Arolygu ac archwilio cyflwr coed
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arolygu ac archwilio cyflwr coed.
Byddwch yn paratoi ar gyfer, yn cynnal ac yn adrodd ar arolygon ac archwiliadau. Gall arolygu ac archwilio, fodd bynnag, ddigwydd gyda'i gilydd yn dibynnu ar fanyleb y swydd. Gallwch hefyd fod yn gweithio i safonau allanol.
NODER: dim ond i gadarnhau'r diagnosis bod y goeden i gael ei thorri i lawr y dylid defnyddio technegau ymledol ac anymledol i ymchwilio i gyflwr coed.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cytuno ar y trefniadau mynediad ar gyfer gwaith arolygu neu archwilio gyda'r bobl berthnasol
- adnabod bob un o'r coed i gael eu harolygu neu eu harchwilio yn gywir
- cadarnhau rhywogaethau a safle'r coed i gael eu harolygu neu eu harchwilio
- plotio coed mewn perthynas â nodweddion sefydlog y safle
- dewis a defnyddio technegau ac offer priodol i asesu a gwerthuso cyflwr coed
- casglu data am y goeden, sy'n briodol i fanyleb y swydd
- asesu a chofnodi cyflwr a dosbarth oed coed, yn unol â'r fanyleb
- casglu data'n ymwneud â dimensiynau'r coed, sy'n briodol i ofynion y fanyleb
- casglu data'n ymwneud â chyflwr ffisegol a ffisiolegol y goeden (coed), yn briodol i'r fanyleb
- cofnodi a chyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n briodol i ofynion y cleient a'r systemau adfer data
- gwneud argymhellion ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar eich asesiad
- lleihau effaith eich arolwg neu archwiliad ar iechyd y goeden a'r amgylchedd
- cynnal cofnodion addas o'ch arolwg neu archwiliad a'ch argymhellion
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- sut i gytuno ar drefniadau mynediad a pham y mae hyn yn hanfodol
- sut i ddefnyddio mapiau, cynlluniau, systemau GPS a nodweddion sefydlog i leoli a phlotio coed
- sut i adnabod genera a rhywogaethau coed a goblygiadau dosbarthiadau oed
- sut i adnabod plâu a chlefydau sy'n effeithio ar goed a'u goblygiadau
- sut i ddehongli manylebau arolwg ac archwiliad
- sut i gyflwyno data i greu adroddiadau argyhoeddiadol sydd yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer gweithredu pellach
- y proses o "asesu coed yn weledol" i archwilio coed, cofnodi data perthnasol a chyfyngiadau'r dulliau hyn
- cyfnodau arolygu ac archwilio coed
- y technegau a'r offer a ddefnyddir wrth arolygu ac archwilio coed
- sut i fesur a chofnodi dimensiynau coed yn unol â manyleb y swydd
- sut i asesu a chofnodi cyflwr ffisegol (strwythur ac egni) coed, er mwyn helpu i wneud penderfyniadau a chreu cynlluniau rheoli
- sut a phryd y gellir defnyddio dulliau ymledol ac anymledol fel cymorth i wneud penderfyniadau yn ystod y broses archwilio, a goblygiadau defnyddio'r dulliau hyn
- sut i ddadansoddi data sy'n cael ei greu gan offer monitro coed fel canfod pydredd a mesur taldra
- sut i wneud argymhellion ar gyfer gweithredu sy'n seiliedig ar, ac wedi eu cefnogi gan, eich asesiad
- sut i sicrhau nad yw eich gwaith yn cael effaith niweidiol ar iechyd y goeden
- sut i flaenoriaethu arolygon ac archwiliadau yn seiliedig ar feysydd targed, risg i bersonau ac eiddo, ac oed a'r math o goeden
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Arolygu:
- coed unigol
- grwpiau o goed
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Dimensiynau coed:
- taldra
- cwmpas
- lledaeniad corun
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Archwiliad: gwirio a chofnodi iechyd, cyflwr a statws coed a gwneud argymhellion ar gyfer gofal coedyddiaeth y coed hyn**
*
*
Arolwg: cofnodi (a lle y bo'n briodol mapio) presenoldeb a safle coed (rhywogaethau ac unigolion) o fewn ardal wedi ei diffinio