Paratoi a chynnal a chadw offer a deunydd profion diagnostig milfeddygol
URN: LANVRN8
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal a chadw offer a deunydd profion diagnostig milfeddygol a ddefnyddir ar gyfer casglu a phrofi samplau gan gleifion milfeddygol. Gall y samplau gynnwys gwaed, troeth, carthion, croen neu flew.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau hunaniaeth y claf milfeddygol cywir, ei gyflwr a'r prawf diagnostig sy'n ofynnol
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth baratoi a chynnal a chadw offer a deunydd profion diagnostig
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth baratoi offer a deunydd profion diagnostig
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol ar waith ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- paratoi offer a deunydd profion diagnostig ar gyfer samplau yn unol â gweithdrefnau'r filfeddygfa a'r cynhyrchydd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau'r cynhyrchydd yn ymwneud â defnyddio offer a deunyddiau profion diagnostig
- cynnal a chadw offer a deunydd profion diagnostig yn unol â chyfarwyddiadau penodol y cynhyrchydd, amserlenni cynnal a chadw'r filfeddygfa a gweithdrefnau'r filfeddygfa
- chwilio am namau yn yr offer a'r deunydd profion diagnostig a chymryd camau i unioni neu adrodd ynghylch y rhain lle bo angen
- gwaredu deunydd dros ben a gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod y claf milfeddygol, ei gyflwr a’r prawf diagnostig sy’n ofynnol
pwysigrwydd cael arweiniad gan aelodau’r tîm milfeddygol
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer paratoi a chynnal a chadw offer a deunydd profion diagnostig milfeddygol
- sut i asesu a lleihau’r risg i chi eich hun neu gydweithwyr wrth baratoi offer profion diagnostig
- gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
- yr offer a’r deunydd profion diagnostig y dylid eu defnyddio ar gyfer profion diagnostig gwahanol a sut i baratoi’r rhain
- y ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau’r cynhyrchydd yn ymwneud â defnyddio offer a deunyddiau profion diagnostig
- sut i gynnal a chadw offer yn unol â phrotocolau’r filfeddygfa a chanllawiau’r cynhyrchydd
- y mathau o namau a all effeithio ar offer diagnostig milfeddygol a’r camau i’w cymryd i unioni neu adrodd ynghylch y rhain
- y mathau o namau a all ddigwydd gyda deunyddiau, yn cynnwys deunyddiau y mae eu dyddiad wedi dod i ben, niwed a halogi a’r camau i’w cymryd i unioni neu hysbysu ynghylch y rhain fel y bo angen
- sut i waredu’r mathau gwahanol o ddeunydd dros ben neu wastraff yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANVRN12
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
profi; gofal anifeiliaid; offer