Gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau ar y Rhyngrwyd
Trosolwg
Mae busnesau’n defnyddio’r Rhyngrwyd i gyflawni busnes, marchnata, a phrynu a gwerthu cynnyrch neu wasanaethau i gynulleidfa ehangach. Mae e-fasnach, e-fusnes ac e-fasnachu yn dermau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio busnes ar y Rhyngrwyd. Mae’r Rhyngrwyd yn darparu math gwerthfawr o gyfathrebu ac mae’n ffynhonnell werthfawr o wybodaeth sy’n gallu helpu pobl i wneud penderfyniadau. Er bod bach iawn o gysylltiad wyneb yn wyneb neu gyfathrebu ar lafar, mae angen o hyd am lawer o’r un sgiliau sy’n cael eu defnyddio mewn unrhyw fusnes llwyddiannus i gyflawni busnes yn electronig, ynghyd â sgiliau eraill, fel defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a datblygu a chynnal gwefannau.
Gallech wneud hyn os ydych chi:
- yn archwilio sut gall y Rhyngrwyd helpu eich busnes neu’ch menter gymdeithasol
- yn datblygu cynlluniau i’ch busnes neu’ch menter gymdeithasol ddefnyddio’r Rhyngrwyd
- yn adolygu sut mae eich busnes neu’ch menter gymdeithasol yn defnyddio’r Rhyngrwyd
Mae gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau ar y Rhyngrwyd yn cynnwys:
- penderfynu pa gyfleoedd sydd i’ch busnes trwy ddefnyddio’r Rhyngrwyd
- cynllunio sut i ddefnyddio’r Rhyngrwyd
- sefydlu a gwerthuso llwyddiant e-fasnachu
- cadw i fyny â datblygiadau technolegol, amodau’r farchnad a rheoliadau’n ymwneud ag e-fasnachu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 ymchwilio i gyfleoedd e-fusnes a thueddiadau’r farchnad ar gyfer eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau
P2 cymryd cyngor am gynllunio e-fusnes ac e-fasnachu o ffynonellau addas a phenderfynu sut byddwch chi’n defnyddio’r rhyngrwyd i gyrraedd neu wasanaethu eich marchnad darged
P3 ymchwilio i delerau ac amodau gwahanol fathau o e-fasnachu, a’u hasesu
P4 asesu problemau, costau a buddion e-fasnachu a phenderfynu a yw’n fuddiol i’ch busnes
P5 asesu sgiliau eich staff a phenderfynu pa hyfforddiant sydd ei angen.
P6 asesu pa systemau gwybodaeth a gweinyddol fyddai’n addas ar gyfer e-fasnachu
P7 penderfynu pa adnoddau a help technegol fydd eu hangen arnoch chi a threfnu eu bod ar gael ar adegau priodol
P8 datblygu eich cynlluniau, gan gynnwys targedau a rhagolygon yn unol â nodau cyffredinol eich busnes
P9 monitro cynnydd wrth gyflawni nodau a thargedau
P10 sefydlu systemau gwybodaeth a gweinyddu a dogfennau ar gyfer e-fasnachu
P11 penderfynu sut byddwch chi’n monitro gwasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys unrhyw gwynion, sylwadau neu awgrymiadau
P12 nodi unrhyw broblemau gyda’r wefan a gweithgareddau e-fasnachu a chymryd camau prydlon i’w datrys
P13 adolygu adnoddau pan fydd digwyddiadau’n amrywio i’r rhai sydd wedi’u hamlinellu yn eich cynlluniau
P14 asesu effeithiolrwydd e-fasnachu yn erbyn eich cynlluniau a nodau cyffredinol eich busnes
P15 nodi ac ymchwilio i unrhyw gyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg, a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r wefan neu i weithgareddau e-fasnachu
P16 darparu gwybodaeth am gynnydd e-fasnachu i bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Marchnata a gwerthiannau
K1 beth yw costau a buddion gwahanol ddulliau marchnata a gwerthu i e-fasnachu
K2 sut i gysylltu gwahanol ddulliau gwerthu a marchnata fel bod cwsmeriaid yn gwybod sut i’ch cyrraedd chi trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd
K3 sut i gyfleu gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau a darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar-lein i bob cwsmer posibl
E-fasnachu
K4 beth yw risgiau peidio ag e-fasnachu
K5 pa opsiynau masnachu sy’n bodoli ar y Rhyngrwyd
K6 pa delerau ac amodau sy’n berthnasol i e-fasnachu o fewn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd ac o gwmpas y byd
K7 sut byddwch chi’n cael taliad gan gwsmeriaid sy’n prynu drwy’r rhyngrwyd
K8 sut i ddadansoddi costau a buddion ychwanegol e-fasnachu o gymharu ag anghenion presennol y busnes
K9 sut mae e-fasnachu yn effeithio ar eich cynlluniau a’ch nodau hirdymor
K10 sut mae gwahaniaethau moesegol, diwylliannol, galluoedd corfforol ac arddull mewn marchnadoedd yn effeithio ar e-fasnachu
K11 pa broblemau allai fod gydag e-fasnachu (er enghraifft dim digon o adnoddau, newidiadau yn amodau’r farchnad, technoleg, gweithgarwch cystadleuwyr, cyfreithiau neu reoliadau)
K12 sut i farnu llwyddiant e-fusnes ac e-fasnachu (er enghraifft cael pobl i wybod am eich busnes, cyrraedd targedau marchnata a gwerthu, darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid, llif arian a phroffidioldeb)
K13 sut byddwch yn cynnal diogelwch (fel data cleientiaid) ac yn amddiffyn rhag firysau, ac yn delio ag unrhyw broblemau
Cynllunio
K14 pa amserlenni sydd eu hangen ar gyfer rhoi cynlluniau e-fusnes ar waith
K15 pa nodau a thargedau ddylai gael eu gosod o ran ansawdd, amserlenni, gwasanaeth cwsmeriaid, nifer gwerthiannau, meintiau’r elw a busnes mynych
K16 beth allai cynlluniau ar gyfer e-fusnes ei gynnwys, er enghraifft:
K16.1 asesiad o’r farchnad, gan gynnwys gofynion cwsmeriaid, dulliau codi tâl a strwythurau
K16.2 rhagolygon gwerthiannau a maint gros
K16.3 cost dechrau arni ac adnoddau parhaus
K16.4 cyllidebau ac opsiynau ariannu parhaus
K16.5 y cymysgedd marchnata electronig (hynny yw, cynnyrch, pris, hyrwyddo, staff a sianeli dosbarthu)
K16.6 asesiad o ffactorau cyfreithiol a moesegol
K16.7 rhagolygon uchel ac isel (asesiad risg sylfaenol)
K16.8 arbedion i’ch busnes
K16.9 cynllun gweithredu gydag amserlenni priodol
K17 pa drefniadau sy’n addas ar gyfer monitro cynnydd eich cynlluniau (er enghraifft adroddiadau llafar neu ysgrifenedig, sesiynau briffio neu gyfarfodydd)
K18 pa rannau o’ch cynlluniau allai newid (er enghraifft terfynau amser, ffigurau gwerthu uwch neu is, mwy neu lai o alw gan gwsmeriaid)
K19 sut i gynllunio ffyrdd o ddelio ag unrhyw feysydd a allai newid (cynllunio wrth gefn)
Adnoddau
K20 pa adnoddau ychwanegol fydd eu hangen ar gyfer e-fasnachu, sut byddwch chi’n eu cael a faint fydd eu cost (er enghraifft cyfarpar cyfrifiadurol, arbenigwyr technegol, tanysgrifiad band eang)
K21 pa effaith fydd e-fasnachu yn ei chael ar system TGCh bresennol eich busnes
K22 pa sgiliau technegol fydd eu hangen ar gyfer e-fasnachu
K23 pa systemau gwybodaeth a gweinyddol fyddai’n addas ar gyfer e-fasnachu ac a fydd y prosesau hyn yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol â systemau TGCh presennol
K24 sut i ddatblygu dulliau dosbarthu a fydd yn cwmpasu’r ardal ddaearyddol arfaethedig ac yn ymdrin ag archebion y tu allan i’r ardal (er enghraifft rhywle arall yn y DU, yr UE a chwsmeriaid tramor eraill)
K25 sut a phryd i adolygu adnoddau
Seilwaith
K26 sut i sefydlu dulliau talu a chyfrifon i gwsmeriaid neu wneud newidiadau i ddulliau presennol
Ffocws y busnes
K27 sut i adnabod cyfleoedd newydd a beth maen nhw’n debygol o’i gynnwys
Gwybodaeth a chyngor
K28 o ble i ddod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd e-fusnes a thueddiadau’r farchnad
K29 pwy sy’n gallu darparu cyngor am gynllunio a rhedeg e-fusnesau
Ymgynghori
K30 pwy i’w cynnwys wrth wneud penderfyniadau (er enghraifft partneriaid, cefnogwyr, staff, cwsmeriaid, aelodau, rhanddeiliaid neu gyflenwyr)