Cynllunio sut byddwch chi’n gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau

URN: LANWB3
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol,Ffensio,Gwaith coed,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Mai 2008

Trosolwg

Mae’n rhaid i chi werthu digon o’ch cynnyrch neu’ch gwasanaethau fel bod eich busnes yn parhau i redeg. Mae angen i chi ddeall eich marchnad i werthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau am elw. Mae angen i chi ymchwilio i sut byddwch chi’n gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau er mwyn gwella eich gwerthiannau. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i baratoi cynlluniau a fydd yn anelu at wella eich elw. Bydd manylion y pethau y bydd angen i chi edrych arnynt yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych a’r math o gwsmeriaid byddwch chi’n gwerthu iddynt. Hefyd, mae angen i chi ystyried beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a meddwl am ffyrdd o ennill mwy o fusnes.

Gallech wneud hyn os ydych chi:

  1. yn sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd
  2. yn ehangu eich busnes neu’ch menter gymdeithasol
  3. yn newid neu’n addasu’r cynnyrch neu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eich busnes neu gan fenter gymdeithasol
  4. adolygu sut rydych chi’n gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau

Mae cynllunio sut byddwch chi’n gwerthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau yn cynnwys:

  1. dysgu am ddulliau gwerthu amrywiol a’u cymharu
  2. gosod targedau ar gyfer gwerthiannau
  3. ysgrifennu cynllun gwerthiannau

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 ymchwilio i’r gwahanol ffyrdd o werthu cynnyrch neu wasanaethau
P2 gweithio allan sut y gall dulliau gwerthu gwahanol effeithio ar niferoedd gwerthiannau
P3 gweithio allan faint o werthiannau y gellir eu gwneud
P4 gweithio allan pryd, sut a ble y gellir gwneud gwerthiannau
P5 gwneud yn siŵr bod eich targedau ar gyfer gwerthiannau yn cyfateb i’r targedau rydych chi wedi’u gosod ar gyfer eich busnes
P6 ysgrifennu cynllun gwerthiannau ar sail eich ymchwiliad i’r farchnad a chynnwys y dulliau gwerthu byddwch chi’n eu defnyddio
P7 penderfynu ar amser rhesymol i gyrraedd y targedau gwerthu
P8 paratoi cyllideb fanwl ar gyfer gwerthiannau ac ystyried pa effaith y bydd cyflawni’r targedau gwerthu yn ei chael ar eich busnes
P9 cynhyrchu cynllun gwerthiannau gorffenedig a chynnwys pob gwybodaeth i ddangos sut rydych chi wedi cyrraedd eich penderfyniadau
P10 penderfynu pa bethau y byddech chi’n chwilio amdanynt i weld a oedd eich cynllun gwerthiannau yn llwyddiannus
P11 penderfynu pa wybodaeth y byddwch chi’n ei defnyddio i farnu eich perfformiad gwerthu
P12 penderfynu pa mor aml y byddwch chi’n adolygu perfformiad gwerthu i weld a oes angen i chi newid unrhyw rai o’ch targedau
P13 ystyried ymhle y gallai pethau amrywio o’r cynllun a meddwl sut y byddech chi’n delio â hyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth am y farchnad
K1 ffyrdd o ddarganfod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac o ble i’w chael  
K2 beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol mewn sector
K3 y dulliau sydd ar gael o werthu neu ddarparu cynnyrch neu wasanaeth
K4 ble i fynd i gael cyngor a help
Targedau gwerthu
K5 pam mae’n bwysig gosod targedau ar gyfer gwerthu
K6 sut i osod targedau ar gyfer gwerthu a fydd yn cynnwys:
K6.1 nifer y gwerthiannau
K6.2 meintiau’r elw
K6.3 llif arian
K6.4 darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
K6.5 cael busnes mynych
K6.6 ansawdd cynnyrch neu wasanaeth
K6.7 p’un a yw cleientiaid yn deilwng o gael credyd
Cynlluniau gwerthu
K7 pam mae cynllunio gwerthiannau yn bwysig
K8 ffyrdd o ddatblygu a chyflwyno cynllun
K9 beth ddylech ei gynnwys mewn cynllun gwerthu
K9.1 beth yw’r farchnad
K9.2 beth mae cwsmeriaid ei angen a’i eisiau
K9.3 nifer y gwerthiannau rydych chi’n anelu at eu cyflawni a beth yw’r targed o ran maint yr elw
K9.4 pwy fydd yn ymwneud â gwerthu (er enghraifft staff presennol neu staff newydd)
K9.5 rhagweld gwerthiannau yn ôl cynnyrch neu wasanaeth ac yn ôl pob person sy’n gwerthu
K9.6 sut a ble bydd y cynnyrch neu’r gwasanaeth yn cael ei werthu (er enghraifft cyfanwerthu, mewn siopau, drwy’r post neu dros y rhyngrwyd)
K9.7 beth yw cost gwerthu.
K9.8 sut bydd gwerthiannau’n cyfrannu at lwyddiant busnes
Perfformiad gwerthu
K10 sut i farnu p’un a ydych chi’n cyrraedd targedau gwerthu ai peidio
K11 sut i gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd wrth farnu llwyddiant, i gyfrif am beth sy’n digwydd mewn gwirionedd
K12 sut i sefydlu eich busnes i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gwybodaeth am werthiannau yn hawdd
K13 sut i nodi’r pwyntiau pan fydd busnes yn amrywio o’r cynllun (er enghraifft ffigurau gwerthu uwch neu is, mwy neu lai o alw gan gwsmeriaid)


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CFA Business Skills @ Work

URN gwreiddiol

SFAWB3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC

1211

Geiriau Allweddol

gwerthiannau; gwerthu; targedau; cynllunio; cyllidebu; monitro