Dadansoddi a chynllunio mannau gwaith mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS19
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymdrin â dadansoddi a chynllunio mannau gwaith mewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau er mwyn defnyddio’r man gwaith i’w botensial llawn a bodloni gofynion y sefydliad. Bydd angen i chi ddeall sut mae mannau gwaith yn cael eu defnyddio yn y sefydliad a dadansoddi’r wybodaeth i gynllunio defnydd effeithiol ohonynt gan ystyried arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheoli’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (mewn sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. cadarnhau bod gan y sefydliad system ar waith ar gyfer casglu data ynghylch defnyddio mannau gwaith mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol
3. cadarnhau bod y sefydliad yn defnyddio system rheoli mannau gwaith strategol ar gyfer cofnodi gwybodaeth, gan gynnwys mesuriadau, galluoedd a swyddogaethau'r man gwaith
4. defnyddio’r systemau a’r data sydd ar gael i gynnal dadansoddiad er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o fannau gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol a pholisïau’r sefydliad
5. casglu a dadansoddi data o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol gan y sefydliad dan sylw, er mwyn cynnal y man gwaith yn unol â gofynion a rheoliadau cyfredol y sefydliad
6. defnyddio’r data o’r dadansoddiad hwn i ddod o hyd i gyfleoedd i gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy o fewn y system rheoli mannau gwaith gyffredinol
7. ymgorffori gofynion y sefydliad ar gyfer defnyddio mannau gwaith yn economaidd ym mholisi rheoli mannau gwaith eich sefydliad, er mwyn iddo fod yn sail i brosiectau a gwaith cynllunio adnoddau yn y dyfodol
8. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
9. cadarnhau bod y cynllun rheoli mannau gwaith yn manteisio i'r eithaf ar nodweddion y man gwaith er mwyn darparu hyblygrwydd wrth ei ddefnyddio
10. cyfathrebu â phawb sydd â chysylltiad â’ch gwaith neu y mae eich
gwaith yn effeithio arnynt
11. ystyried tueddiadau, arferion a datblygiadau arloesol diweddaraf y diwydiant o ran defnyddio mannau gwaith wrth eu cynllunio
12. gweithio gyda chydweithwyr yn eich sefydliad a phawb sy’n ymwneud â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, o ran cynllunio, dylunio, datblygu a gweithredu’r man gwaith
13. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a gweithdrefnau’r sefydliad
14. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. y systemau a’r technolegau sydd ar gael ar gyfer casglu a defnyddio data er mwyn dadansoddi mannau gwaith gan gynnwys costau, gwaith cynnal a chadw a dibrisiant
3. y dulliau a’r technegau ar gyfer cofnodi, dadansoddi ac adrodd ynghylch perfformiad rheoli mannau gwaith mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
4. pwysigrwydd casglu data ynghylch defnydd y mannau gwaith a sut y gellir gwneud defnydd ohono o ran defnyddio mannau gwaith a dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau’r sefydliad
5. y math a’r ystod o ddata sydd eu hangen i gyfrannu at gynllunio mannau gwaith a pherfformiad
6. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
7. sut mae’r man gwaith yn effeithio ar arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy a'r cyfleoedd i gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy o fewn system rheoli mannau gwaith gyffredinol y sefydliad
8. pwrpas a defnydd meincnodi yn unol â’r polisïau a’r arferion ar gyfer rheoli mannau gwaith yn y sefydliad
9. sut mae pwrpas man gwaith yn dylanwadu arno a sut y gellir ei addasu i fodloni anghenion y sefydliad a’r rhai sy'n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt
10. tueddiadau, arferion a datblygiadau arloesol cyfredol y diwydiant o ran rheoli a defnyddio mannau gwaith
11. pwysigrwydd cysylltu amcanion rheoli mannau gwaith â pholisïau a strategaethau’r sefydliad
12. pwysigrwydd hybu arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy ar gyfer y man gwaith mewn prosiectau dylunio adeiladau a chyfleusterau yn y dyfodol o fewn y sefydliad
13. pwysigrwydd cynllunio a defnyddio mannau gwaith mewn perthynas ag adfer ar ôl trychineb a chynllunio ar gyfer parhad busnes
14. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol presennol ar gyfer defnyddio mannau gwaith sy’n ymwneud â phrif weithgareddau’r sefydliad
15. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
16. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, a sut y dylid gwneud hyn
17. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.

Dangosydd perfformiad allweddol
Mae dangosydd perfformiad allweddol (DPA) yn werth a ddefnyddir i fonitro a mesur effeithiolrwydd sefydliad, gweithiwr neu broses o ran cyflawni amcanion penodol.

Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.

Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.

Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.

Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:

Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.

Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM515

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy