Mynediad at goed trwy ddringo i wneud gweithrediadau coedyddiaeth
URN: LANTw77
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chael mynediad at goed trwy ddringo i wneud gweithrediadau coedyddiaeth. Mae’n disgrifio’r cymwyseddau hanfodol sy’n ofynnol i ddringo coed yn ddiogel, gan ddefnyddio ysgolion ac offer dringo.
Mae’r uned hon yn berthnasol i’r holl weithwyr coedyddiaeth sy’n gysylltiedig â gweithio oddi ar y ddaear mewn coed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. perfformio gwerthusiad perygl o’r goeden cyn dechrau’r gwaith
2. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig
3. dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
4. dewis a defnyddio dulliau mynediad a gosod sy’n briodol i’r peryglon a aseswyd a’r datganiad o ddull
5. clymu, gwisgo a gosod ystod y glymau a ddefnyddir ar gyfer dringo coed
6. dewis pwyntiau angor priodol ar gyfer dringo ac ar gyfer y gweithrediadau coedyddiaeth i gael eu cynnal
7. cadarnhau bod yr holl offer dringo ac iselhau wedi cael eu harchwilio yn unol â deddfwriaeth, a’i fod yn addas at y diben
8. dewis a pharu’r offer yn ymwneud â’r llwythau gwaith a gynlluniwyd
9. dewis yr offer priodol ar gyfer y gweithrediadau coedyddiaeth a gynlluniwyd
10. dringo’r goeden yn ddiogel, gan ddefnyddio offer dringo ac ysgolion, lle y bo’n briodol
11. parhau i gyfathrebu gyda staff ar y ddaear yr holl amser
12. dod i lawr o goed mewn ffordd wedi ei rheoli a thynnu unrhyw offer yn briodol
13. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i asesu peryglon a chydymffurfio â gweithdrefnau rheoli asesiadau risg, wrth wneud gweithrediadau coedyddiaeth
2. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
3. sut bydd rhywogaethau a chyflwr coed yn effeithio ar eich gwaith
4. sut i glymu a gosod ystod o glymau dringo coed
5. sut i ddewis pwyntiau angor priodol er mwyn dringo coed i wneud gweithrediadau coedyddiaeth penodol
6. sut i ddewis ac archwilio’r offer gaiff ei ddefnyddio ar gyfer y gweithrediadau coedyddiaeth
7. y gofynion cyfreithiol ar gyfer archwilio’r holl offer dringo ac iselhau a’r dystiolaeth sy’n ofynnol i brofi bod hyn wedi cael ei wneud
8. sut i wirio llwythau gwaith diogel offer
9. sut i gael mynediad at goed gan ddefnyddio offer dringo
10. sut i ddefnyddio ysgolion yn ddiogel i gael mynediad at goed
11. sut i ddod i lawr o goed a symud offer yn ddiogel
12. dyletswyddau person cymwys ar y ddaear
13. pam y mae’n bwysig parhau i gyfathrebu gyda staff ar y ddaear a sut y gellir gwneud hyn
14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LNTw77
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coed; dringo