Adnabod rhywogaethau coed a’u nodweddion

URN: LANTw76
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod rhywogaethau coed a’u nodweddion naill ai mewn cyd-destun masnachol neu amwynder. Mae hyn yn cynnwys adnabod coed a phren.

Mae adnabod rhywogaethau coed yn agwedd hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant coed a phren, ac mae dealltwriaeth o nodweddion coed yn hanfodol wrth weithio gyda choed.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael a defnyddio offer a ffynonellau gwybodaeth amrywiol i adnabod rhywogaethau coed a’u nodweddion yn gywir  2. defnyddio nodweddion coed i gynorthwyo gyda’r broses o’u hadnabod 3. adnabod rhywogaethau coed ym mhob tymor 4. adnabod sut mae nodweddion coed yn dylanwadu ar ddulliau gweithio 5. adnabod sut mae nodweddion pren yn dylanwadu ar eu defnydd 6. adnabod coed cyffredin sy’n cael eu tyfu yn y DU 7. adnabod genera coed o samplau pren 8. cadw cofnodion adnabod coed cywir yn unol â gofynion y sefydliad a gofynion cyfreithiol perthnasol 9. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. egwyddorion sylfaenol dosbarthiad ac enwau botanegol 2. sut i ddefnyddio allweddi adnabod 3. sut y gall nodweddion planhigion gynorthwyo’r broses o’u hadnabod 4. cylchoedd gwahanol bywyd planhigion a choed (dosbarthiadau oed) 5. amodau tyfu delfrydol rhywogaethau gwahanol o goed 6. sut y gall effeithiau nodweddion coed ddylanwadu ar eu defnydd 7. sut y caiff pren rhywogaethau gwahanol o goed ei ddefnyddio 8. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Nodweddion yn cynnwys: * dail – maint a siâp * blagur * rhisgl a choesau * arferion twf * blodau, hadau a ffrwythau * pren

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw1

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad y Grîn, Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gofalwr Tir, Gweithiwr meithrinfa, Tirluniwr, Rhodiwr, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coeden; rhywogaeth; dail; rhisgl; pren