Rheoli adfer ar ôl trychineb a chynllunio ar gyfer parhad mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS4
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â rheoli adfer ar ôl trychineb a chynllunio ar gyfer parhad mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau. Mae’n ymwneud â sefyllfa lle mae ystyriaethau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes wedi’u gwreiddio ym mhrosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau’r sefydliad ac yn eich maes cyfrifoldeb chi, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheoli’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (mewn sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. nodi eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol ar gyfer rheoli adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes o dan y ddeddfwriaeth bresennol a pholisïau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes y sefydliad
3. cyfathrebu â phawb sy’n ymwneud â’ch gwaith yn eich maes cyfrifoldeb ar adfer ar ôl trychineb a materion parhad busnes mewn perthynas â gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau, neu'r rhai y mae eich gwaith yn effeithio arnynt
4. defnyddio arbenigedd mewn perthynas ag adfer ar ôl trychineb a chynllunio ar gyfer parhad
5. datblygu partneriaeth gyda'r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y sefydliad er mwyn mynd i’r afael â phob agwedd adfer ar ymarferoldeb busnes mewn perthynas â gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
6. cadarnhau bod proses ar waith ar gyfer adnabod peryglon ac asesu risgiau yn eich maes cyfrifoldeb a bod camau yn cael eu cymryd yn brydlon i ddileu neu reoli peryglon a risgiau a nodwyd
7. cadarnhau bod prosesau ar waith ar gyfer monitro, mesur, gweithredu, profi ac adrodd ar adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes cyfrifoldeb er mwyn cydymffurfio ag arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad
8. dangos gwelliant parhaus yn eich maes cyfrifoldeb mewn perthynas ag adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes a gwneud argymhellion ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol
9. sicrhau bod adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn faes blaenoriaeth o ran hysbysu, cynllunio a gwneud penderfyniadau yn eich maes cyfrifoldeb
10. cadarnhau bod eich gweithredoedd yn atgyfnerthu’r negeseuon ym mholisïau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes y sefydliad
11. cadarnhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu ar draws eich maes cyfrifoldeb chi i ddelio â materion adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes gan ystyried arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
12. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a gweithdrefnau eich sefydliad
13. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad sy'n ymwneud ag adfer ar ôl trychineb a chynllunio ar gyfer parhad yn unol ag arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad
2. pam fod adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn bwysig mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
3. eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol ar gyfer rheoli adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes o dan y rheoliadau a'r polisïau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes
4. y gofyniad i sefydliadau gael polisi ysgrifenedig ar gyfer adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy, a pham y dylai hyn fod yn sail i gynllunio a gwneud penderfyniadau
5. sut mae cyfleu gofynion y polisi ysgrifenedig ar gyfer adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes i bawb sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, neu sy’n cael eu heffeithio ganddynt
6. sut a phryd i adolygu’r broses ysgrifenedig yn y datganiad polisi adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes cyfrifoldeb a darparu canlyniadau i lywio datblygiad
7. ble i ddod o hyd i arbenigedd mewn perthynas ag adfer ar ôl trychineb a chynllunio parhad busnes a ddefnyddir yn eich maes cyfrifoldeb
8. y math o beryglon a risgiau a allai godi mewn perthynas ag adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes cyfrifoldeb
9. sut i sefydlu a defnyddio proses ar gyfer adnabod peryglon ac asesu risgiau yn eich maes cyfrifoldeb a’r camau y dylid eu cymryd i’w rheoli neu ddileu
10. sut i sefydlu prosesau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes cyfrifoldeb
11. y math o adnoddau sydd eu hangen i ddelio â materion adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes
12. risgiau, materion a datblygiadau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes sy’n benodol i wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sectorau dan sylw
13. y cynlluniau gweithredol ar gyfer eich maes cyfrifoldeb, y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
14. yr adnoddau a ddyrannwyd i’ch maes cyfrifoldeb er mwyn i chi allu rheoli gwaith adfer ar ôl trychineb a chynllunio parhad busnes
15. y cyfrifoldebau a ddyrannwyd ar gyfer adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes a’r sefydliad yn gyffredinol
16. y broses sydd ar waith ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes yn eich maes cyfrifoldeb
17. y cyfrifoldeb dros reoli’r gwaith o adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol.  Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni, ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Adfer ar ôl Trychineb a Pharhad Busnes
Mae Adfer ar ôl Trychineb yn cynnwys cyfres o bolisïau, offer a gweithdrefnau i alluogi adfer neu barhau â systemau a seilwaith technoleg hanfodol ar ôl trychineb naturiol neu ddynol. Mae adfer ar ôl trychineb yn canolbwyntio ar y systemau sy’n cefnogi swyddogaethau busnes hanfodol, yn hytrach na pharhad busnes, sy’n golygu sicrhau bod pob agwedd hanfodol ar fusnes yn parhau er gwaethaf digwyddiadau aflonyddol sylweddol. Felly, gellir ystyried bod adfer ar ôl trychineb yn is-set o barhad busnes.
Diffinnir Parhad Busnes fel gallu’r sefydliad i barhau i ddarparu cynnyrch neu wasanaethau ar lefelau derbyniol a ddiffiniwyd ymlaen llaw yn dilyn digwyddiad aflonyddgar.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill). Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
 
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio ymysg diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•        Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•        Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr
         adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.
Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

URN gwreiddiol ASTFM320

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy; adfer ar ôl trychineb; cynllunio ar gyfer parhad