar gael i’r sefydliad
13. y cyfrifoldeb dros reoli a chynnal gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
14. y gofynion rheoli ynni yn y strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut mae llunio polisïau penodol sy’n unol ag arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad, ac sy’n eu cefnogi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r pwrpas o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
• Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
• Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.
Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau