Cynllunio sut i roi gwybod i’ch cwsmeriaid am eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau
Trosolwg
Mae angen i chi ddeall eich marchnad i werthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau am elw. Bydd angen i chi ymchwilio i sut rydych chi’n marchnata eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau i wella’ch gwerthiannau a’ch marchnata. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i baratoi cynlluniau a fydd yn perswadio pobl i brynu cynnyrch neu wasanaeth ac yn helpu i wella’ch elw. Bydd manylion yr hyn y mae angen i chi edrych arno yn dibynnu ar eich math o fusnes a’r mathau o gwsmeriaid rydych chi’n ceisio’u cyrraedd. Hefyd, mae angen i chi ystyried beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a meddwl am ffyrdd o ennill mwy o fusnes.
Gallech wneud hyn os ydych chi:
- yn sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd
- yn ehangu eich busnes neu’ch menter gymdeithasol
- yn ceisio cyrraedd cwsmeriaid newydd a’u cadw
- yn newid neu’n addasu’r cynnyrch neu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eich busnes neu gan fenter gymdeithasol
Mae cynllunio sut i roi gwybod i’ch cwsmeriaid am eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau yn cynnwys:
- dysgu am y farchnad ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau eich busnes
- cynhyrchu cynllun ar gyfer marchnata
- penderfynu sut byddwch chi’n barnu llwyddiant eich marchnata a’ch gwerthiannau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 penderfynu beth rydych chi’n gobeithio ei gyflawni trwy farchnata a pharu hyn â’r targedau rydych chi wedi’u gosod ar gyfer eich busnes
P2 paratoi rhagolygon ar gyfer marchnata a chyfrifo cost gweithgareddau marchnata
P3 penderfynu ar amser rhesymol i gyrraedd y targedau marchnata
P4 dysgu am ddulliau a chyfleoedd marchnata a hyrwyddo posibl
P5 paratoi cyllideb fanwl ar gyfer marchnata a phenderfynu beth fydd y buddion i’ch busnes
P6 defnyddio eich canfyddiadau i gynhyrchu eich cynllun marchnata a chynnwys yr holl wybodaeth i ddangos sut rydych chi wedi dod i’ch penderfyniadau
P7 penderfynu sut y byddwch yn delio â phethau sydd heb ddilyn eich cynllun
P8 penderfynu pa bethau byddech chi’n chwilio amdanynt i weld a oedd y eich cynllun marchnata yn llwyddiannus
P9 penderfynu pa wybodaeth byddwch chi’n ei defnyddio i farnu eich perfformiad marchnata
P10 penderfynu pa mor aml byddwch chi’n adolygu perfformiad marchnata i weld a oes angen i chi newid unrhyw rai o’ch targedau
P11 meddwl ble y gallai pethau amrywio o’r cynllun a meddwl sut y byddech chi’n delio â hyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Targedau marchnata
K1 pam mae’n bwysig gosod targedau ar gyfer marchnata a gwerthiannau
K2 pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch am y farchnad ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaethau
K3 pa dargedau i’w gosod ar gyfer marchnata ac i’ch cyfran o’r farchnad
K4 sut i osod targedau ar gyfer marchnata a fydd yn cynnwys ystyried
K4.1 eich safle yn y farchnad
K4.2 gwerthiannau a meintiau gros
K4.3 elw a meintiau elw
K4.4 llif arian
K4.5 cynnyrch neu wasanaethau
K4.6 gweithgarwch cystadleuwyr
K4.7 ffasiwn a thueddiadau cwsmeriaid
K4.8 delwedd eich busnes
K4.9 defnyddio adnoddau
K4.10 newidiadau mewn technoleg
Dulliau marchnata
K5 pam mae marchnata a hyrwyddo yn bwysig
K6 gwahanol ffyrdd o hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth (er enghraifft cyhoeddusrwydd yn y wasg, ar y radio ac ar deledu lleol, argymhelliad personol a chymeradwyaeth bersonol)
K7 gwahanol fathau o farchnata (er enghraifft hysbysebu, anfon deunydd cyhoeddusrwydd yn uniongyrchol at gwsmeriaid, gwerthu i gwsmeriaid wyneb yn wyneb neu gysylltiadau cyhoeddus)
Cynlluniau marchnata
K8 sut i lunio cynllun ar gyfer marchnata
K9 beth ddylech chi ei gynnwys mewn cynllun marchnata:
K9.1 beth yw’r farchnad
K9.2 beth mae ei angen a’i eisiau ar gwsmeriaid
K9.3 eich rhagolygon ar gyfer eich busnes
K9.4 pa fath o farchnata byddwch chi’n ei ddefnyddio
K9.5 faint fydd cost y marchnata
K9.6 beth yw’r cynnyrch neu’r gwasanaethau (er enghraifft enw, maint, ansawdd, dyluniad a phecynnu)
K9.7 beth ddylai pris cynnyrch neu wasanaethau fod (er enghraifft gostyngiadau, telerau credyd, cynigion arbennig a chystadleuaeth ochr yn ochr gan gynnyrch neu wasanaethau tebyg eraill)
K9.8 pwy fydd yn ymwneud â marchnata (er enghraifft chi, eich staff neu asiantaethau allanol)
K9.9 sut a ble y bydd cynnyrch neu wasanaethau’n cael eu gwerthu (er enghraifft cyfanwerthu, mewn siopau, drwy’r post neu dros y rhyngrwyd)
K9.10 sut byddwch chi’n cyflwyno’r cynnyrch neu’r gwasanaeth i gwsmeriaid
Perfformiad marchnata
K10 sut i farnu p’un a ydych chi’n bodloni targedau marchnata ai peidio
K11 sut i gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd wrth farnu llwyddiant, i gyfrif am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd
K12 sut i sefydlu eich busnes i wneud yn siŵr y gallwch chi gael gwybodaeth am farchnata yn hawdd
K13 sut i nodi’r pwyntiau pan fydd y busnes yn amrywio o’r cynllun (er enghraifft ffigurau gwerthu uwch neu is, mwy neu lai o alw gan gwsmeriaid)