Dylunio a chynllunio coedwig neu goetir

URN: LANTw72
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dylunio a chynllunio coedwig neu goetir. Gall hyn fod trwy ddiwygio neu ailymweld â chynlluniau presennol, creu ardal goedwig neu goetir newydd neu ddylunio rhan o brosiect datblygu cymunedol.

Mae’r safon yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth yn ymwneud â dylunio a chynllunio’r gwaith o sefydlu coed ar ddarn penodol o dir.
Mae hyn yn cynnwys agweddau cysylltiedig sefydlu coedwig neu goetir ac ystyried gofynion a chyfyngiadau daearyddol, ariannol, cyfreithiol ac ymarferol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig 2. egluro diben, cwmpas ac amcanion datblygiad y goedwig neu’r coetir 3. casglu a chydgrynhoi data’r safle 4. dehongli mapiau a dadansoddi data’r safle 5. asesu effaith amgylcheddol datblygiad arfaethedig y goedwig neu’r coetir 6. asesu addasrwydd ffisegol y safle 7. datblygu dyluniad ar gyfer y goedwig neu’r coetir yn seiliedig ar amcanion rheoli a gwybodaeth am y safle 8. adolygu’r dyluniad i ystyried ystyriaethau cyfreithiol perthnasol, mynediad cyhoeddus, cyfyngiadau ariannol a defnydd cynaliadwy y safle a goblygiadau rheoli i’r dyfodool 9. cyfathrebu’r dyluniad i berchennog y tir a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen 10. datblygu cynllun o’r gweithgareddau sydd eu hangen i weithredu’r dyluniad 11. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. diben, cwmpas ac amcanion datblygu’r goedwig neu’r coetir 4. sut i darddu gwybodaeth cynllunio’n ymwneud â dyluniad y goedwig neu’r coetir 5. sut i adnabod ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid y tu allan i’ch sefydliad 6. sut i ddehongli mapiau a defnyddio System Wybodaeth Fyd-eang (GIS) i gynorthwyo’r cynllunio 7. egwyddorion dylunio tirwedd mewn cyd-destun coedwig neu goetir 8. elfennau coedwig neu goetir sympathetig o fewn tirwedd hanesyddol 9. effaith plannu’r goedwig neu’r coetir ar ecoleg bresennol a thir cyfagos 10. y system bresennol o ddyraniadau statudol yn cynnwys bioamrywiaeth, tirwedd a dyraniadau treftadaeth a sut maent yn effeithio ar gynllunio dyluniad y goedwig neu’r coetir 11. y costau’n ymwneud â sefydlu’r goedwig neu’r coetir 12. y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â grantiau a chymhellion ariannol eraill 13. ystyriaethau mynediad cyhoeddus 14. sut i bennu nodweddion y safle a allai effeithio ar ddewisiadau rheoli wrth ddylunio a chynllunio coedwig neu goetir 15. sut i asesu effaith amgylcheddol y goedwig neu’r coetir arfaethedig 16. sut i annog cynaliadwyedd y safle 17. y dulliau o gyflwyno a chyfathrebu dyluniadau 18. sut i drafod a dod i gytundeb ar gyfer y dylunio a’r prosesau cysylltiedig 19. sut i ddatblygu cynlluniau ac amserlenni i weithredu’r dyluniadau 20. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Nodweddion safle:

  • safle tir isel

  • safle tir uchel

  • safle diwydiannol

  • safle coedwig neu goetir hynafol

  • safle amaethyddol

  • safle trefol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw72

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coetir; cynllun; dylunio; map