Plannu a sefydlu coed

URN: LANTw7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i blannu a sefydlu coed mewn coedwig, coetir neu leoliadau trefol, ynghyd â’r gofynion a chyfrifoldebau craidd.

Bydd dulliau paratoi’r tir a phlannu yn amrywio rhwng plannu mewn coedwig a choetir a phlannu trefol.

Mae meintiau coed yn amrywiol, o drawsblaniadau bach o blanhigfa, i goed chwip hyd at fetr o uchder, i goed rhannol aeddfed, ac mae angen dulliau plannu gwahanol arnynt. Gallant fod yn rhai plwg, mewn pot, gwreiddiau noeth neu bêl-wreiddyn. Mae coed mawr wedi’u tyfu mewn potiau yn drwm iawn a gall fod angen cyfarpar codi i gynorthwyo â’u symud a’u plannu.

Gallai gweithgareddau sy’n ofynnol i blannu coed gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • clirio a pharatoi safleoedd i blannu coed
  • plannu coed
  • darparu ôl-ofal i goed newydd eu plannu

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu wasanaethau tanddaearol, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Wrth blannu mewn ardaloedd trefol, gallai hyn gynnwys dal cymwysterau gwaith stryd perthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol wrth wneud gwaith coed.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  5. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’u cael
  6. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  7. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
  8. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  11. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  14. trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  15. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  16. cyflawni’r gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
  17. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  18. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  19. nodi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  20. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  21. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol

Clirio a pharatoi safleoedd ar gyfer plannu coed

  1. dewis dulliau clirio a pharatoi addas i fodloni gofynion plannu, yn unol â’r defnydd blaenorol o’r safle, risgiau a aseswyd a chanfyddiadau’r asesiad amgylcheddol
  2. gweithredu’r dulliau a ddewiswyd i glirio a pharatoi’r safle ar gyfer plannu yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd, gan gyfrif am y tywydd ac amodau’r safle

Plannu coed

  1. gwirio rhywogaeth, cyflwr a bioddiogelwch y stoc plannu, yn unol â gofynion plannu, cyn plannu
  2. trin a chludo stoc plannu yn ddiogel, gan gynnwys coed wedi’u trin â chemegion, i leihau difrod a mwyafu twf, gan ddefnyddio cyfarpar, codi lle bo angen
  3. gwirio bod y safle plannu wedi’i baratoi a’i fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu
  4. paratoi stoc plannu yn barod ar gyfer plannu yn unol â gofynion plannu
  5. lleoli a phlannu coed gan ddefnyddio dulliau priodol yn unol â meintiau coed a gofynion plannu
  6. plannu coed yn ddigon dwfn a llydan i ddarparu ar gyfer y goeden a chaniatáu am ledaenu gwreiddiau heb dorri na phlygu.
  7. yn unol â chyfarwyddyd, defnyddio compost, gwrtaith neu drochiad gwreiddiau yn unol â’r gofynion plannu

Darparu ôl-ofal i goed newydd eu plannu

  1. yn unol â chyfarwyddyd, darparu dŵr a maetholion i goed newydd eu plannu yn unol â gofynion plannu
  2. darparu cynhaliaeth ac amddiffyniad ar ôl plannu’r coed yn erbyn cyfryngau niweidiol yn unol â’r gofynion plannu a maint y coed, gan osgoi difrod i’r coed newydd eu plannu ac ystyried effaith amgylcheddol y dulliau a ddefnyddiwyd
  3. gwirio bod yr holl ddeunyddiau a ddefnyddiwyd mewn cyflwr da ac yn cyfateb i ofynion y wybodaeth a ddarparwyd, a rhoi gwybod am unrhyw namau neu ddiffygion i’r unigolyn perthnasol
  4. cynnal a chadw coed ar ôl eu plannu yn unol â’r gofynion plannu, gan osgoi difrod i’r coed newydd eu plannu ac i’r amgylchedd cyfagos

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, gan gynnwys y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill wrth i’r gwaith gael ei gyflawni
  5. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  6. gofynion cyfreithiol, rhai’r diwydiant a rhai sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  7. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
  8. sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau bod deunyddiau ar gael, lle bo angen, a phan fo angen
  9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  10. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
  11. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
  12. y gofynion o ran trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. pwysigrwydd mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut i’w cymhwyso
  14. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  15. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
  16. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  17. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
  18. y problemau a all godi wrth blannu coed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  19. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  20. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Clirio a pharatoi safleoedd ar gyfer plannu coed

  1. y dulliau gwahanol o glirio a pharatoi safleoedd i blannu coed
  2. effaith y defnydd blaenorol o’r safle, y math o bridd, yr hinsawdd, y tywydd, amodau’r ddaear a thriniaethau blaenorol ar ddewis dulliau clirio a pharatoi
  3. sut i ddelio â chyfleustodau tanddaearol, ar yr arwyneb neu uwchben, neu rwystrau eraill wrth glirio a pharatoi safleoedd
  4. gofynion draenio’r safle
  5. sut i adnabod chwyn, plâu, clefydau a llystyfiant digroeso, a pha gamau i’w cymryd
  6. y dulliau priodol ar gyfer diheintio safleoedd a phryd mae angen hyn

Plannu coed

  1. yr amodau gorau sydd eu hangen ar gyfer plannu a phwysigrwydd amseru
  2. sut i ddewis ansawdd, cydnawsedd, maint a rhywogaeth gywir y stoc i fodloni’r gofynion plannu
  3. sut i wirio cyflwr a bioddiogelwch y stoc plannu i sicrhau ei fod yn addas i’w blannu
  4. sut i drin, cludo a storio stoc plannu i atal difrod a’i gynnal mewn cyflwr da, gan gynnwys defnyddio cyfarpar codi, lle bo angen
  5. sut i drin coed sydd wedi’u trin yn gemegol a’r PPE angenrheidiol
  6. sut i baratoi stoc plannu yn barod i’w blannu
  7. y dulliau mecanyddol a’r dulliau â llaw a ddefnyddir i blannu coed o feintiau gwahanol mewn lleoliadau gwahanol a’r gofynion ychwanegol ar gyfer plannu coed trwm yn ddiogel

Darparu ôl-ofal i goed newydd eu plannu

  1. gofynion ôl-ofal y coed newydd eu plannu i sicrhau eu bod yn sefydlu’n llwyddiannus
  2. sut i ddarparu cynhaliaeth i’r goeden tra bydd yn sefydlu
  3. cyfryngau niweidiol a sut gellir amddiffyn y goeden yn eu herbyn
  4. dulliau amddiffyn coed ar ôl plannu, pryd i’w defnyddio a sut maent yn cael eu cymhwyso
  5. dulliau cynnal a chadw coed ar ôl plannu, pryd i’w defnyddio a sut maent yn cael eu cymhwyso

Cwmpas/ystod

Mae dulliau o glirio a pharatoi safleoedd yn cynnwys:

  • casglu a gwaredu gwastraff
  • gwaredu bonion
  • gwaredu tocion (cribinio, byrnu, asglodi, llosgi)
  • rheoli llystyfiant digroeso (chwistrellu cemegol, mecanyddol, â llaw)
  • rheol plâu
  • tynnu llystyfiant ar lefel y tir (screefing)
  • digroeni
  • aredig yr isbridd
  • aredig
  • pentyrru
  • taenu gwellt
  • draenio
  • defnyddio cyfarpar ysgafn a thrwm
  • ychwanegu gwrtaith
  • diheintio

Mae dulliau o amddiffyn coed ar ôl eu plannu yn cynnwys:

  • chwistrellu neu daenu gwellt o gwmpas coed newydd eu plannu i reoli chwyn
  • gardiau, tiwbiau a chysgodau coed
  • ffensio
  • rhwydo
  • stancio
  • chwistrell atal ceirw
  • “dodrefn stryd” mewn plannu addurnol

Mae dulliau o gynnal coed ar ôl eu plannu yn cynnwys:

  • gwella’r pridd
  • dyfrhau
  • bwydo
  • cynnal a chadw systemau cynhaliaeth
  • atgyweirio/newid amddiffyniadau coed
  • tynnu a gwaredu amddiffyniadau coed yn gywir pan nad ydynt yn ateb diben mwyach

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Achosion difrod i goed:

  • trin
  • cludo
  • amseru
  • amodau’r safle
  • math o bridd
  • agwedd/wynebwedd
  • sychu
  • gwynt

Cyfryngau niweidiol:

  • pryfed
  • ceirw
  • llygod y dŵr
  • cwningod/ysgyfarnogod
  • moch gwyllt
  • da byw sy’n pori
  • chwyn
  • fandaliaid
  • y tywydd

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Coed â gwreiddiau noeth – nid oes pridd na chompost ynghlwm

Coed wedi’u tyfu mewn celloedd (plygiau) – caiff coed eu tyfu mewn pot neu gell fach, ond dwfn, i greu system gwreiddiau dwfn. Maent yn cyrraedd ar ffurf plwg dwfn gyda chompost yn barod i’w plannu.

Mae llygredd gwasgaredig mewn gwaith coed yn cynnwys: baw a silt, tameidiau bach o danwydd, olew neu lygryddion eraill a ollyngwyd sy’n cael eu rhyddhau i gwrs dŵr naturiol.

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • canllawiau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Tyfu mewn llinellau – tyfir coed yn agos iawn at ei gilydd mewn llinellau, sy’n annog twf syth a thal.

Plannu dwysedd isel – tyfir coed ymhellach oddi wrth ei gilydd i annog twf trwchus.

Meintiau coed wedi’u tyfu mewn planhigfa: (cwmpas 1m)

  • Pluog – 175-200 – 200-250
  • Safonol Ysgafn (LS) 6-8cm
  • Safonol (S) 8-10cm
  • Safonol Dethol (SS) 10-12cm
  • Safonol Trwm (HS) 12-14cm
  • Safonol Trwm Iawn (EHS) 14-16cm
  • Safonol Trwm Uwch (AHS) 16-18cm
  • Sbesimen Aeddfed 18-20cm +

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Plygiau – gweler tyfu mewn celloedd

Pêl-wreiddyn – cyflenwir y goeden ynghyd â’r pridd neu’r compost y tyfwyd y goeden ynddo.

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Gallai safleoedd gynnwys:

  • tir glas
  • tir fferm
  • dynodedig
  • trefol adfeiliedig
  • tir adferedig
  • presennol
  • ailstocio coedwig/coetir
  • gwarchodedig

Meintiau coed ar gyfer coedwigaeth:

  • 1u1 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i dandorri a’i dyfu yn y fan a’r lle am flwyddyn bellach
  • 1u2 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i dandorri a’i dyfu yn y fan a’r lle am 2 flynedd bellach
  • 1+0 – Eginblanhigyn 1 flwydd
  • 1+1 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i drawsblannu am flwyddyn
  • 1+2 – Eginblanhigyn 1 flwydd wedi’i drawsblannu am 2 flynedd
  • 2+2 – Eginblanhigyn 2 flwydd wedi’i drawsblannu am 2 flynedd

Setiau – darn o helygen wedi’i rag-dorri, y gellir ei blannu’n uniongyrchol yn y tir. Fel arfer, mae’n mesur tua 45cm.

Coed chwip – eginblanhigyn ifanc un gangen sydd tua 30 i 40cm o uchder


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw8; LANTw9

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coed; plannu