Darparu a monitro gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn ôl gofynion y sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymdrin â darparu a monitro gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn ôl gofynion y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys sefydlu a threfnu ar gyfer darparu a monitro effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir i’r sefydliad.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o natur busnes y sefydliad, y ffactorau sy’n dylanwadu ar y busnes a’r cyfraniad y gall gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ei wneud i amcanion busnes y sefydliad.
Mae hefyd yn ymwneud â bod yn ymwybodol o gyfleoedd i ddatblygu busnes o ran sefydlu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ychwanegol neu well ar gyfer y sefydliad.
Mae’r angen i fonitro gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau a’r adeiladau eu hunain yn un o ofynion allweddol y safon hon, gan gynnwys rheoli arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel ‘y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. sefydlu’r berthynas rhwng busnes y sefydliad a’i ofynion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
3. nodi’r gofynion sy’n gyson â pholisïau ac amcanion y sefydliad, ac sy'n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol presennol
4. darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau i’r sefydliad yn unol â’r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth
5. monitro a gwerthuso a yw gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn bodloni’r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno a nodi risgiau a chyfleoedd busnes i gynnig gwasanaethau ychwanegol i’r sefydliad
6. archwilio cyflwr yr adeiladau a gwneud argymhellion ynghylch cynnal a chadw, gwelliannau, costio oes gyfan ac arbedion cost ymarferol yn unol ag arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
7. nodi’r peryglon sy’n debygol o effeithio ar iechyd a diogelwch yn y man gwaith a chymryd camau adferol
8. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
9. dehongli’r data a dadansoddi’r canfyddiadau er mwyn dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy ar gyfer y sefydliad
10. defnyddio’r data hwn i wneud argymhellion ar gyfer gwella effeithlonrwydd y busnes ac arferion cynaliadwy ar gyfer y sefydliad
11. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a gweithdrefnau’r sefydliad
12. cyfathrebu â phawb sydd â chysylltiad â’ch gwaith neu y mae eich
gwaith yn effeithio arnynt
13. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. strwythurau busnes gwahanol y sefydliad a sut i gefnogi eu gofynion o ran gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
3. sut i gyfrannu at wneud penderfyniadau mewn perthynas â darparu gwasanaethau o fewn y sefydliad
4. amcanion busnes a ffactorau ysgogi allweddol y sefydliad a sut y gall gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau gefnogi’r rhain
5. pwysigrwydd darparu a chynnal amrywiaeth o wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n bodloni’r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno
6. y ffyrdd o fonitro a gwerthuso’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau rydych yn eu cynnig
7. yr ystod o gyfleusterau'r gweithle, cyfarpar ac adnoddau sydd ar gael yn y sefydliad a’r hyn y gellir eu defnyddio ar ei gyfer
8. gofynion rheoleiddiol, cydymffurfiaeth a chyfreithiol cyfredol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau a pholisïau’r sefydliad
9. sut mae dehongli cytundebau contract ffurfiol gyda sefydliadau ar gyfer darparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol
10. sut mae sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â risgiau a chyfleoedd a nodwyd wrth ddarparu gwasanaethau
11. yr ystod o wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau y gellir eu cynnig i wella amcanion busnes sefydliad
12. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
13. y dulliau a ddefnyddir i fonitro perfformiad gweithredol
14. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
15. y trefniadau a gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer gweithle'r sefydliad yn unol â’r cytundeb lefel gwasanaeth
16. y ffyrdd o fonitro a gwella perfformiad gweithredol sy’n gydnaws ag arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad
17. ac arferion cynaliadwy yn ogystal ag effaith unrhyw welliant ar gostio oes gyfan
18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rheini sy’n gysylltiedig yn eich gwaith, neu’n cael eu heffeithio gan eich gwaith a sut y dylid gwneud hyn
19. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG)
Mae cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) yn ymrwymiad rhwng darparwr gwasanaeth a chleient. Mae agweddau ar y gwasanaeth – ansawdd, argaeledd, cyfrifoldebau – yn cael eu cytuno rhwng y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr gwasanaeth. Elfen fwyaf cyffredin CLG yw y dylid darparu’r gwasanaethau i’r cwsmer fel y cytunwyd yn y contract.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill). Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Costio oes gyfan
Mae costio oes gyfan yn ystyried cyfanswm cost cynnyrch neu wasanaeth dros ei oes, o’r cysyniad hyd at waredu gan gynnwys prynu, llogi neu brydlesu, cynnal a chadw, defnyddio, hyfforddiant a gwaredu. Mae’n arbennig o bwysig i gaffael ystyried yr holl elfennau hyn wrth wneud penderfyniadau a chymharu costau prynu, rhentu neu brydlesu offer. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond cyfran fach o gost defnyddio’r offer yw’r costau prynu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
• Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy
dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
• Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo. Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol