Cynorthwyo i ymladd tanau coedwig a rhostir
URN: LANTw74
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i ymladd tanau coedwig a rhostir. Mae wedi ei anelu at y rheiny sydd yn gweithio ym maes coedwigaeth, ffermio, helwriaeth neu gadwraeth amgylcheddol naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser.
Byddwch yn gallu gwneud y gweithgareddau canlynol:
defnyddio offer ymladd tân mewn ffordd briodol a chymwys
dilyn gweithdrefnau tân sefydliadol
gweithredu’n ddiogel ar faes y tân
cefnogi eraill sy’n gweithredu ar faes y tân
ymateb yn briodol, o fewn arferion gwaith y cwmni ac arfer da y diwydiant, i ddigwyddiad o dân
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu’r peryglon a’r perygl o dân sy’n debygol o gael ei ganfod ar faes y tân
2. dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
3. adnabod eich rôl eich hun a rôl y sefydliad o fewn y gweithdrefnau tân
4. paratoi, cynnal a defnyddio’r offer a’r cyfarpar ar gyfer ymladd tân
5. paratoi, gwirio cyflwr, a defnyddio’r offer amddiffynnol personol priodol
6. cadarnhau eich amcanion gyda’r person perthnasol a rhoi adroddiadau amserol iddynt
7. asesu’r sefyllfa dân mewn coedwig a rhostir wrth gyrraedd maes y tân, a chyfathrebu gwybodaeth allweddol am y tân i berson priodol
8. cynorthwyo i ddiffodd tanau coedwig a rhostir o fewn eich cylch gorchwyl, gan ddefnyddio’r tactegau, yr offer a’r cyfarpar priodol
9. asesu, adrodd a chymryd camau priodol yn barhaus i leihau’r perygl i chi eich hun ac eraill
10. defnyddio’r dulliau priodol i sicrhau mynediad i’r gwasanaeth tân ac achub ac asiantaethau eraill
11. cyfathrebu’n effeithiol gyda’r bobl briodol trwy gydol y gweithgareddau ymladd tân
12. dilyn system ddiogelwch LACES bob amser
13. dychwelyd a sicrhau bod adnoddau ymladd tân yn ddiogel yn eu lleoliad cywir a hysbysu ynghylch unrhyw namau neu ddiffygion
14. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
2. yr offer amddiffynnol personol sy’n ofynnol ar gyfer ymladd tanau coedwig a rhostir
3. pam na ellir gwisgo dillad neilon, elastig na synthetig arall
4. cynllun tân y goedwig neu’r ystâd, mapiau tân, symbolau ac arferion gweithio eraill y cwmni ac arfer da y diwydiant
5. eich rôl eich hun yn arferion gwaith y cwmni ac arfer da y diwydiant yn cynorthwyo i ymladd tân
6. rôl y gwasanaeth tân ac achub a sut i adnabod a chyfathrebu gyda rheolwr y digwyddiad
7. y llinellau a’r dulliau cyfathrebu ac adrodd yn ystod tân coedwig a choetir
8. y technegau ymladd tân a phryd i’w defnyddio
9. yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sy’n ofynnol i dân fodoli
10. cyfnodau llosgi (cyn cynhesu, llosgi nwy a llosgi siarcol)
11. sut mae’r tywydd, topograffeg a thanwydd yn effeithio ar ymddygiad tân, yn cynnwys y gyfradd y mae’r tân yn lledaenu a’i ddwyster
12. mathau a llwythi tanwydd a nodweddion tanau gwair, grug, coedwig a mawn
13. yr offer a ddefnyddir a chyfyngiadau pob offeryn pan gaiff ei ddefnyddio ar fathau gwahanol o dân
14. rôl hofrenyddion yn ymladd tanau coedwig a rhostir
15. diben a gwerth bylchau tân
16. effaith bosibl gweithgareddau ymladd tanau coedwig a rhostir ar yr amgylchedd
17. y gweithrediadau sy’n ddebygol o ddigwydd yn y tri chyfnod o weithrediadau ymladd tanau coedwig a rhostir: taro i lawr, cynnal, glanhau a mynd ar batrôl
18. y tair prif strategaeth ymladd tân: uniongyrchol, anuniongyrchol ac ymosod o’r ochr
19. sut i reoli’r mathau canlynol o danau: tân grug neu brysglwyn, tân gwair, tân tocion coed, tân coedwig
20. gofynion system ddiogelwch LACES
21. pwysigrwydd cynnal adnoddau ymladd tân
22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Asesu yn barhaus:
maint y tân
cyfeiriad a chyflymder y gwynt
math/taldra y llystyfiant
pobl/asedau o dan fygythiad
cyfradd y lledaeniad yng nghanolbwynt y tân
uchder y fflamau
llwybrau dianc
adnoddau dŵr
y tywydd
am unrhyw broblemau eraill
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
LACES: Gwylfeydd, Ymwybyddiaeth, Cyfathrebu, Llwybrau dianc a Pharthau Diogelwch
Dwysedd tân: y pwls neu gyfradd yr egni sy’n cael ei ryddhau sydd yn teithio i fyny o’r tân
Math o dân: tân daear, tân arwyneb neu dân corun, y math mwyaf cyffredin yw tân arwyneb
Ochr: ochrau’r tân
Tanwydd: math, maint, trefniant, dosbarthiad, a chynnwys gwlybaniaeth y llystyfiant. Gall fod yn danwydd: daear (mawn), arwyneb (grug a haen o lanast) neu awyr (coed)
Ymosodiad anuniongyrchol: gweithgaredd ymladd tân i ffwrdd o ochr y tân, e.e. ymladd o’r cefn
Ymosodiad o’r ochr: y strategaeth ymosod uniongyrchol mwyaf cyffredin, sydd yn dechrau ymladd y tân o gefn y tân i ochrau ac yna blaen y tân
Ymddygiad tân: y ffordd y mae’r tân yn ymateb i amrywiadau tanwydd, tywydd a thopograffeg a ddisgrifir o ran dwysedd y tân a chyfradd lledaenu
Ymosodiad uniongyrchol: gweithgaredd ymladd tân yn uniongyrchol ar y tân
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw74
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwaith coed; coed; tân; rhostir; coedwig