Rheoli gweithrediadau plannu a sefydlu coed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i reoli gweithrediadau plannu a sefydlu coed mewn coedwig, coetir neu leoliad trefol.
Bydd dulliau paratoi’r tir a phlannu yn amrywio rhwng plannu mewn coedwig a choetir a phlannu trefol.
Mae meintiau coed yn amrywiol, o drawsblaniadau bach o blanhigfa, i goed chwip hyd at fetr o uchder, i goed rhannol aeddfed, ac mae angen dulliau plannu gwahanol arnynt. Gallant fod yn rhai plwg, mewn pot, gwreiddiau noeth neu bêl-wreiddyn. Mae coed mawr wedi’u tyfu mewn potiau yn drwm iawn a gall fod angen cyfarpar codi i gynorthwyo â’u symud a’u plannu.
Gallai gweithgareddau gynnwys rheoli rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- clirio a pharatoi safleoedd i blannu coed
- plannu coed
- darparu ôl-ofal i goed newydd eu plannu
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i reoli’r gwaith ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu wasanaethau tanddaearol, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Mae’n rhaid bod unrhyw un sy’n gweithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion wedi’u hyfforddi’n briodol, a dal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Wrth blannu mewn ardaloedd trefol, gallai hyn gynnwys dal cymwysterau gwaith stryd perthnasol.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon i bobl sy’n gyfrifol am reoli gweithrediadau plannu a sefydlu coed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i reoli gweithrediadau sefydlu coed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cadarnhau bod asesiad amgylcheddol o’r safle wedi’i gyflawni cyn dechrau gweithio ac ystyried ei ganfyddiadau
4. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
5. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, gan gynnwys peryglon tanddaearol ac uwchben, a chynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull, yn ôl yr angen
6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
7. cadarnhau bod gweithdrefnau ar gyfer defnyddio a storio sylweddau peryglus ac ar gyfer delio â choed sydd wedi’u trin yn gemegol ar waith, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn
8. monitro bioddiogelwch yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
9. cadarnhau bod gweithdrefnau ar gyfer tynnu a gwaredu pob gwastraff ar waith, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol, a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn
10. cydlynu gwasanaethau a gweithgareddau safle a defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
11. cadarnhau bod difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, yn cael ei leihau wrth wneud y gwaith hwn a bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
12. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
13. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
14. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Datblygu a gweithredu cynlluniau plannu a sefydlu coed
1. datblygu cynlluniau ar gyfer plannu coed yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd ac amcanion y safle, gan gynnwys dulliau clirio, paratoi a draenio’r safle a dulliau plannu coed
2. penderfynu ar gamau i atal a rheoli llygredd gwasgaredig a mathau eraill o lygredd yn ystod gweithrediadau plannu, yn unol â gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant, a chyfrif am amodau tir y safle a’r potensial am dywydd gwael
3. cadarnhau bod y mesurau hyn yn cael eu gweithredu, monitro’u heffeithiolrwydd ac addasu’r mesurau i ymateb i newidiadau mewn amodau
4. dewis y dulliau mwyaf diogel o blannu coed yn unol â maint y goeden, y risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol
5. pennu gofynion ôl-ofal y coed sydd newydd eu plannu i sicrhau eu bod yn sefydlu’n llwyddiannus, gan gynnwys dulliau amddiffyn a chynnal a chadw coed
6. pennu’r deunyddiau sy’n ofynnol i fodloni’r cynlluniau plannu a sefydlu coed
7. goruchwylio’r gwaith o archebu stoc plannu a deunyddiau eraill i fodloni’r cynlluniau a chadarnhau bod yr holl ddosbarthiadau yn cael eu gwirio yn erbyn yr archeb am eu cywirdeb a’u hansawdd
8. rheoli stoc plannu yn unol â gofynion y safle a’r cynlluniau plannu a sefydlu coed
9. nodi a chasglu’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni deilliannau gweithrediadau plannu a sefydlu coed yn unol â chynlluniau
10. dyrannu cyfrifoldebau i’r gweithlu am eu rhan yn y gweithrediadau plannu a sefydlu coed
11. cadarnhau bod gan holl aelodau’r gweithlu yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i gyflawni’r gwaith, yn unol â gofynion cyfreithiol
12. wrth ddefnyddio contractwyr, cadarnhau bod yr yswiriannau perthnasol ar waith
13. cyfleu’r wybodaeth a’r cyfrifoldebau perthnasol yn gysylltiedig ag iechyd a gwaith i’r gweithlu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a monitro bod gweithdrefnau diogelwch yn cael eu dilyn
14. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
15. cadarnhau bod y cyfarpar a’r peiriannau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith ar gael ac yn addas at eu diben
16. rheoli diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau ar y safle
17. monitro’r gweithrediadau plannu a sefydlu coed yn erbyn y cynlluniau, o ran amserlen, ansawdd, cost, canlyniadau a’r safon a gyflawnir
18. gweithredu i atal gwaith pan fydd amodau’r tywydd yn cynyddu tebygolrwydd llygredd gwasgaredig
19. rheoli unrhyw wyriadau o’r cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gweithrediadau sefydlu coed
2. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gweithio a’r canfyddiadau y mae’n rhaid eu hystyried
3. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
4. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a sut i gynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull ar gyfer gweithrediadau sefydlu coed
5. y camau rheoli iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol, a’r cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle
6. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn cael ei gyflawni
7. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
8. y gofynion o ran trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
9. pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso
10. y gofynion cyfreithiol a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer tynnu a gwaredu pob math o wastraff
11. sut i gydlynu gwasanaethau a gweithgareddau safle a chyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
12. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut i reoli a lliniaru effaith amgylcheddol a bioamrywiaeth y gweithrediadau sefydlu coed
13. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
14. y problemau a all godi wrth reoli gweithrediadau sefydlu coed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
15. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
16. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Datblygu a gweithredu gweithrediadau plannu a sefydlu coed
17. egwyddorion datblygu cynlluniau plannu a sefydlu coed a beth ddylid ei gynnwys
18. technegau llywio a mapio a sut i gymhwyso’r rhain
19. sut i adnabod coed a’u nodweddion
20. systemau a dulliau coedwrol
21. egwyddorion coetir wedi’i adfywio’n naturiol
22. sut i adnabod mathau o bridd ac arwyddocâd hyn i blannu a sefydlu coed
23. dulliau clirio, paratoi a draenio tir a sut i ddewis y dull mwyaf priodol
24. pwysigrwydd atal a rheoli llygredd gwasgaredig a mathau eraill o lygredd ar safle a’r camau y gellir eu gweithredu i wneud hyn
25. sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a phwysigrwydd gwirio’u cywirdeb a’u hansawdd
26. y dulliau a’r technegau ar gyfer rheoli stoc plannu a sut i wneud y mwyaf o stoc iach
27. yr adnoddau sy’n ofynnol i weithredu cynlluniau plannu a sefydlu coed a sut i’w casglu
28. sut i ddyrannu cyfrifoldebau i’r gweithlu a beth ddylid ei ystyried
29. pwysigrwydd gwirio bod gan holl aelodau’r gweithlu, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i gyflawni’r gwaith
30. sut i sicrhau bod y cyfarpar a’r peiriannau sy’n ofynnol ar gyfer plannu a sefydlu coed yn addas at eu diben a’u bod ar gael lle a phan fo angen
31. technegau plannu coed sy’n berthnasol i’r math o blannu (coedwigaeth, coetir, trefol) a phwysigrwydd dulliau trin diogelu
32. gofynion ôl-ofal y coed newydd eu plannu a dulliau y gellir eu defnyddio i’w hamddiffyn rhag amrywiaeth eang o gyfryngau niweidiol
33. y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n effeithio ar ddefnyddio chwynladdwyr, plaleiddiaid a dulliau eraill o amddiffyn coed
34. y dulliau a’r technegau rheoli ar gyfer gweithredu a monitro cynlluniau plannu a sefydlu coed i fodloni’r gofynion a roddwyd a sut i ddelio ag unrhyw wyriadau
Cwmpas/ystod
Dulliau o glirio a pharatoi safleoedd:
- casglu a gwaredu gwastraff
- gwaredu bonion
- gwaredu tocion (cribinio, byrnu, asglodi, llosgi)
- rheoli llystyfiant digroeso (chwistrellu cemegol, mecanyddol, â llaw)
- rheol plâu
- tynnu llystyfiant ar lefel y tir (screefing)
- digroeni
- aredig yr isbridd
- aredig
- pentyrru
- taenu gwellt
- draenio
- defnyddio cyfarpar ysgafn a thrwm
- ychwanegu gwrtaith
- diheintio
Mae dulliau o amddiffyn coed ar ôl eu plannu yn cynnwys:
- chwistrellu neu daenu gwellt o gwmpas coed newydd eu plannu i reoli chwyn
- gardiau, tiwbiau a chysgodau coed
- ffensio
- rhwydo
- stancio
- chwistrell atal ceirw
- “dodrefn stryd” mewn plannu addurnol
Mae dulliau o gynnal coed ar ôl eu plannu yn cynnwys:
- gwella’r pridd
- dyfrhau
- bwydo
- cynnal a chadw systemau cynhaliaeth
- atgyweirio/newid amddiffyniadau coed
- tynnu a gwaredu amddiffyniadau coed yn gywir pan nad ydynt yn ateb diben mwyach
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Achosion difrod i goed:
- trin
- cludo
- amseru
- amodau’r safle
- math o bridd
- agwedd / wynebwedd
- sychu
- gwynt
Cyfryngau niweidiol:
- pryfed
- ceirw
- llygod y dŵr
- cwningod/ysgyfarnogod
- moch gwyllt
- da byw sy’n pori
- chwyn
- fandaliaid
- y tywydd
Cynllunio plannu a sefydlu coed o ran:
- mathau o bridd
- gofynion draenio dŵr ar amrywiaeth o safleoedd
- gofynion rhywogaethau coed, eu buddion ecolegol a’u defnydd yn y pen draw
- dehongli gwybodaeth arolygon a gwybodaeth ddaearyddol
- gofynion plannu e.e. lleoliad, dwysedd
- rheoli llafur
- costau
- deddfwriaeth
- coedamaeth
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Coed â gwreiddiau noeth – nid oes pridd na chompost ynghlwm
Coed wedi’u tyfu mewn celloedd (plygiau) - caiff coed eu tyfu mewn pot neu gell fach, ond dwfn, i greu system gwreiddiau dwfn. Maent yn cyrraedd ar ffurf plwg dwfn gyda chompost yn barod i’w plannu.
Mae llygredd gwasgaredig mewn gwaith coed yn cynnwys: baw a silt, tameidiau bach o danwydd, olew neu lygryddion eraill a ollyngwyd sy’n cael eu rhyddhau i gwrs dŵr naturiol.
- Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- canllawiau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Tyfu mewn llinellau – tyfir coed yn agos iawn at ei gilydd mewn llinellau, sy’n annog twf syth a thal.
Plannu dwysedd isel – tyfir coed ymhellach oddi wrth ei gilydd i annog twf trwchus.
Meintiau coed wedi’u tyfu mewn planhigfa: (cwmpas 1m)
- Pluog – 175-200 – 200-250
- Safonol Ysgafn (LS) 6-8cm
- Safonol (S) 8-10cm
- Safonol Dethol (SS) 10-12cm
- Safonol Trwm (HS) 12-14cm
- Safonol Trwm Iawn (EHS) 14-16cm
- Safonol Trwm Uwch (AHS) 16-18cm
- Sbesimen Aeddfed 18-20cm +
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Gall camau atal llygredd gynnwys:
- lleiniau clustogi
- ffosydd rhwystr
- trapiau silt
- ffensys silt
- parthau hidlo
- pibellau draenio dŵr
- matiau tocion
- ffyrdd boncyffion
- pontydd boncyff
- storio tanwydd, olew a chemegion yn gywir
- ardaloedd dynodedig ar gyfer ailgyflenwi tanwydd a chynnal a chadw
- archwilio a chynnal a chadw peiriannau yn rheolaidd i atal olew a hylif hydrolig rhag gollwng
Gall camau rheoli llygredd gynnwys:
- trawstiau rhwystro
- deunyddiau amsugnol ar gyfer llygryddion sy’n cael eu cludo ar arwyneb
- chwistrelli dŵr cyfaint isel, pwysedd uchel
Plygiau – gweler tyfu mewn celloedd
Pêl-wreiddyn – cyflenwir y goeden ynghyd â’r pridd neu’r compost y tyfwyd y goeden ynddo.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Gallai safleoedd gynnwys:
- tir glas
- tir fferm
- dynodedig
- trefol adfeiliedig
- tir adferedig
- presennol
- ailstocio coedwig/coetir
- gwarchodedig
Meintiau coed ar gyfer coedwigaeth:
- 1u1 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i dandorri a’i dyfu yn y fan a’r lle am flwyddyn bellach
- 1u2 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i dandorri a’i dyfu yn y fan a’r lle am 2 flynedd bellach
- 1+0 – Eginblanhigyn 1 flwydd
- 1+1 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i drawsblannu am flwyddyn
- 1+2 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i drawsblannu am 2 flynedd
- 2+2 – Eginblanhigyn 2 flwydd wedi’i drawsblannu am 2 flynedd
- Setiau – darn o helygen wedi’i rag-dorri, y gellir ei blannu’n uniongyrchol yn y tir. Fel arfer, mae’n mesur tua 45cm.
Coed chwip – eginblanhigyn ifanc un gangen sydd tua 30 i 40cm o uchder
Gallai’r gweithlu gynnwys:
- aelodau tîm
- gweithwyr dros dro
- staff asiantaeth
- Gwirfoddolwyr
- contractwyr
- unrhyw gyfuniad o’r rhain