Dewis, nodi ac asesu maint y coed sydd yn sefyll

URN: LANTw66
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis, nodi ac asesu maint y coed sydd yn sefyll er mwyn paratoi ar gyfer cynaeafu. Mae’n rhaid i chi ddangos detholiad, nodi plotiau sampl a nodi coed yn barod ar gyfer eu tynnu allan. 

Gellir nodi coed hefyd i ddynodi eu tynnu, eu dewis, neu’r rheiny sydd i aros yn y tymor hwy. Mae’n rhaid i ddewis a nodi coed ystyried llwybrau tynnu allan.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig 2. dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) ar gyfer y gwaith 3. nodi ardal y coed sydd yn sefyll i gael eu hasesu a’u nodi 4. cwblhau gweithdrefn cyn tariff i sefydlu cynllun samplu priodol ac os ydych yn teneuo, y dwysedd gofynnol 5. dewis, nodi, mesur ac asesu maint y coed sydd yn sefyll yn unol â’r fanyleb a roddir a’r tariff priodol 6. cwblhau’r gwiriadau maes tariff priodol er mwyn sicrhau dileu gwallau 7. gwirio’r dwysedd teneuo gan ddefnyddio plotiau sampl 8. cadw cofnodion o goed sydd yn sefyll, fel y bo angen 9. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg 2. sut i ddehongli asesiadau risg 3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE) 4. arwyddocâd y canlynol wrth asesu maint y coed sydd yn sefyll: dwysedd teneuo, cynnyrch teneuo, plot sampl, ragiau gofod, lled ragiau, cynnyrch, mat malurion, dosbarthiad a dulliau gweithio perygl gwynt, systemau tyfu coed, rhywogaethau coed a dull tynnu allan  5. y weithdrefn dariff 6. sut i fesur cynnyrch teneuo, dwysedd teneuo a’r ardal sylfaenol 7. pryd y mae’n briodol i dorri cyfaint o goed sampl i lawr 8. y meini prawf ar gyfer penderfynu rhwng dulliau dethol a systematig o ddewis 9. arwyddocâd mathau teneuo ar ddewis a nodi, gorchuddio isel, canolradd, corun a llinell 10. y defnydd priodol o offer a chyfarpar nodi wrth ddewis a nodi coed 11. sut i ddefnyddio systemau tariff llawn ac wedi eu talfyrru 12. sut i adnabod rhywogaethau o goed sydd yn sefyll 13. goblygiadau tir, tymor, tywydd a rhywogaethau 14. manylebau cynnyrch, yn cynnwys ansawdd isafswm ac uchafswm hyd ac isafswm ac uchafswm diamedrau 15. y cynnyrch a’r marchnadoedd sydd ar gael 16. y cofnodion priodol i’w cadw a’u harwyddocâd 17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ardal sylfaenol coeden unigol yw ardal drawstoriadol y goeden ar uchder ei mynwes

Mae Gweithdrefn dariff yn cynnwys tri cham sylfaenol yn amcangyfrif maint coed sydd yn sefyll

Manylebau’r cynnyrch e.e. pyst ffensio, pyst telegraff

Tariffau yw’r gyfres o dablau maint “lleol” wedi eu llunio ymlaen llaw


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw66

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

maint; coed sydd yn sefyll; nodi; asesu