Gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol

URN: LANTw73
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol.  Gallai hyn fod o fewn swyddfa gynllunio llywodraeth leol neu sefydliad arbenigol arall sydd â’r cyfrifoldeb hwn a’r awdurdod i wneud penderfyniadau.

Mae’n rhaid eich bod yn gallu gweithio o fewn y fframwaith deddfwriaethol perthnasol ac i ymgynghori â chydweithwyr ac arbenigwyr fel y bo angen, i gael canlyniad.


Mae’n rhaid eich bod yn ymwybodol o bwysigrwydd fflora a ffawna i’r amgylchedd.

Mae’r safon hon yn ymwneud â gorchmynion gwarchod a chadwraeth, trwyddedau torri coed i lawr, diogelu’r amgylchedd, cyfleustodau a chynefinoedd ac ati yn ogystal â chyfyngiadau cynllunio’n ymwneud â gorchmynion gwarchod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. datblygu proses i weinyddu deddfwriaeth amgylcheddol yn ymwneud â chesiadau ac ymholiadau  2. cadw cofnodion i adnabod a chofnodi’r cyfnodau yn y broses  3. ceisio caniatâd priodol lle mae angen cynnal archwiliadau 4. sicrhau bod y broses yn dilyn y graddfeydd amser gofynnol ar gyfer gweithredu 5. cysylltu ag adrannau, cydweithwyr ac awdurdodau eraill, fel y bo angen 6. sicrhau bod y dogfennau’n bodloni’r gofynion statudol angenrheidiol 7. ymdrin ag unrhyw apeliadau yn unol â’r gofynion statudol 8. ymdrin â cheisiadau i wneud gwaith o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol 9. ceisio cyngor a chymorth lle bo angen neu’n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr angen i gael system effeithiol ar gyfer cofnodi prosesau ar gyfer gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol 2. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chyflawn 3. pwysigrwydd trefnu mynediad ar gyfer archwiliadau safle gyda’r bobl briodol  4. yr angen i gynnwys yr awdurdodau perthnasol sydd yn cydsynio neu’n rhoi caniatâd  5. pwysigrwydd cwblhau dogfennau i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth amgylcheddol perthnasol 6. y gofynion a’r gweithdrefnau statudol ar gyfer apeliadau 7. y graddfeydd amser sydd yn gysylltiedig â gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol 8. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor pan fo angen eglurhad 9. goblygiadau a phwysigrwydd deddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Awdurdodau perthnasol: Swyddogion Cynllunio, y Comisiwn Coedwigaeth ac adrannau’r llywodraeth, fel y bo’n briodol i’r ddeddfwriaeth, ac yn briodol i’r sefydliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Prosesau cofnodi gwarchod coed: Gorchmynion Diogelu Coed a choed mewn ardaloedd cadwraeth, trwyddedau torri coed i lawr, diogelu’r amgylcheedd, diogelu cyfleustodau, diogelu cynefinoedd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw73

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwaith coed; coed; deddfwriaeth; amgylcheddol; diogelu