Dewis a thrawsblannu coed pêl-wraidd mawr

URN: LANTw9
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis a thrawsblannu coed pêl-wraidd mawr.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r perygl sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. cynnal diogelwch y peiriannau a'r offer ar y safle
  7. dewis rhywogaeth o goeden sy'n bodloni gofynion y cwsmer a'r safle
  8. sicrhau bioddiogelwch a chyflwr y goeden bêl-wreiddyn cyn ei chludo a'i sefydlu
  9. paratoi'r goeden bêl-wreiddyn fawr ar gyfer ei chludo
  10. cludo'r goeden bêl-wreiddyn fawr mewn ffordd sydd yn ddiogel ac yn gadarn ac yn unol â rheoliadau priffyrdd a thraffig perthnasol
  11. cynnal iechyd, bywiogrwydd a chyflwr ffisegol y goeden bêl-wreiddyn fawr trwy gydol y weithred
  12. adnabod a nodi'r safle plannu'n glir
  13. trawsblannu'r goeden bêl-wreiddyn fawr yn unol â'r fanyleb
  14. rhoi cymorth i'r goeden, os oes angen ar gyfer yr amodau plannu
  15. nodi ôl-ofal sy'n briodol i'r goeden a'r amgylchedd
  16. symud yr holl wastraff a'r deunyddiau dros ben a'u gwaredu fel y nodir
  17. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni'r gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  18. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd yr offer a'r cerbydau ar y safle
  7. sut i ddewis stoc coed addas i fodloni anghenion y cwsmer ac amodau'r safle
  8. sut i adnabod stoc plannu iach
  9. sut i wirio cyflwr a bioddiogelwch y goeden bêl-wreiddyn fawr i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer ei chludo a'i sefydlu
  10. effeithiau cludo ar goed pêl-wreiddyn mawr a sut i'w paratoi ar gyfer cludo a chynnal eu cyflwr yr holl amser
  11. y ffactorau sy'n effeithio ar amseriad, dull a'r safle plannu
  12. achosion niwed i'r goeden, o'r feithrinfa i blannu, a sut y gellir osgoi'r rhain
  13. gofynion ôl-ofal coed pêl-wreiddyn mawr er mwyn sicrhau eu sefydlu'n llwyddiannus
  14. sut i ddewis system gymorth addas fydd o fudd i goeden bêl-wreiddyn fawr ar ôl ei thrawsblannu
  15. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

​Achosion niwed:

  • ymdrin
  • cludo
  • amseriad
  • cyflwr y safle
  • math o bridd
  • cyswllt/agwedd
  • sychu allan

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw9

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Tirluniwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

mawr; coeden; ôl-ofal; twf; gwraidd; cludo