Cyfrannu at reoli ymladd tân mewn coedwig a rhostir

URN: LANTw75
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at reoli ymladd tân mewn coedwig a rhostir. Mae hwn wedi ei anelu at y rheiny sy’n gweithio ym maes coedwigaeth, ffermio, helwriaeth neu gadwraeth amgycheddol yn llawn amser neu’n rhan-amser.

Mae’r safon hon yn cynnwys: 

  • cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau tân a mapiau tân

  • cyfrannu at y gofynion ymarferol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ymladd tân yn ddiogel mewn coedwig a rhostir

  • goruchwylio unigolion a thimau i gefnogi gweithrediadau ymladd tân mewn coedwig a rhostir

  • gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau ymladd tân.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu peryglon tân yn sgil llystyfiant a’r risg o dân er mwyn hysbysu’r adran cynllunio ar gyfer rheoli tân 2. sicrhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) priodol yn cael ei ddefnyddio  3. cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau a mapiau coetir a rhostir 4. cysylltu a chyfathrebu gyda’r bobl berthnasol i gadarnhau bod y cynllun tân arfaethedig yn cyfrannu at baratoi rhestrau gwirio o’r adnoddau ymladd tân sydd ar gael 5. cyfrannu at sefydlu a rheoli cynlluniau wrth gefn ar gyfer ymladd tân 6. casglu a chadarnhau gwybodaeth yn ymwneud â’r risg hysbys ac a ragwelir i bobl, eiddo a’r amgylchedd 7. datblygu eich amcanion trwy asesu risg 8. cyfrannu at bennu’r camau cychwynnol gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael, gan ddefnyddio asesiad realistig o’u cynaliadwyedd ar gyfer defnydd gweithredol 9. datblygu cynlluniau ymosod cychwynnol sy’n rhoi digon o hyblygrwydd i fodloni anghenion hysbys ac a ragwelir y digwyddiad yn unol â phrotocol LACES 10. gwneud yr addasiadau priodol i’ch cynlluniau tân ac ymosod, yn seiliedig ar yr asesiadau cychwynnol o’r digwyddiadau 11. cadarnhau eich amcanion a defnyddio eich adnoddau i fodloni anghenion blaenoriaeth 12. sicrhau bod eich penderfyniadau yn parhau i leihau risg a chynyddu cynnydd tuag at eich amcanion 13. ailddefnyddio eich adnoddau i fodloni blaenoriaethau newidiol y digwyddiadau 14. ceisio gwybodaeth i ddiweddaru cynlluniau tân ac ymosod a datblygu’r camau gweithredu i fodloni eich amcanion 15. gweithredu o fewn lefel gytûn eich cyfrifoldeb a’ch awdurdod 16. sicrhau bod eich rôl a’ch cyfrifoldebau yn ymwneud â digwyddiadau yn glir ac wedi eu deal gan eraill 17. cadarnhau statws terfynol y digwyddiadau a chytuno ar unrhyw weithredu pellach gyda’r bobl berthnasol 18. adnabod unrhyw risg a pheryglon heb eu datrys a chymryd camau i leihau’r rhain, o fewn cyfyngiadau gweithredol 19. gwneud eich adnoddau ymladd tân ar gael i’w hailddefnyddio ar y cyfle cyntaf 20. gwerthuso ac adrodd ar effeithiolrwydd gweithrediadau ymladd tân 21. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i ddefnyddio technegau a systemau asesu’r perygl o dân i asesu’r peryglon a’r risg o danau llystyfiant sy’n effeithio ar bobl a’r amgylchedd  2. sut i wneud a chymhwyso penderfyniadau yn seiliedig ar asesu risg 3. sut i gymhwyso arferion sy’n cynyddu eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles eich hun ac eraill yn y gweithle 4. pwysigrwydd defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) cywir 5. diben a sut i ddehongli cynlluniau tanau coedwig neu rostir, mapiau, symbolau ac arfer da cwmnïau a diwydiant arall 6. eich rôl eich hun yn cynllunio a chyfrannu at gynlluniau ymladd tân a phwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES  7. rôl a detholiad pwyntiau angor 8. sut i gyfrannu at y cynlluniau ar gyfer ymosod cychwynnol ar gyfer y mathau canlynol o dân: tân grug neu brysglwyn, tân gwair, tân tocion coed, tân coedwig 9. yr adnoddau ymladd tân sydd ar gael yn y sefydliad, offer arbenigol y gwasanaethau tân ac achub, a’r grŵp tân (lleol) 10. rôl y gwasanaeth tân ac achub, rheolwyr y tir a grwpiau tân a sut i adnabod a chyfathrebu gyda rheolwr y digwyddiad 11. sut i gael mynediad i, dehongli a darparu gwyboaeth berthnasol, yn cynnwys adborth 12. y wybodaeth am eich tîm sydd ei hangen gan y gwasanaeth tân ac achub wrth gyrraedd maes y tân 13. pwysigrwydd cyfathrebu clir ac effeithiol gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithrediad 14. sut i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau a gwneud cynlluniau wrth gefn wrth reoli ymladd tân coedwig a rhostir 15. sut mae’r tywydd, tanwydd a thopograffeg yn effeithio ar ledaeniad,dwyster a natur tanau 16. y gweithrediadau sy’n debygol o ddigwydd yn y tri chyfnod o ymladd tân: torri i lawr, cynnal, glanhau a mynd ar batrôl  17. pa un o’r tair prif strategaeth ymladd tân i ddewis ohonynt mewn sefyllfaoedd tân gwahanol: ymosodiad uniongyrchol, ymosodiad anuniongyrchol ac ymosodiad o’r ochr 18. pwysigrwydd gwybodaeth allweddol am dân ar gyfer cynllunio adnoddau 19. galluoedd a chyfyngiadau offer personol a gweithredol 20. rôl hofrenyddion yn ymladd tanau coedwig a rhostir 21. effaith bosibl gweithgareddau ymladd tanau coedwig a rhostir ar yr amglchedd 22. eich cyfrifoldebau yn unol a deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Asesu peryglon tân posibl a’r risg o dân o ran:

  • tanwydd

  • llethrau

  • ffynonellau cynnau posibl

  • hanes tanau

  • ffynonellau dŵr

  • bylchau tân presennol a phosibl

  • asedau y mae angen eu diogelu

  • pwyntiau angor

Cyfrannu at sefydlu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â:

  • newidiadau yn y tywydd/ymddygiad tân

  • torri’r llinell reoli

  • damweiniau

  • problemau gydag offer


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

LACES: Gwylfeydd, Ymwybyddiaeth, Cyfathrebu, Llwybrau dianc a Pharthau Diogelwch. Nod system LACES yw osgoi caethiwo.

Dwysedd tân: pwls neu gyfradd rhyddhau ynni, sydd yn teithio i fyny o’r tân

Llinell reoli: defnyddir yr holl rwystrau a adeiladwyd neu naturiol ac ochrau’r tân sydd wedi eu trin i reoli tân

Math o dân: tân daear, tân arwyneb neu gorun; y math mwyaf cyffredin yw tân arwyneb

Ochr: ochrau’r tân

Pen: blaen y tân yn dangos y gyfradd ledaenu fwyaf

Perygl tân: cyswllt posibl pobl neu asedau â pherygl o ymddygiad y tân

Pwynt angor: Lleoliad o fantais lle gellir llunio llinell tân, fel arfer yn rhydd rhag tanwydd, lle mae’r posibilrwydd o danau ochr yn cael ei leihau

Risg tân: y potensial i dân ddechrau

Sawdl: cefn y tân ger y tarddiad

Swyddog Cymorth Tân: Swyddog Dosbarth Coedwig, Swyddfa Ystadau neu swyddfa cwmni lle mae cymorth logistaidd ar gyfer ymdrech ataliaeth tân yn cael ei drefnu

Tân gwyllt: tân nad yw’n cael ei reoli

Tanwydd: math, maint, trefniant, dosbarthiad, a chynnwys gwlybaniaeth y llystyfiant. Gall fod yn danwydd: daear (mawn), arwyneb (grug a haenen o lanast) neu awyr (coed) 

Topograffeg: siâp y tir, yn arbennig llethr ac agwedd

Tywydd tân: amodau hinsawdd a ragfynegir sydd yn cynnwys cyfnod o losgi, yn arbennig gwynt, tymheredd aer a lleithder perthynol

Ymosodiad anuniongyrchol: gweithgaredd ataliad tân i ffwrdd o ymyl y tân, e.e. ymladd o’r tu ôl

Ymosodiad o’r ochr: y strategaeth ymosod uniongyrchol mwyaf cyffredin, sydd yn dechrau gweithgaredd ataliad o ochrau cylchol sawdl i’r pen

Ymddygiad tân: y ffordd y mae’r tân yn ymateb i amrywiadau tanwydd, tywydd a thopograffeg a ddisgrifir o ran dwysedd tân a chyfradd lleadenu

Ymosodiad uniongyrchol: gweithgaredd ataliad tân yn uniongyrchol ar y tân


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw75

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tân; coedwig; rhostir; pren; coed