Torri coed mawr i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn
URN: LANTw78
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thorri coed mawr i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn.  Caiff coeden fawr ei diffinio fel un dros 380mm (15 modfedd) ar ei huchder torri i lawr.  
Bydd y dechneg torri i lawr yn briodol i faint y goeden, ei phwysau, ei chyflwr a’r rhywogaethau yn ogystal ag ystyried y dirwedd a’r tywydd.  Bydd y dulliau torri i lawr yn cynnwys defnyddio tyllau turio, tyllau dal ac onglau torri i lawr i gynorthwyo’r broses o dorri i lawr.  
Mae hyn yn cynnwys coed conifferaidd a dail llydan, coed sydd yn sefyll, coed sydd wedi eu pwyso tuag at a’r rheiny sydd wedi eu pwyso yn erbyn cyfeiriad torri i lawr a nodwyd.  
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth.  
            Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1.  asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig  
2.  dewis a gweithredu’r dulliau gwaith priodol yn unol â’r peryglon a aseswyd  
3.  dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith  
4.  cynnal diogelwch a diogeledd yr offer ar y safle  
5.  cynllunio sut byddwch yn gwneud y gweithgaredd a thrafod unrhyw bryderon gyda’r person priodol ynghylch y ffordd orau o gwblhau’r gwaith  
6.  cynnal cyfathrebu a gwaith tîm effeithiol wrth dorri coed mawr i lawr  
7.  paratoi’r safle trwy symud rhwystrau yn y cyfeiriad torri i lawr a sefydlu llwybr(au) dianc, fel y bo’n briodol  
8.  paratoi’r safle ar gyfer torri coed i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn  
9.  cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a’i fod yn addas at y diben  
10.  cynnal gwaith cynnal a chadw, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y llif gadwyn ar gyfer ei ddefnyddio fel mater o drefn  
11.  paratoi’r goeden fawr ar gyfer ei thorri i lawr, yn briodol ar gyfer cyflwr y goeden a’r fanyleb ar gyfer y safle  
12.  paratoi’r safle i hwyluso tynnu’r goeden i lawr a sicrhau bod yr ardal waith uniongyrchol wrth waelod y goeden yn glir  
13.  dewis dulliau torri i lawr cydnabyddedig gan ddefnyddio llif gadwyn, sy’n berthnasol i’r fanyleb, maint a chyflwr y goeden, gan ystyried y cyfeiriad y mae’r coed wedi eu pwyso a’r cyfeiriad y bwriedir iddynt gwympo  
14.  torri coed mawr sy’n sefyll i lawr (h.y. heb eu pwyso’n drwm) mewn cyfeiriad wedi ei bennu ymlaen llaw, gan ddefnyddio dulliau torri i lawr a chymhorthion torri i lawr a gydnabyddir, fel sy’n briodol i ffurf a chyflwr y goeden a’r dechneg o dorri i lawr  
15.  torri coed mawr i lawr sydd wedi eu pwyso tuag at gyfeiriad torri i lawr penodol gan ddefnyddio dulliau torri i lawr cydnabyddedig (a chymhorthion torri i lawr, os oes angen) sy’n briodol i ffurf, cyflwr a thechneg torri i lawr dethol y goeden  
16.  sicrhau bod safle a chyflwr y goeden sydd wedi ei thorri i lawr yn ddiogel ac yn addas ar gyfer gweithrediadau dilynol  
17.  dilyn yr arfer da amgylcheddol a nodir gan eich sefydliad a’r diwydiant a lleihau niwed amgylcheddol  
18.  cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol  
19.  cadw cofnodion cywir a diweddar, fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth a’ch sefydliad  
            Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.  sut i adnabod peryglon a chydymffurfio a gweithdrefnau rheoli asesiadau risg wrth dorri coed mawr i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn  
2.  cynlluniau a gweithdrefnau wrth gefn ar gyfer y safle  
3.  sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)  
4.  pwysigrwydd lleihau niwed amgylcheddol ac atal digwyddiadau o lygredd  
5.  pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau o’r tîm wrth dorri coed mawr i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn  
6.  y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer  
7.  sut i adnabod pa goed mawr sydd angen eu torri i lawr yn ôl rhywogaethau, lleoliad, cyflwr a nodau  
8.  y gofynion a’r cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar gyfer torri coed mawr i lawr mewn amgylchiadau gwahanol  
9.  goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymor, y tywydd a chyflwr y coed i dorri coed mawr i lawr  
10.  sut i asesu uchder y goeden fawr mewn perthynas â’i hamgylchedd  
11.  y dulliau torri i lawr cydnabyddedig, yn cynnwys defnyddio tyllau tyrio a chymhorthion torri i lawr  
12.  y dulliau torri i lawr amgen ar gyfer coed sydd yn sefyll/heb eu pwyso’n drwm, yn cynnwys ddefnyddio bariau canllaw sydd yn fwy na diamedr y goeden ar ei huchder torri i lawr  
13.  sut i adnabod arwyddion clefydau a phydredd mewn coed ac addasu’r dulliau torri i lawr yn unol â hynny  
14.  manteision sefydlu neu ddefnyddio mainc torri i lawr naturiol, mat malurion neu gymorth tebyg cyn torri i lawr  
15.  sut a phryd i ddefnyddio offer ychwanegol i gynorthwyo gyda’r gwaith o dorri coed mawr i lawr a’r rhagofalon ychwanegol sydd eu hangen  
16.  sut i dorri polion mwy na hyd diamedr y bar canllaw i lawr a’r rhagofalon ychwanegol sydd eu hangen  
17.  y rhagofalon ychwanegol i’w defnyddio wrth dorri coed mawr i lawr gerllaw llwybrau, ffyrdd neu ardaloedd â mynediad cyhoeddus  
18.  y canllawiau cyfredol ar gliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben a beth i’w wneud os bydd cyswllt â llinellau pŵer  
19.  sut i wybod pan fydd coeden yn anodd i’w thorri i lawr ac y bydd angen technegau arbenigol ar gyfer torri i lawr, a allai fod oherwydd ei chyflwr, agwedd neu safle, am ei bod yn goeden fawr iawn neu’n goeden o werth masnachol uchel   
20.  pam y mae’n bwysig cadw llifau cadwyn i safon uchel  
21.  eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol  
            Cwmpas/ystod
Dulliau torri i lawr ar gyfer:  
coed sy’n sefyll/wedi eu pwyso
coed wedi eu pwyso yn ôl
coed wedi eu pwyso ymlaen
polion
coed sydd yn anodd eu torri i lawr (e.e. oherwydd eu gwerth masnachol uchel, eu cyflwr, eu hagwedd neu eu safle)
defnydd o fariau canllaw sydd yn fwy na diamedr y goeden
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Offer ychwanegol:  
gefeiliau codi
bachau gogwydd
bachau troi
strapiau troi
polion tynnu i lawr
winshis llaw bach
offer priodol arall
gellir defnyddio winshis ac offer atebol addas arall fel cebl, strapiau, cadwynau, hualau a dyfeisiadau eraill hefyd ar gyfer torri i lawr gyda chymorth
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Effeithiau posibl ar yr amgylchedd** – fel nyth gwiwerod coch, deyerydd moch daear, cytrefi ystlumod  
**Paratoi’r safle** – gallai hyn olygu gosod mainc, mat malurion neu debyg  
**Paratoi coed ar gyfer eu torri i lawr** – a allai gynnwys malurio canghennau is, tynnu llystyfiant sy’n dringo, bwtresi a rhwystrau eraill  
**Polion** – coed gyda’u canghennau wedi eu tynnu  
**Safleoedd coed** – sefyll yn syth, pwyso yn erbyn a phwyso i’r cyfeiriad y bwriedir eu torri i lawr  
            Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANTw20
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gofalwr y Grîn, Tirluniwr, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwig        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            torri i lawr; coeden; llif gadwyn