Dadansoddi perfformiad gweithredol mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS5
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â dadansoddi perfformiad gweithredol mewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n cynnwys deall gwybodaeth fusnes, contractau a chytundebau lefel gwasanaeth, a defnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
Mae’n ymdrin â sut i greu systemau i ddadansoddi a monitro perfformiad gweithredol a chanlyniadau busnes er mwyn gwella perfformiad wrth ddiwallu gofynion y sefydliad. Mae angen deall a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynllun busnes, strategaethau, systemau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (mewn sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” yn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. nodi’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer perfformiad gweithredol gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau y gellir eu mesur yn gost-effeithiol
3. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
4. cadarnhau bod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt yn bodloni gofynion y sefydliad
5. nodi gofynion pob Dangosydd Perfformiad Allweddol gweithredol i fodloni meini prawf y contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth
6. cadarnhau bod systemau ar waith i fonitro, adolygu a chofnodi perfformiad gweithredol o ddata Dangosyddion Perfformiad Allweddol ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
7. sefydlu proses gydymffurfio i fonitro cynnydd o ran perfformiad y sefydliad, nodi a chofnodi unrhyw wyriadau oddi wrth gytundeb lefel gwasanaeth y sefydliad a chymryd camau i wella perfformiad lle bo angen
8. dadansoddi ac adolygu data’r sefydliad o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol er mwyn cysoni perfformiad gweithredol, gweithgareddau busnes a phrosesau â chytundeb lefel gwasanaeth y sefydliad a’r contract y cytunwyd arno
9. ailedrych ar y contract gyda’r sefydliad pan fydd y gwaith monitro perfformiad gweithredol yn dangos bod hyn yn angenrheidiol
10. darparu gwybodaeth ac adborth i weithlu gweithredol y sefydliad ar ei berfformiad gwaith er mwyn hwyluso gwelliannau i'r broses o ddarparu’r lefel gwasanaeth y cytunwyd arni
11. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a
12.  gweithdrefnau’r sefydliad
13. cyfathrebu â phawb sydd â chysylltiad â’ch gwaith neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt
14. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. polisïau, amcanion a gweithgareddau busnes craidd y sefydliad i sicrhau bod data Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn monitro ac yn cadarnhau bod y sefydliad yn cyflawni’r perfformiad gweithredol yn unol â’r contract a’r cytundeb lefel gwasanaeth
3. sut i nodi gofynion pob Dangosydd Perfformiad Allweddol i fodloni meini prawf y contract a’r cytundeb lefel gwasanaeth
4. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer darparwr gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau sy’n berthnasol i’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu
5. sut mae monitro ac adolygu perfformiad gweithredol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol a’r cytundeb lefel gwasanaeth a’r contract y cytunwyd arno
6. y modelau caffael a’r arferion a ddefnyddir gan y sefydliad, sy’n ymwneud â pherfformiad gweithredol a rheoli contractau ar gyfer darparu gwasanaethau
7. y safonau gweithredu a ddatblygwyd gan Gyrff Gosod Safonau allanol sy’n berthnasol i wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau rydych chi’n eu darparu
8. sut i ddadansoddi data sy'n galluogi’r sefydliad i fesur perfformiad gweithredol yn erbyn y contract a’r cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno
9. sut mae defnyddio’r dadansoddiad data i gymryd camau unioni mewn perthynas â chontract, cytundeb lefel gwasanaeth neu unrhyw amodau lle mae monitro perfformiad gweithredol yn dangos ei fod yn angenrheidiol
10. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
11. y ffyrdd o fonitro a gwella perfformiad gweithredol sy’n gydnaws ag arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, a sut y dylid gwneud hyn
13. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes*
*

**Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.

Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r pwrpas o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.

Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM321

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy