Mesur ac asesu maint ac ansawdd pren wedi ei dorri i lawr

URN: LANTw67
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â mesur ac asesu maint ac ansawdd pren wedi ei dorri i lawr gan ddefnyddio’r dulliau a’r offer priodol. Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer wrth wneud y gwaith hwn.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig 2. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith 3. mesur a chofnodi maint y pren sydd wedi ei dorri i lawr, yn unol â’r fanyleb 4. defnyddio a chynnal a chadw’r offer mesur priodol 5. asesu ansawdd pren wedi ei dorri i lawr 6. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE) 4. sut i ddefnyddio mesuryddion boncyffion a thablau meintiau metrig 5. dosbarthu a chyflwyno mesuryddion bonion pren meddal 6. sut i ddefnyddio byrddau traed hoppus wrth asesu a rhagweld meintiau pren wedi eu torri lawr ar gyfer coed dail llydan mawr 7. sut i fesur, cofnodi a chyfrifo maint pren wedi ei dorri lawr ar gyfer cofnodi stoc, ar gyfer cadarnhau'r math o werthiant a thaliad mewn perthynas â’r gwaith a wnaed 8. sut i ddefnyddio pecynnau cyfrifo maint cyfrifiadurol 9. y berthynas rhwng dros-rwymo (O/B), tan-rwymo (U/B), tunelli’n seiliedig ar rywogaethau, maint ac oed pren, amser o’r flwyddyn a’r amser torri i lawr 10. sut i adnabod rhywogaethau coed o bren wedi ei dorri i lawr 11. nodweddion rhywogaethau gwahanol o bren a sut y mae hyn yn effeithio ar eu hansawdd a’u gwerth posibl 12. y graddau gwahanol o bren a’u gwerth perthynol 13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Sut i fesur:

  • boncyffion a pholion unigol

  • coed unigol

  • pren crwn bach

Maint pren wedi ei dorri i lawr:

  • diamedr uchaf o dan y bar (U/B) a diamedr canolig dros y bar (O/B) x hyd (ar gyfer boncyffion a pholion)

  • diamedr uchaf ar gyfartaledd x hyd (ar gyfer amcangyfrifon pren crwn bach)

  • hyd ar gyfartaledd x uchder x lled x c/f ar gyfer gofod aer (ar gyfer maint wedi ei bentyrru)

  • mesuriad maint a throsi i fetrau ciwbig U/B

  • metrau ciwbig O/B – tunelli/m3 ffactor trosi


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw67

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

wedi eu torri i lawr; mesur; asesu; maint; pren