Paratoi a gweithredu peiriant syfaen gydag atodiadau

URN: LANTw79
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cwmpasu paratoi a gweithredu peiriant sylfaen gydag atodiadau. Mae’r defnydd cymwys o beiriant sylfaen gydag atodiadau yn gofyn am sgil a gwybodaeth sylweddol.

Mae’r safon yn cynnwys defnyddio peiriannau sylfaen gydag ystod o atodiadau mewn amrywiaeth o dywydd, amodau tir a thirwedd. Bydd yr amodau hyn yn cael effaith ar ymdrin a defnyddio peiriant sylfaen ac atodiadau.

Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol. 

Wrth ddefnyddio’r peiriant sylfaen ar y briffordd gyhoeddus bydd angen bod gennych y trwyddedau priodol ar gyfer eich hun a’r peiriant.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r gwaith arfaethedig 2. dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith 3. dewis y peiriant sylfaen cywir ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud 4. paratoi’r peiriant sylfaen trwy wneud gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn, yn unol â manylebau yn cynnwys yr holl offer diogelwch 5. cadarnhau bod y peiriant sylfaen yn ddiogel ac yn barod i’w ddefnyddio 6. gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr i fodloni eich gofynion personol 7. dewis yr atodiadau priodol i wneud y gwaith gofynnol 8. sicrhau bod yr atodiadau yn addas ar gyfer y peiriant sylfaen 9. sicrhau bod yr atodiadau wedi eu gosod yn ddiogel  10. gwirio’r ardal waith uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud i ffwrdd 11. defnyddio’r arwyddion rhybudd cywir bob amser 12. gweithredu a symud y peiriant sylfaen yn ddiogel, ac mewn ffordd sydd yn cyd-fynd â’r math o beiriant, atodiad a gweithrediad 13. sicrhau bod yr atodiad mewn safle cludo pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, yn unol â’r manylebau 14. addasu gweithdrefnau gweithredu i ystyried unrhyw newidiadau yn y tywydd, amodau’r ddaear, mathau o dirwedd a chyfyngiadau’r safle 15. defnyddio rhagofalon ychwanegol wrth yrru am yn ôl neu symud a chydymffurfio â phellterau diogelwch gerllaw ffyrdd a llwybrau neu lle mae pobl eraill yn gweithio 16. cynnal effeithlonrwydd perfformiad y peiriant sylfaen a’r atodiad trwy ymdrin a chynnal a chadw priodol 17. ymdrin ag unrhyw beryglon a rhwystrau yn ystod y gweithrediad, yn unol ag ymarfer safonol 18. monitro gweithrediad yr atodiad ac adnabod unrhyw namau 19. atal ac ynysu’r peiriant sylfaen, yn unol ag ymarfer safonol 20. tynnu’r atodiad, lle y bo’n briodol, yn unol â’r manylebau 21. gadael y peiriant sylfaen a’r atodiad yn ddiogel ar ôl ei ddefnyddio ac mewn cyflwr addas ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol 22. dilyn arfer da amgylcheddol fel y nodir gan eich sefydliad a’r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol 23. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE) 4. y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â defnyddio peiriannau sylfaen ac atodiadau a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer 5. y gwiriadau a’r addasiadau gofynnol cyn cychwyn ar gyfer y peiriant sylfaen ac atodiadau, a’r rhesymau pam y mae’n rhaid gwneud y rhain 6. y gofynion ar gyfer strwythurau diogelu’r peiriant a’r gweithredwr 7. y weithdrefn ar gyfer llwytho a dadlwytho peiriant sylfaen ac atodiadau o’r cludwr lle y bo’n briodol 8. sut i fynd ar ac oddi ar y peiriant sylfaen yn ddiogel 9. sut i ddechrau a diffodd y peiriant sylfaen yn cynnwys y gweithdrefnau cywir ar gyfer dechrau’r peiriant â naid 10. swyddogaeth yr holl reolyddion a’r offer ar gyfer y peiriant sylfaen a’r atodiad, yn cynnwys systemau cyfrifiadurol mewnol lle maent wedi eu gosod 11. y mathau o atodiadau sydd yn ddiogel i’w defnyddio gyda’r peiriant sylfaen a sut y cânt eu gosod 12. yr amodau y dylid eu hystyried wrth ystyried defnyddio’r atodiadau 13. sut i osod neu unioni atodiadau, lle bo angen 14. y ffordd briodol o ddefnyddio arwyddion rhybudd a dangosyddion 15. y ffyrdd y dylid gweithredu a symud y peiriant sylfaen, a sut y mae’n rhaid ystyried tywydd, amodau tir, mathau o dirwedd a’r gwaith sy’n cael ei wneud 16. y nodweddion a’r technegau gyrru amrywiol ar gyfer gyrru peiriant sylfaen gyda chyfluniadau olwynion gwahanol 17. gosod cymhorthion tyniant yn gywir a manteision ac anfanteision eu defnyddio 18. sut i weithredu a defnyddio atodiadau yn ddiogel yn cynnwys gwrthbwyso 19. y rheolyddion a’r gwasanaethau trydanol ar y peiriant sylfaen a’r atodiad  20. sut i roi’r atodiad mewn safle cludo a safle gweithio, lle y bo’n briodol 21. galluoedd y peiriant sylfaen a’r ffactorau a allai effeithio ar ei effeithlonrwydd 22. y mathau o beryglon a rhwystrau y gellir dod ar eu traws a sut y dylid ymdrin â’r rhain 23. sut i fonitro gweithrediad yr atodiad a’r camau y gallai fod eu hangen 24. y namau, y diffygion a thraul rhannau sydd yn digwydd gydag atodiadau a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau gwaith coed 25. sut i gadw effeithlonrwydd y peiriant sylfaen a’r atodiad trwy wiriadau gweithredwr fel mater o drefn a gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn yn unol â’r manylebau 26. sut i wneud atgyweiriadau sylfaenol ac i ble i gyfeirio problemau gyda’r peiriant sylfaen neu’r atodiad 27. y rhesymau pam y dylid gadael y peiriant sylfaen a’r atodiad mewn cyflwr addas i’w ddefnyddio yn y dyfodol 28. sut i sefydlu a defnyddio ardaloedd ychwanegu tanwydd a chynnal a chadw lle y bo’n briodol 29. pwysigrwydd lleihau niwed amgylcheddol ac atal digwyddiadau o lygredd 30. pam y mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y peiriant syfaen a’r atodiad yr holl amser 31. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Manylebau:

  • lluniau

  • amserlenni

  • datganiadau dull

  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)

  • canllawiau’r gwneuthurwyr

  • gofynion y cwsmer

Gall y cyfarwyddiadau fod ar lafar neu’n ysgrifenedig 

*Mae’r atodiadau yn cynnwys: *

  • wedi ei dynnu

  • wedi ei godi ar y blaen neu’r tu ôl

  • llwythwyr

  • PTO ac offer gyrru hydrolig

Amgylchedd y gweithredwr: 

  • sedd

  • olwyn lywio

  • drychau

  • gwregys diogelwch 

*Amodau’r tir: *

  • Gwlyb

  • Sych

  • Rhew

  • Mwd

  • Tir rhydd 

Tirwedd: 

  • arwynebeddau caled

  • arwynebeddau meddal

  • arwynebeddau anwastad

  • llethrau

*Ffactorau effeithlonrwydd: *

  • gosod cyflymder trawsyriant

  • hydroleg

  • pwysedd teiars

  • gwrthgydbwysedd

  • balastio 

  • refiau peiriant

Strwythurau diogelu:

  • Strwythurau Diogelu Gweithredwyr (OPS)

  • Strwythurau Diogelu rhag Rholio Drosodd (ROPS)

  • Strwythurau Diogeu rhag Gwrthrychau sydd yn Syrthio (FOPS)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw79

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tractor; cerbyd; atodiadau; llwythwyr; ôl-gerbydau; offer wedi eu codi