Nodi risgiau a datblygu mesurau rheoli i gynnal parhad busnes ar gyfer darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â nodi risgiau a datblygu mesurau rheoli i gynnal parhad busnes ar gyfer darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n golygu datblygu proses i nodi risgiau a chynnal cynllun parhad busnes cyfredol a chynhwysfawr, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy. Mae’n ymwneud â nodi mesurau rheoli i reoli digwyddiadau sy’n tarfu, lliniaru yn erbyn risgiau a nodi pa risgiau i’w derbyn.
Mae hefyd yn ymwneud â chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau a fydd yn galluogi’r sefydliad i barhau i weithredu a diogelu ei enw da.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. datblygu proses ar gyfer adnabod, asesu, monitro ac adrodd ar risgiau’n barhaus, sy’n berthnasol i wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
3. nodi risgiau sy'n benodol i arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
4. nodi’r adnoddau sydd eu hangen i roi’r mesurau rheoli ar waith a chadarnhau bod y rhain ar gael ac yn cael eu defnyddio
5. datblygu mesurau i reoli risgiau i’r sefydliad ac i ddarparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau, gan gynnwys risgiau sy’n benodol i arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
6. rhoi’r mesurau rheoli ar waith a defnyddio gweithdrefnau y cytunwyd arnynt a chadarnhau eu bod yn cael eu dilyn
7. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
8. cynghori’r sefydliad ynghylch effaith lliniaru neu dderbyn risgiau a nodwyd gan ystyried unrhyw gost a budd
9. cyfathrebu â phawb sydd â chysylltiad â’ch gwaith neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt
10. cadarnhau bod cynllun yn cael ei ddatblygu a’i brofi i ymateb i ddigwyddiadau risg a chynnal parhad busnes gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
11. datblygu a chynghori ar weithdrefnau ar gyfer rhoi’r cynllun parhad busnes ar waith
12. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a pholisïau’r sefydliad
13. rhoi gwybod i’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, ac sy’n cael eu heffeithio ganddynt, ynglŷn â sut maen nhw'n rhan o’r sefydliad, ac ategu hyn gyda’r wybodaeth ofynnol
14. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. egwyddorion a thechnegau cyffredinol rheoli risg
3. pwysigrwydd cael cynllun parhad busnes a sut mae hynny’n effeithio ar y sefydliad
4. sut mae adnabod ac asesu risgiau i’r sefydliad a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
5. y risgiau sy'n benodol i arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
6. pam ei bod yn bwysig cael proses ar gyfer adnabod, monitro ac adrodd ar risgiau’n barhaus
7. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
8. yr adnoddau sydd eu hangen i adnabod, monitro ac adrodd ar risgiau ynghyd â chost a budd gwneud hyn
9. y broses a’r gweithdrefnau ar gyfer adnabod, monitro ac adrodd ar risgiau
10. sut i ddatblygu mesurau rheoli y gellir eu defnyddio i liniaru risgiau, gan gynnwys y rhai sy’n benodol i arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
11. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu sy’n cael eu heffeithio gan eich gwaith a sut y dylid gwneud hyn
12. beth ddylai cynllun parhad busnes ei gynnwys
13. sut i roi’r cynllun parhad busnes ar waith, ac o dan ba amgylchiadau y dylid gwneud hynny
14. sut i sefydlu a phrofi cynllun i ymateb i ddigwyddiadau risg a chynnal parhad busnes gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
15. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
16. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
Cwmpas/ystod
Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
• Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
• Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr
adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.
Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau