Rheoli gweithrediadau sefydlu a chynnal coed

URN: LANTw7
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gweithrediadau sefydlu a chynnal coed. Gallai hyn fod at ddibenion masnachol neu goetir cynhenid.

Mae'n cynnwys y gweithrediadau sy'n ofynnol i sefydlu coed a'r gwaith cynnal dilynol fel y nodir mewn manyleb waith, i fodloni safonau cymeradwy. Mae'r safon yn cynnwys sefydlu coetir newydd a chynnal coetir presennol gan ddefnyddio systemau coedwrol yn ogystal â choed unigol i gyflawni ystod eang o amcanion rheoli safle.

Mae'r safon hon yn gofyn am wybodaeth gyffredinol am weithrediadau a chynllunio safle o ran:

  • mathau o bridd
  • gofynion draenio dŵr ar ystod o safleoedd
  • gofynion rhywogaethau coed, buddion ecolegol a defnydd terfynol
  • dehongli gwybodaeth arolwg a daearyddol
  • rheoli llafur
  • costau
  • deddfwriaeth
  • coedwriaeth

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. sicrhau bod offer amddiffynnol personol (PPE) priodol yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwaith
  4. pennu'r fanyleb waith ar gyfer y gweithrediadau sefydlu a chynnal coed
  5. pennu gofynion monitro'r gweithrediadau sefydlu a chynnal coed
  6. nodi'r deunydd sy'n ofynnol i fodloni'r fanyleb waith
  7. goruchwylio'r gwaith o archebu ac ymdrin â stoc plannu penodedig i fodloni amcanion y safle a rheoli
  8. rheoli gweithrediadau sefydlu a chynnal coed
  9. penderfynu ar ddulliau amddiffyn ar gyfer stoc wedi ei blannu mewn perthynas â chyfryngau niweidiol ac elfennau eraill sy'n gysylltiedig â'r safle, fel ffensio a chysgodfeydd coed
  10. cadarnhau bod y plannu'n cydymffurfio â'r amcanion a nodwyd, gan wneud gwaith cynnal lle bo angen
  11. monitro'r prosiect sefydlu coed yn erbyn yr amcanion, o ran graddfeydd amser, ansawdd, cost, y canlyniadau a gyflawnir, amcanion y cynllun a'r safon a gyflawnir
  12. rheoli unrhyw wyro o'r fanyleb
  13. dilyn arfer da amgylcheddol a nodir gan y sefydliad, a lleihau niwed amgylcheddol
  14. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. gofynion rhywogaethau coed o ran y safle
  5. technegau paratoi'r ddaear
  6. defnydd o blaladdwyr a'r ddeddfwriaeth berthnasol
  7. y dulliau o blannu coed a'r gofynion cynnal
  8. y plâu a chlefydau all effeithio ar iechyd coed
  9. yr angen i amddiffyn coed rhag ystod eang o gyfryngau niweidiol a'r dulliau a ddefnyddir i wneud hyn
  10. gofynion gweithredol y fanyleb waith a'r adnoddau sydd yn angenrheidiol i weithredu'r gwaith, er mwyn cyflawni amcanion rheoli'r safle
  11. sut i gynnal bioddiogelwch coed wrth eu sefydlu a'u cynnal
  12. systemau a dulliau coedwriaeth
  13. egwyddorion coetir a adnewyddir yn naturiol
  14. goblygiadau dwysedd stoc
  15. triniaeth gywir dynodi treftadaeth, bioamrywiaeth a thirwedd
  16. sut i reoli prosiectau i fodloni amcanion y fanyleb waith, ac ymdrin ag unrhyw wyriadau
  17. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer

Cwmpas/ystod

​Dulliau amddiffyn coed:

  • ffensys
  • amddiffyniad unigol
  • saethu
  • rhwystro
  • defnyddio plaladdwyr

Rheoli gweithrediadau sefydlu a rheoli coed ar gyfer un o'r canlynol:

  • gweithgareddau masnachol
  • gweithgareddau hamdden
  • coetir cynhenid

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae cyfryngau niweidiol yn cynnwys: pryfed; ceirw; llygod y gwair; cwningod/ysgyfarnogod; fandaliaeth; tywydd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw7

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sefydlu; cynnal; coed