Rheoli coed sbesimen

URN: LANTw70
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli coed sbesimen.

Datblygwyd y safon hon i adlewyrchu natur benodol y gofynion ar gyfer rheoli coed sbesimen a dyfnder a lled y wybodaeth a’r ddealltwriaeth benodol sy’n ofynnol.

Mae coed sbesimen yn cynnwys hen goed yn ogystal â’r rheiny sydd â gwerth amwynder, rhywogaethau prin, a/neu yn arwyddocaol yn hanesyddol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r gwaith arfaethedig 2. sicrhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) priodol yn cael ei wisgo ar gyfer y gwaith 3. adnabod unrhyw beryglon eraill a’r goblygiadau iechyd a diogelwch ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd â’r goeden (coed) 4. adnabod cyfleoedd a chyfyngiadau sy’n berthnasol i reoli coed sbesimen 5. ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â’r safle, y goeden (coed) sbesimen a mynediad cyhoeddus 6. gwerthuso gwerth a hyfywedd y goeden (coed) sbesimen 7. creu cynlluniau rheoli i amddiffyn gwerth penodedig y goeden (coed) sbesimen 8. adnabod adnoddau i alluogi gweithdrefnau rheoli i gael eu gweithredu 9. adolygu a monitro’r cynllun rheoli yn rheolaidd 10. cynnal cofnodion priodol 11. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE) 4. goblygiadau diogelwch cadw coeden sbesimen yn nhiriogaeth y cyhoedd 5. pa goed fyddai’n addas i gael eu dosbarthu fel coed sbesimen, gan ystyried lleoliad, rhywogaethau, arferion twf, prinder, gwerth ecolegol/hanesyddol, ac ati 6. sut i werthuso gwerth a hyfywedd coed sbesimen 7. gwerth coed sbesimen ar gyfer cadwraeth gyda chyfeiriad penodol at ystlumod, pryfed, cen y cerrig a chynefinoedd nythu 8. sut i greu cynlluniau ar gyfer rheoli coed sbesimen 9. systemau rheoli a monitro coed sbesimen 10. y gofynion ar gyfer cofnodi’r camau a gymerwyd a monitro’r goeden (coed) a’r amgylchedd uniongyrchol 11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheeddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, ac unrhyw ofynion ychwanegol ar gyfer coed sbesimen

Cwmpas/ystod

Gwerth a hyfywedd:

  • gwerth cyfleustod

  • rhywogaethau prin

  • arwyddocâd hanesyddol

  • diogelwch

  • buddion ecolegol

  • disgwyliad oes

  • aestheteg

  • cyhoeddus

  • cymdeithasol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Y systemau ar gyfer rheoli a monitro coed sbesimen:

  • archwiliadau rheolaidd

  • gweithredu gwaith ecolegol, fel toriadau coronig

  • creu ardaloedd clwyfau

  • datblygu cynefinoedd troedle

  • gwella gwerth


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Mae coed sbesimen yn cynnwys hen goed yn ogystal â’r rheiny sydd â gwerth amwynder, rhywogaethau prin, a/neu sydd ag arwyddocâd hanesyddol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw70

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

hen; sbesimen; hanesyddol; gwerth uchel; coeden