Rheoli llety, gofod a chyfleusterau mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â rheoli llety, gofod a chyfleusterau mewn
gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, gan gynnwys dylunio a gosod y safonau ar gyfer defnyddio gofod yn unol ag anghenion y defnyddwyr. Mae’n ymwneud â sut y defnyddir y cyfleusterau a’r gofod cyffredinol.
Mae’n ymwneud â dyluniad ac estheteg gyffredinol y gofod a nodi bod hyn yn adlewyrchu diwylliant y sefydliad a’i fod yn gyson â strategaethau marchnata a brandio’r sefydliad.
Mae hefyd yn cynnwys defnyddio arferion diweddaraf y diwydiant er mwyn rheoli gofod ochr yn ochr â’r gofynion cyfreithiol presennol a chynllun busnes, strategaethau, systemau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” yn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. cadarnhau bod anghenion o ran gofod gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a defnyddwyr eraill yn cael eu nodi, eu blaenoriaethu a’u diweddaru
3. goruchwylio’r gwaith o ddylunio a datblygu cynllun ar gyfer rheoli’r broses o ddyrannu a defnyddio llety, gofod a chyfleusterau sy’n seiliedig ar yr wybodaeth gyfredol am anghenion a blaenoriaethau defnyddwyr
4. nodi a mabwysiadu strategaethau rheoli ynni sy’n gydnaws ag amcanion, systemau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes a pholisïau arferion cynaliadwy
5. cyfathrebu â’r sefydliad a’r rhai sy’n gysylltiedig â chynllunio'r gwaith o reoli llety a gofod ac sy’n cael ei effeithio ganddo mewn perthynas ag arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
6. rheoli’r gwaith o ddyrannu llety, gofod a chyfleusterau, mynd i’r afael ag anghenion pobl eraill sy’n defnyddio’r gofod, defnyddio arferion diweddaraf y diwydiant a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol
7. cadarnhau bod gweithgareddau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn cydymffurfio â systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
8. cadarnhau bod cymeradwyaethau ar gyfer bwriad i ddyrannu llety, gofod a chyfleusterau yn cael eu cyfleu i’r rhai sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt, gan gynnwys y sefydliad a’r defnyddwyr
9. nodi lle mae’r llety, y gofod neu’r cyfleusterau y gofynnir amdanynt yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael neu y gellir ei ddarparu
10. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
11. cadarnhau bod y rhai sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt yn cael gwybod am unrhyw risgiau a chyfleoedd sy’n ymwneud â dyrannu llety, gofod a chyfleusterau
12. nodi eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol o dan ddatganiadau rheoli gofod, gofynion cyfreithiol cyfredol a pholisïau’r sefydliad
13. sefydlu ymgynghoriad rheolaidd ac adolygiad o faterion rheoli
gofod gyda’r rhai sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt, gan gynnwys y sefydliad a defnyddwyr
14. chwilio am, a defnyddio, arbenigedd mewn perthynas â rheoli gofod
15. sefydlu rheoli gofod fel maes blaenoriaeth yn y prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau
16. gofyn am adborth gan y rhai sy’n ymwneud â llety, defnyddio a dylunio gofod, a’r rhai y mae hynny’n effeithio arnynt
17. monitro ac adolygu’r risgiau a’r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â rheoli llety a gofod ac asesu’r perfformiad gweithredol yr effeithir arno drwy ddefnyddio gofod yn unol ag arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
18. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. pwysigrwydd cydymffurfio â systemau, polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau’r sefydliad wrth ymgymryd â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes a pholisïau arferion cynaliadwy
3. arferion diweddaraf y diwydiant o ran rheoli gofod
4. anghenion rheoli gofod y sefydliad a’r defnydd arfaethedig o’r gofod
5. nodweddion y gofod ac unrhyw gyfyngiadau o ran ei ddefnyddio neu ei newid
6. sut y gellir addasu'r gofod sydd ar gael i fodloni anghenion y sefydliad a’r unigolion sy'n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt
7. sut y gellir rhoi technegau rheoli gofod ar waith
8. yr adnoddau y cytunwyd arnynt ynghyd â chostau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
9. y gofynion rheoli ynni yn y strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut mae llunio polisïau penodol sy’n unol ag arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad, ac sy’n eu cefnogi
10. y ffyrdd o gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig a’r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys y sefydliad a’r defnyddwyr, yn y gwaith o reoli gofod mewn perthynas â rheoli ynni
11. sut mae rheoli’r gwaith o ddyrannu llety, gofod a chyfleusterau a’r ffactorau i’w hystyried ar gyfer y gwaith hwn
12. eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol o dan y ddeddfwriaeth bresennol a pholisïau’r sefydliad ar reoli llety a gofod yn y gweithle
13. safonau a pholisïau’r sefydliad ar reoli gofod
14. pwy i ymgynghori gyda nhw ar faterion rheoli gofod, gan gynnwys yr arbenigedd sydd ar gael a ble i gael gafael arno
15. y dulliau a’r technegau ar gyfer monitro, mesur, gweithredu, profi ac adrodd ynghylch perfformiad rheoli gofod gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
16. pwysigrwydd eich gweithredoedd eich hun wrth atgyfnerthu datganiad polisi rheoli gofod y sefydliad
17. eich cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
18. sut mae mynd i’r afael â risgiau a chyfleoedd wrth reoli a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
* Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni, ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)*
• Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy
dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
• Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo. Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau