Adnabod cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol
URN: LANTw71
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol.
Mae coedwigaeth cymdeithasol yn cynnwys adnabod cyfleoedd i ddefnyddio’r goedwig (neu’r coetir) er budd cymdeithasol ar gyfer y cyhoedd lleol ac ehangach ac annog cyfranogiad a chynnwys y gymuned. Bydd gan ymarferwyr coedwigaeth cymdeithasol ddealltwriaeth dda o anghenion coedwigoedd a choetir a sut i’w rheoli yn ogystal â dealltwriaeth o’r ffordd i reoli anghenion pobl.
Mae coedwigaeth gymunedol yn cynnwys pob agwedd ar gyfranogiad y cyhoedd yn perchnogi, rheoli a chymryd rhan e.e. cyfranogiad cymunedol yn rheoli, prydlesu neu brynu coedwig neu goetir a’r gweithgareddau all ddigwydd yno fel mynediad, hamdden, twristiaeth neu gyflenwi cynnyrch coetir.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. adnabod y peryglon a goblygiadau iechyd a diogelwch cyfranogiad y cyhoedd yn y goedwig neu goetir
2. adnabod y cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol i’r goedwig neu’r coetir
3. adnabod mynediad cyhoeddus statudol, ffurfiol ac anffurfiol i’r goedwig neu’r coetir
4. adnabod pa lefel o ymgynghori â thrigolion lleol, y gymuned neu’r cyhoedd ehangach sydd ei angen a’r dulliau addas o ymgysylltu
5. ymgynghori â phartïon â diddordeb i adnabod cyfleoedd a gweithgareddau coedwig neu goetir cymdeithasol a chymunedol
6. dadansoddi’r holl wybodaeth sydd ar gael i bennu cyfleoedd a gweithgareddau posibl
7. archwilio dichonoldeb a hyfywedd cyfleoedd a gweithgareddau posibl
8. chwilio a gwerthuso cyngor allanol arbenigol os oes angen
9. gwerthuso’r ystod o gyfleoedd a gweithgareddau posibl sydd ar gael i bennu’r opsiynau dewisol
10. sicrhau bod eich cynlluniau’n cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a safonau cydnabyddedig y diwydiant
11. annog cynaliadwyedd y goedwig/coetir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol i’r goedwig neu’r coetir
2. natur penodiadau a sut y gallai’r rhain ddylanwadu ar y cyfleoedd a’r gweithgareddau sydd ar gael
3. goblygiadau unrhyw beryglon posibl
4. deddfwriaeth genedlaethol berthnasol sy’n rheoli hawliau tramwy a mynediad
5. pwysigrwydd ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ymchwilio i gyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol, ac â phwy y dylid ymgynghori
6. y cyfleoedd a’r gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol y gellid eu cynnal a goblygiadau’r rhain
7. sut i aesu dichonoldeb a hyfywedd cyfleoedd a gweithgareddau posibl
8. ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
9. y ffactorau gwahanol y mae angen eu hystyried wrth werthuso cyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol posibl
10. sut i reoli materion sy’n gwrthdaro yn ymwneud â defnydd y cyhoedd a rheoli’r amgylchedd
11. dulliau cynaliadwy o sicrhau dyfodol y goedwig neu’r coetir
12. goblygiadau iechyd a diogelwch cyfranogiad y cyhoedd mewn gweithgareddau coedwig neu goetir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Buddion cymdeithasol i gynnwys:
gwella llesiant
lleihau straen
darparu cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff (e.e. ‘campfeydd gwyrdd’)
cerdded
cerdded y ci
rhedeg
beicio
cyfeiriadu
ysgolion y goedwig
grwpiau wedi eu tywys
sgowtiaid/geidiaid ac ati
gwylio bywyd gwyllt
braslunio, paentio, ffotograffiaeth
Buddion cymunedol yn cynnwys:
teimlad o berchnogaeth
dod â phobl ynghyd
diben cyffredin
cyfranogiad mewn rheolaeth
cynnyrch (at ddibenion cymunedol neu ar gyfer gwerthu)
swyddi
mynediad a thwristiaeth
incwm ychwanegol
*Cyfleoedd a chyfyngiadau: *
polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang;
ffactorau cyfreithiol, ffisegol, amgylcheddol, hamdden, cymunedol, ecolegol, hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol, aesthetig ac economaidd
Partïon â diddordeb:
Y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â chyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol posibl
Y rheiny sydd wedi eu heffeithio gan gyfleoedd a gweithgareddau coedwigaeth cymdeithasol a chymunedol posibl
*Ffactorau i’w hystyried: * e.e. cyfreithiol, cost, adnoddau
Peryglon posibl: e.e. tir wedi ei halogi, rhywogaethau ymledol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw71
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cymuned; cyhoeddus; coedwig; coetir; adloniant; hamdden; cymdeithasol