Llunio a chynnal stocrestr coetir neu goedwig

URN: LANTw68
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â llunio a chynnal stocrestr coedwig neu goetir. Mae hyn yn cynnwys casglu data’n uniongyrchol o’r goedwig a’r coetir. Dylech allu adnabod cnydau sy’n tyfu, eu meintioli a’u cofnodi mewn stocrestr ffurfiol.

Bydd angen eich bod yn gallu cymryd mesuriadau priodol a defnyddio technegau mesur coedwig a choetir.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig

  2. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith

  3. diffinio ac is-rannu'r ardal o dan reolaeth, er mwyn adnabod unedau rhesymegol er mwyn llunio stocrestr

  4. adnabod dosbarthiadau coed sy'n berthnasol i'r cnwd

  5. adnabod gwerth cofnodion presennol mewn perthynas â'r cnwd gwirioneddol

  6. penderfynu ar ddwysedd yr arolwg sy'n ofynnol er mwyn llunio stocrestr yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael

  7. llunio a chynnal stocrestr coedwig neu goetir i fodloni'r fanyleb a roddir

  8. dilyn yr arfer da amgylcheddol a nodir gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lliehau niwed amgylcheddol

  9. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE) 4. sut i ddefnyddio technegau mesur coedwig a choetir 5. y wybodaeth i’w llunio mewn stocrestr coedwig neu goetir 6. y defnydd o ffotograffiaeth o’r awyr wrth lunio stocrestr coedwig neu goetir 7. y technegau arolygu gwahanol, fel defnyddio System Wybodaeth Fyd-eang (GIS) a mapiau 8. sut i asesu’r perygl o daflu gan wynt a’r offer a’r technegau sydd ar gael ar gyfer hyn 9. sut i adnabod rhywogaethau coed mewn coedwig a choetir 10. sut i adnabod eitemau o ddiddordeb penodol 11. y dulliau o gofnodi stocrestr ffurfiol 12. y rhesymau dros wneud stocrestrau a sut y cânt eu defnyddio 13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod

Llunio a chynnal stocrestr sy’n disgrifio:

  • dosbarthiad yr ardal yn ôl rhywogaeth

  • dosbarth oed

  • dosbarth stoc a chynnyrch

  • math o ddefnydd o dir

  • unrhyw systemau dethol ar gyfer cynnyrch cynaliadwy parhaus


Llunio a chynnal stocrestr sy’n bodloni’r fanyleb ganlynol:

  • y cnydau i gael eu cofnodi

  • fformat y stocrestr

  • y cywirdeb a’r eglurder sy’n ofynnol gan yr arolwg a chan stocrestr y goedwig a’r coetir

  • diweddaru mapiau stoc

  • y gofynion amgylcheddol a chadwraeth a nodwyd gan eich sefydliad a chan ddeddfwriaeth

  • cofnodi eitemau o ddiddordeb penodol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Taflu gan wynt:
Cwymp coeden mewn gwynt uchel, gyda’r gwreiddiau allanol yn cael eu torri, fel bod y goeden yn cael ei dadwreiddio. Ceir tair prif ffordd o daflu gan wynt.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw68

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

stocrestr; coetir; manyleb; coedwig