Rhagweld cynhyrchiant cynnyrch coedwig a choetir a chreu cynlluniau cynhyrchu
URN: LANTw69
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rhagweld cynhyrchu cynnyrch coedwig a choetir a chreu cynlluniau cynhyrchu. Bydd hyn yn cynnwys asesu cynnyrch tebygol pren a chynnyrch eraill a chyflwyno’r rhain mewn cynlluniau cynhyrchu tymor byr, tymor canolig a hirdymor.
Bydd angen eich bod yn gallu cymryd mesuriadau priodol a chymhwyso technegau coedwig a choetir, tablau dosbarth cynnyrch a modelau cynnyrch i gynnyrch pren ac nad yw’n bren.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig
2. asesu’r cynnyrch cynaliadwy yn seiliedig ar y stocrestr coetir neu goedwig
3. gosod y cylch teneuo a’r dwysedd i gael cynnyrch cynaliadwy mewn coedwriaeth ymarferol a ffordd gost effeithiol
4. rhagweld cynhyrchu cynnyrch coedwig a cheotir i gyd-fynd â’r data sydd ar gael
5. creu cynlluniau cynhyrchu ar gyfer cynnyrch coedwig a choetir, yn unol â pholisïau eich sefydliad
6. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
2. sut i ddehongli asesiadau risg
3. sut i adnabod rhywogaethau coed mewn coedwig a choetir
4. sut i ddefnyddio technegau mesur coedwig a choetir
5. sut i asesu risg taflu gan wynt a’r offer a’r technegau sydd ar gael ar gyfer hyn
6. sut i fesur pren sydd yn sefyll
7. sut i asesu gofynion coedwriaeth y cnwd
8. sut i ddadansoddi ffyrdd cost effeithiol o gyflawni cynnyrch cynaliadwy
9. sut i greu cynlluniau cynhyrchu gyda rhagolygon realistig ar gyfer cynhyrchu cynnyrch coedwig a choetir
10. sut i gynllunio ar gyfer cynnydd a gostyngiad o ran cynhyrchu
11. effeithiau tan/gor-deneuo, teneuo a pheidio teneuo, teneuo’n hwyr neu’n gynnar ar gnydau
12. y ffactorau sy’n effeithio ar y penderfyniad i deneuo neu i beidio teneuo
13. y ffactorau sy’n effeithio ar hyd cylchdroi
14. yr effeithiau ar gynnyrch cymysgedd o rywogaethau
15. y dulliau a’r modelau o adnabod cynnyrch cynaliadwy
16. dewis model cynnyrch
17. gofynion amgylcheddol a chadwraeth eich sefydliad a’r ddeddfwriaeth berthnasol
18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Asesu cynnyrch tebygol:
pren
cynnyrch eraill
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai **cynnyrch eraill** gynnwys unrhyw un o’r canlynol: hadau a chonau, mwsogl, dail, gweddillion cynaeafu
**Mewn meithrinfeydd coedwig, gallai’r cynnyrch eraill gynnwys** ystod o goed ifanc yn ystod cyfnodau gwahanol twf, gwreiddyn noeth, neu mewn cynwysyddion ac ati
**Taflu gan wynt**: Coeden yn syrthio mewn gwynt uchel, gan dorri’r gwreiddiau allanol, fel bod y goeden yn cael ei dadwreiddio. Mae tri phrif ddull o daflu gan wynt.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw69
Galwedigaethau Perthnasol
Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
coedwig; coetir; rhagolwg; cynhyrchu; pren